Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiÿynfa."—Ps. xlviii. 3. Ii&íiffpjl ijr f glrap. Twr y glooh treigla uchod,—ei wyi hen I wasanaetb Duwdod; Cana ei heo dinc hynod, Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Knmr Fábdd. O fewu dy gaerau tv ddwch boed, I'th lysoeod d<»u<-d hawddft 4 ■. Kr rnwyja fy mrodyr mae'r «r<-h t«iu, A'm cymmydogion hsfyd. Pb. cihi. Ctf. VI. Rhif. 11. EBRILL, 1879. Peis 2g. CYNNWYSIAD. At Eglwyswyr selog, llen a lleyg........ 161 Yr EglwyB ai Ymneillduaeth........ 162 Agor y Mynwentydd .. ........ 163 Rhyddfrydiaeth yr oes.......... 164 Mr Joseph Arch ac nndeh y tir-lafurwyr, neu weision ffermydd.............. 165 The Ancient BritÌBh Church ........ 165 Ystadegaeth Ymneillduol.......... 167 Methiant y rhwyd Ymneillduol fynwentaidd i ddal Offeiriad Altenham .......... 168 Cospi dyn am ei olygiadaa ........ 169 Undeb Eglwys â Gwladwriaeth yn llesol .. .. 171 Defodaeth yn y capel: corau canu .. .. .. 173 Perygl yr Eglwys............ 175 Y werin YmneiUduol a'r Eglwys........ 175 Effaith y drefn wirfoddol.......... 176 AT EGLWYtìWYB SELOG, LLEN A LLEYG. YN ein rhifyn diweddaf galwasom sylw ein darllenwyr at yr ystadegau anghywir a thwyllodros a ddefnyddir gan yr Ymneillduwyr politicaidd yn ei hymosodiad ar yr Eglwys. Credwn nas gall neb a ddarllenodd yr ychydig ífeithiau eglur, ond argyhoeddiadol, a roddasom yn ein herthygl arweiniol, lai na gweled a chyfaddef nad oes dim coel i'w roddi ar y ffigui- au a ddefnyddir gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd a'i chefnogwyr. Pan gawn fod yr Agricultural Hall, íslington, er wedi ei hadeil- adu at amcanion bydol, ac nid crefyddol, a chan gwmpeini o fasnachwyr, ac nid gan yr Ymneill- duwyr, etto yn cael ei cbyfrif ym mhlith capelydd yr Ymneillduwyr yn returns y Cofres- trydd Cyffredinol, a phan gofiom fod cyfrif yr un adeilad hwn fel capel yn ychwanegu ar unwaith tua deng mil ar hugain at nifer yr eisteddleoedd Ymneillduol, pa werth yw ystad- egau Ymneillduol i un dyn diduedd a diragfarn"? Wrth gwrs, y mae y rhai a ddefnyddiant yr ystadegau hyn er mwyn c>rhaedd amcanion politicaidd yn gwybod yu dda eu bod yn hollol ddiwerth a thwyllodrusj ond yr ydym bellach wedi cael digon o brofion nad yw gwirionedd, a thegwch, a chyfiawnder, o ddim pwys yng ngolwg wirepullers y Liberation Society. Y mae y rTaith eu bod yn defnyddio ystadegau tebyg i'r rhai y dangosasom eu twyll a'u hocced yn ein rhifyn diweddaf, yn ddigon i brofi hyn. Ond er ein bod yn cael ein gorfodi i amheu gonestrwydd a didwylledd / wirepullers, yr ydym yn barod i gyfaddef y gall Uiaws o Ym- neillduwyr diniweid, yn weinidogion a gwran- dawyr, ddefnyddio y cyfryw ystadegau yn berfîaith ddifalais ac yn hollol onest. Credant hwynt oblegid eu bod wedi eu gweled mewn print Y maent wedi gweled mewn print yn y Faner, y Tyst ar Dydd, y Goleuad, neu ryw un neu ychwaneg o'r wythnosolion Radicalaidd, yr haeriad fod y capelydd Ymneillduol yn y deyrnas yn ugain mil o nifer. Wrth gwrs, gan fod yr haeriad wedi ymddangos mewn newyddiadur perthynol i'r enwad, a hwnnw o dan olygiaeth rhyw wr neu wyr parchedig, y mae yn rhaid fod yr haeriad yn wir. Ond mewn gwirionedd nid ydym yn credu fod nifer y capelydd Ymneillduol yn fwy na hanner y nifer a hawlir. Credwn nad oes fwy na deng mil o bellaf o gapelydd Ymneillduol yng Nghymru a Lloegr, a chau allan o nifer y capelydd y Public Halls, yr ystafelloedd mewn tai annedd, y bwthynod, y pobtai, y railway arches, a lliaws o lefydd cyífelyb a hawlir fel capelydd gan yr Ymneilldu- wyr, pan yn ymffrostio fod nifer y capelydd yn ugain mil. Yr ydym yn galw sylw arbennig at y ffeithiau canlynol:— (i.) Gellir cofrestru unrhyw adeilad fel capel