Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

s^ " Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddifly'nfa,>>~-Pa. xlviii. 3. ImìiìiiffpWIr <M ŴSft^^^ •^•^•nyWrfánifod. Ebbjí Faedd. O fown dy gaerau heddwch boed, I'th lysocdd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r areh hon, A.'m cymmydogion hefyd. Pa. oxxn. Cyf. VI. Rhif. 6. TACHWEDD, 1878. Peis 2a. CYNNWTSIAD. Crynodeb * Ein Heglwys a'n Gwlad " ...... V digwyddiad dychrynllyd yn chwareudy y Colosseum Liverpool, a'i wersi Amddiffyniad yr Eglwys a Phleidiau Politicaidd ^rglwydd'Selbourne aír Ddadsefydliad .. ÎJeth am y Gynnysgaeth ? .. îerfynaupriodol cynnwysfawredd yn yr Eglwys Sefyd íedig ............ Jîil Claddu Mr Balfour ........ Coleg yr Iesu, Ehydychen .. .. .'. Yr Eglwys ac Addysgiaeth Grefyddol Yr Eglwys, ei heiddo, gwaddoliad a chyllid, yn eu per. thynas â'r Wladwriaeth GRYNODEB. 81 82 81 85 87 88 90 92 98 í>l 96 YCHYDIG yn ol, gosodwyd i lawr garreg sylfaen capel newydd yn Ninbych. Traddododd W. Williams, M.P„ araith ar yr achlysur. Darluniai Anghydffurfiaeth fel cartrefle rhyddid. Tua'r un í>ryd, ymadawodd y Parch. W. Robinson, Gweinidog ỳr Annibynwyr yng nghapel Bethesda, Runcorn, ig Ymneillduaeth, er mwyn ymuno â'r Eglwys, a chyhoeddodd ei reswm dros wneyd hyn. Yn ei bregeth ymadawol, cawn esponiad gan wr profiadol ar haeriad Mr. Watkin Williams, sef bod Anghydffurf- iaeth yn gartrefle rhyddid. Dywedodd y Parch W. Ilobinson, ei fod, ar ol ystyriaeth bwyllog a difrifol, Wedi penderfynu gadael Ymneillduaeth. Yr oedd ei holl berthynasau yn Ymneillduwyr, ac yr oedd Wl gyssylltiadau ei oes yn gyssylltiadau Ymneill- duol. Yr oedd ef mor hyddysg â neb yn hanes í llenyddiaeth Ymneillduaeth, ond er hyn i gyd, yr oedd wedi penderfynu gadael Ymneillduaet h, a. hynny oblegid ei gweithrediadau mewnol. Yr Oedd yr oruchwyliaeth y gorfodid pregethwyr Ym- tteillduol i fyned drwyddi, pan ar brawf, yn ddi- taddiad dychrynllyd; yr oedd tra-awdurdod, sarug- rwydd, a gormes y lord deacons y fath ag nas gallai cig a gwaed eu dioddef ; ac yr oedd y " cyfarfodydd Êglwysig" yn warth i grefydd. Yr oedd Anni- byniaeth yn rhagorol fel idea, ond mewn ymarfer- lad, yr oedd yn druenus. Yr oedd y Parch W. Robinson, ar ol hir brofiad, gan hynny, yn ffarwelio â hi. Nid yw y Parch. W. Robinson ond un o gannoedd o Weinidogion Ymneillduol a ffarwelient âg Ýmneillduaeth ar unwaith, pe gwelent eu fibrdd yn glir i gael gweinidogaethu yn yr Eglwys Gŵyr ein Hesgobion a'n Caplaniaid yn dda nad oes prinder ymgeiswyr am urddau sanctaidd yn yr Ejjlwys o blith Gweinidogion Ymneillduol. Dro yn ol, dywedodd y Canghellydd Espin ei fod ef, mewn yspaid pym- theng mlynedd, wedi derbyn ceisiadau oddi wrth tua chant a hanner o Weinidogion Ymneillduol Gŵyr y rhai sydd mewn sefyllfa gyffelyb yng Nghymru, fod ugeiniau o Weinidogion y gwahanol enwadau yn hiraethu am waredigaeth oddi wrth yr ormes ddiaconol. Dymunem ddwyn ar gôf i Mr. W. Williams fod pethau yn fynych yn ymddangosiadol yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn wirioneddol. Mewn idea yn unig y mae Anghydffurfiaeth yn gartrefle rhyddid, mewn ffaith nid yw, fel y tystiol- aetha y Parch. W. Robinion, ond nythle gormes cecraeth, ac anghydfod. YMAE cynnulleidfa Grove chapel, Gomersal, yn swydd York, mewn cryn helbul. Y maent " wedi ymryson ar y fiordd.'' Ychydig yn ol aeth y capel yn wag, ac yr oedd yn rhaid cael gweinidog newydd. Daeth lliaws o ymgeiswyr i breget.hu "ar brawf," ac i ddangos eu doniau. O'r diwedd, daeth Mr. Crookall. Cafodd rhan o'r gynnulleidfa eu boddloni i'r fath raddau fel y penderfynasant roi " galwad " iddo; ond ow ! nid oedd yr '* alwad " yn " alwad unfrydol." Mynnai un ran o'r gynnulleidfa ei bod yn afreolaidd ac anghyfreühlawn. Y mae agoriad •• Tŷ y Gweinidog" ym meddiant un o ymddiriedolwyr y capel, ac y mae yn gommedd ei rhoi i fynu; a phan ddaeth Mr. Crookall i weled y tŷ ac i fesur yr ystafelloedd er mwyn darparu carpedau, gorfu i un arall o'r ymddiriedolwyr dorri y ffenestr er gallu myned i mewn. Ysgrifena un o'r athrawon, a dywed " nad yw yn ewyllysio drwg i Mr. Crookall, ond ar yr un pryd, na fyddai ganddo un gwrth- wynebiad yn y byd i Mr. Crookall gael ei gipio i'r nefoedd mewn cwmmwl am dderbyn y fath alwad.'' Druan o Mr. Crookall! Nis gwyddom beth a fydd diwedd y terfysg; ond gwyddom fod yr amgylchiad yn dysgu dwy neu dair' o wersi tra buddiol. Y mae yn dysgu fod gan y rhai sydd mor flaenllaw i ymosod ar yr Eglwys ddigon o waith i ddiwygio gartref, pe gwnaent ef. Y mae rhyw- beth mewn Ýmneillduaath, fel system, sydd yn magu anghydfod a checraeth- Y mae yn dysgu hefyd fod gan Eglwyswyr achos i ddiolch am y tawelwch a fwynhânt. Ac .yn olaf, y mae yn dysgu nas gall