Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iroìttöffpjìtìi rçr €glmp Z)î«ü »/» ei phalasau a adwaenir yn amddiŷynfa.—Ps. xlviii. 3. Cyf. II. Rhif. 4. EBRILL, 1882. T CYFRES "I LHEWÍDD.J Pris 2g. <lx%naòtb. MR. HENRY RICHARD, A.S., AR ANGHYDFFURF- IAETH YNG NGHYMRU. ]RADDODWYD darlith gan Mr. Richard yn y Memorial Hall, Farringdon-street, Llundain, ar y testyn uchod, mis Chwef- ror diweddaf. Llefarai yn ffafriol am lafur presennol yr Eglwys, a chydymdeimlai â'i frodyr esgohyddol yn eu digofaint cyfiawn yn erbyn yr anghyfiawnder a osodwyd arnynt yn y gorphenol trwy appwyntiad o Esgohion Seisnig, o dan y syniad politicaidd y diffoddid trwy hynny yr iaith Gymraeg, ac yr unid y ddwy genedl. Ar yr un pryd, ystyriai " y dylid gwrthwynebu y pwysigrwydd gormodol a roddid i'r matter hwn fel unig achos methiant y írefydliad Eglwysig gan rai o'i hamddiffynwyr." Y casgliad a ewyllysia ei dynnu yw—fod yr Eglwys yn fethiant, ac Anghydffurfiaeth yn llwyddiant, a chyngora Eglwyswyr i ddisgyn o'u safie presennol i gydraddoldeb teilwng â'u brodyr o enwadau eraill, yna credai y byddai iddynt yrfa mwy llwyddiannus nag y mae eu Heglwys erioed wedi ei fwynhau. Wrth gydraddoldeb yr ydym yn deall mai rhoi fynu y gwaddoliadau a feddylia yn bennaf. Ein meddwl yw, gan ein bod wedi bod gymmaint o ganrifoedd yn casglu yr arian, ac yn gweled «' yr EglwysiGwirfodd- ol " yn ymegn'io am waddoliadau a " chronfa fugeil- iol," nad yw yn fanteisiol gollwng o'n gafael era heiddo cyfreithlon a roddwyd ac a roddir bob dydd i'r Eglwys yn wirfoddol. Ym mhellach, gan fod yr anghyfiawnder o bennodi Esgobion Seisnig wedi ei ddileu gan Mr. Gladstone, yn ol cyfaddefiad Mr. Richard ei hun, a fyddai ddim yn gyfiawn hefyd i'r Eglwys gael chwareu teg i wneud ei dyledswydd tuag at y genedl ar ol ei rhyddhau oddiwrth yr anfantais yma. Carem chwanegu gair hefyd er gofyn a ydyw cyflwr moesol a chrefyddol presennol Cymru yn cael ei gydnabod gan Ymneillduwyr i gyd fel un dymuuol. Côf gennym ddarllen erthygl yn y Goltuad, er's peth amser yn ol, am ffrwythau Ym- neillduacth yn rhan uchaf sir Aberteifi. Os ydyw petbau yn debyg fel y desgrifir hwynt, gellir amheu a ydyw llwyddiant Ymneillduaeth mor gyflawn ag y desgrifir ef. Yr oeddem yn barod i gasgliadau yspeiliadol Mr. Richard, ac yn gwybod ei fod yn cymmeryd yn ganiattaol mai uu Eglwys oedd yr Eglwys Brydeinig, ac maiEglwys arall yw yrEglwys bresennol, ac mai nid eiddo yr Eglwys bresennol yw y gwaddoliadau. Pe buasai yn credu mai Eglwys arall, neu Eglwys newj'dd, yw ein Heglwys, pc buasem yn credu mai nid ei heiddo hi yw y gwaddol- iadau, buasem yn myned ym mhellach o lawer na Mr. Itichard yn ein casgliadau; buasem nid yn unig yn barod ei dadwaddoli, a rhoi yr eiddo i'r iawn berchen, ond hefyd chwilio am yr hên Eglwys. Nerth Eglwys Loegr yw—mai yr Egìwys wedi ei diwygio, ac nid Eglwys newydd yw hi. Y SENEDD-DYMHOR BRESENNOL A'R EGLWYS. Dygwyd amryw Filiau i mewn eisioes i'r Senedd yn dal perthynas â'r Eglwys. Yn eu plith mae un gan Mr. Henry Ricbard, er gwneyd y capelydd Eglwysig yn y Claddfeydd Cyhoeddus yn agored i Wasanaethau Ymneillduol: un gan Mr. Biinton, A.S. dros Kidder- minster, er gwneud taliadau am gladdu yn unffurf, ac amddifadu OíFeiriaid o'u hawliau presennol yn y fynwent: un gan Iarll Beauchamp er diddymmu y gosp o garchariad Offeiriaid am anufuddhau dedfrydau y Llysoedd (Clert's Contumacious Bill); un er chwanegu gwaddol bywiolaethau bychain, gan Arglwydd Ganghellydd; un er diddymmiad y ffurf o appwyntio Wardeniaid plwyfol, gan Mr. Monk ynghyd âg amryw Eiliau eraill. PWYLLGOR Y CYNNADLEDDAU ESGOBAETHOL Mae y pwyllgor pwysig a gynnygir ei ffurfio o gynnrychiolwyr Llen a Lleyg o bob Esgobaeth, trwy ddewisiad y cynhadleddau a gynhelir yn y gwahanol Esgobaethau, yn dechreu ennill ffafr. Gwylir ei symmudiadau yn ofalus, os nid yn ofnus, gan y Uwythau gwrth-eglwysig. Tra yn Uefaru am rydd-