Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Duw yn ei phalasau a adwaenir ÿn amddijfîmfa."__Ps. xlviii. 3. iiìiìiiffpiîìiìí nr Xwr j tíloch treigla aohod,—ei wy» hen I waaanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Ebbw Fabdd. O fewn dy gaerau heddwch boea, l'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Fa. ciin. Ctf. VI. Rhif. 4. MEDI, 1878. Pris 2a. CYNNWYSIAD. Crynodeb .. .. ........ îsgrythyroldeb a Buddioldeb Sefydliad Eglwysig Gwladol Cynhadledd Flynyddol Esgobaeth Bangor Wesleyaetb Bardd Badicaliaid Sir Drefaldwyn yn dysgu dynion i dwyllo ...... Y öydymgynghorfa Pan-Anglicanaidd Addysg grefyddol yn yr Ysgolion Dyddiol Nodiadaa gan Lleuddad .. Pa fodd y mae gwneud A ddysg yr Ysgol Sul yn fwy cynnyrchiol fel meithrinfa i'r Eglwys ? ^cbyFödeb. MYNYCH y clywsom gwyno am nad oedd yn yr iaith Gymraeg Lyfr Gweddi Teuluaidd wedi ei drefnu ar gynllun Eglwysig,a chydnaws âg yspryd y Llyfr Gweddi Gyffredin ; ac ofnwn fod ugeiniau o deuluoedd Eglwysig yn ein gwlad a esgeulusant y Weddi Deuluaidd yn gyfangwbl o ddiffyg y cyfryw lyfr. Y mae y diffyg hwn yn awr wedi ei wneud i fynu. Y mae Deon llafurus a dysgedig Bangor wedi cyfansoddi a chyhoeddi Allo r te Aelwyd : Llyfe Gwbddi Teuluaidd. Yr ydym wedi darllen y llyfr drwyddo yn ofalus, a gallwn ddwyn tystiolaeth ei fod yn arddangos adnahyddiaeth helaeth â'r Ysgrythyr liân, fod y brawddegau yn fyrion, taclus, a darllen- adwy ; fod yr iaith yn syml a Chymreigaidd, a bod y ?v?eddiau yn gynnwysfawr, aruchel, ac ysprydol. r ydym hefyd ym mawr hoffì cynllun y llyfr. I ddechreu ceir gwersanau byrion a phwrpasol, wedi eu dethol, gan mwyaf, o'r gyfrol sanctaidd. Yna ceir cyfarwyddyd mewn rhyddell fer i ddarllen cyfran o'r gyfrol ysprydoledig; yna ceir gweddi bwrpasol i'r dydd; a gorphenir trwy ddarllen gwersanau byrion drachefn. Nis gallwn lai na gobeithio y bydd i'r Uyfr tra defnyddiol hwn gael cylchrediad helaeth trwy y Dywysogaeth. Ond efallai mai y ffordd oreu i'n darllenwyr gael drychfeddwl am amcan a chyn- Hun y llyfr fyddai rhoddi ger eu bronau y rhag- ymadrodd:— " Y mae Ouw yn disgwyl i bob tŷ fod yn deml i'w ogoniant, i bob teulu fod yn gynnulleidfa yn ym- gynnull yn ei Enw, ac i bob pentoulu fod yn offeiriad i offrymmu iddo Ef weddi, mawl, a diolch. Nid oes öiodd i deulu diweddi fod yn deulu bendigedig. Bywyd yr aelwyd yw ffynnon bywyd y genedl. Os dryllîr allor yr aelwyd, y mae allor y genedl yn sicr o syrtbio. Os bydd tân y grefÿdd deuluaidd yn ym- ddiffodd, y mae goleuni a gwrés y grefydd genhedl- aethol yn darfod. Os yr esgeulusir y weddi ddirgel a'r weddi deuluaidd, ac yr ymddiriedir yn unig yn y weddi gyhoeddus a offrymmir mor aml er mwyn dangos dawn personol ac ennill gwobr y Phariseaid, y mae crefydd. er yn dêg oddiallan, yn ymlygru oddifewn fel bedd wedi ei wỳn galchu, ac yn myned yn rhagrith angeuol. Yn y dydHian hyn y mae llawer o dduwiolion yn cwynfan fod crefydd wedi ymfarweiddio, a chariad wedi oeri yng Nghymru. Y maent yn llefain ' la hyd Arglwydd yr ymguddiP' Pa le mae dy hên drugareddau ?' A r yr un pryd y mae tystion credadwy yn cyhoeddi fod yr allor deuluaidd yn cael eu hesgeuluso. Y mae lle i ofni nad ydyw yr offrwm boreol a phrydnawnol ddim yn . cael ei offrymmu yn wastadol, hyd yn nod mewn llawer o deuluoedd a broffesant eu hunain yn grefyddol. Beth ydyw yr achos ? Y mae rhai yn barnu fod oeriad yr allor deuluaidd i'w briodoli i ddiffyg yn y darpariad o foddion i aberthu. Anhawdd ydyw i benteulu offrymu aberthau byfyfyr, yn deilwng, ddydd ar ol dydd. Y mae ei adnoddau yn darfod. 0 ganlyniad rhag ofn pechu trwy aberthu y cloff, clwyfus, a'r dall, y mae yn peidio aberthu o gwbl : ac yn raddol ond yn si-cr y mae tân crefydd yn ymddiffodd yn y tŷ. Y mae y drygau hyn wedi tarddu allan o ragfarn anysgrythyrol, o blaid gweddiau aflêr a difyfyr, ac yn erbyn defnyddiad ffurf o ymadroddion iachus yn y neshàd at orsedd gras. Y mae y rhagfarn yna yn gwywo yn ngoleuni a gwrês gwybodaeth ysgrythyrol. Cynnygir y llyfryn hwn, gyda phob gostyngeiddrwydd, i sylw penau teuluoedd yng Nghymru. Od oes rhyw deilyngdod ynddo, gellir ei briodoli i'r ffaith nad oes ynddo ddim gwreiddioldeb. Nid ydyw yr awdwr wedi ymddiried yn ei eiriau ei hunan. Y mae yr holl ymadroddion yn seiliedig ar Air Duw, a geiriad y rhan fwyaf o'r brawddegau wedi ei ffurfio allan o ddefnyddiau Ysgrythyrol. Gwelir fod yr awdwr wedi amcanu rhoddi i bob gwasanaetb ei gyweirnod ei hun, yn ol tymmor ei offrymmiad yn rhedîad yr wythnos. Y mae i bob offrwm ei nodwedd, o fawl a gweddi Dydd yr Arglwydd a dechreuad gwaith dydd Llun hyd noswyliad nos Sadwrn. Nis gall yr awdwr, dan ddwys ymsyniad o annheilyngdod ei waifch, ond deisyfu ar Dduw fendithio yr ymgais hon, a phob ymgais o'r fath, fel y byddont yn offerynol i ail gynneu, ar allor aelwyd Cymru, nefolaidd dân gwir addoliad teuluaidd, íel y rhodiom yng ngoleuni yr Arglwydd."