Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Imìẁiffpjìŵ ijr f ûwa Duw yn ei jẃalasau a adwaenir yn amddiŷynfa.—Ps. xlviii. 3. CYF. II. IÌHIF. 3. MAWRTH, 1882. r CYPRES i Lnewydd.J Pris 2g. (&x%nobtb< SENEDD AC ANFFYDDIAETH. AE gwrthwynebiad Tŷ y Cyffredin i gan- iattau i Mr. Bradlaugh gymmeryd ei lw yn ffaith galonogol. Er nad oedd y penderfyniad a gynnygiwyd gan Syr Stafford Northcote yn cynnwys datganiad o'r eg- wyddor fod 'y senedd yn gyfyngedig i'r rhai a gred- ant mewn Duw, mae gwrthodiad Mr. Bradlaugh i gymmeryd ei sedd yn arwyddo hynny yn ymarferol. Cymmerodd efe drafferth i gyhoeddi ei ddirmyg o gred mewn Duw mewn ffordd drahaus, ond etto cyn- nygiai gymmeryd y llw arferol o ffyddlondeb, yr hwn a derfyna yn y geiriau, " Felly cynnorthwyed Duw fi." Mynnai appelio at Dduw fel tyst, tra na chredai fod Duw yn bod. Gormod oedd hyn i'w ddioddef. Byddai yn gableddus i'r Tŷ ganiattau y fath gellwair. Gwnaent eu hunain yn gyfrannogion o'r cabledd, pe safent wrth law yn dawel i edrych ar y llw yn cael ei weinyddu o dan y fath amgylchiadau. Galwyd am bleidlais gan hynny ar y pwngc, a thrwy fwyafrif o 56, sef 286 yn erbyn 228, cariwyd y penderfyniad yn erbyn holl allu y weinyddiaeth, a chauwyd yr an- ffyddiwr proffesedig allan o'r Tŷ. Gobeithiwn y bydd yr ergyd yn wers i Mr. Gladstone a'r blaid Eyddfrydig i beidio ysgrifenu Anffyddiaeth ar eu banerau. Mae llawer o'r Rhyddfrydwyr etto yn caru crefydd yu fwy na charu eu plaid boliticaidd, a dan- gosasant hynny yn groyw yn rhanniad y Tŷ. Gwnaeth Mr. Samuel Morley, yr Annibynwr hael- ionus, bleidleisio ym mhlith eraill yn erbyn ei ochr, ac, os cawn ni ddyweyd ein meddwL dros Dduw. Yn anffodus rhoddodd gefnogaeth trwy y pellybr i Brad- laugh ar ddydd etholiad Northampton, heb ystyried yn ddigonol beth oedd yn ei wneud. Fel dyn cyd- wybodol, er yr amser hynny amcana wneud iawn am ei gamsynied. Poenus gennym weled na ddarfu ein seneddwyr Ymneillduol o Gymru ymryddhau oddi- wrth lyffetheiriau plaid yn yr un modd, a gwrth- wynebu annuwiaeth agorecl haerllug. YR EGLWYS YN NOTTINGHARL Teef ydyw Nottingham a gynnyddodd mewn potl- ogaeth o 57,000 yn 1851 i 18S.065 yn 1881. Fel y gellid disgwyl oddiwrth ei chynnydd cyflym, mae ei darpariaethau crefyddol ym mhell ar ol i'r hyn a all ddigoni poblogaeth mor fawr. Gwnaed oyfriíiad crefyddolyno megis mewn llawer o drefydd eraill, a dat- guddiwyd y ffaith galarus nad oedd ond 43,344 yn bresennol yn yr addoldai o bob enwad ar Sul y cyf- rifiad. Y nifer yn yr eglwysydd o honynt oedd 14,227. Cynnwysa y ffígyrau hyn i'r meddwl ystyr- iol wirionedd difrifol. Y gwirionedd yw fod yno boblogaeth fawr yn byw heb Dduw yn y byd. Pe buasai Nottingham yn eithriad, gallasem fod yn weddol dawel; ond nid yw ond un dref o lawer. Profa ystadegau y lleoedd addoliad o bob enwad n"ad oes ynddynt le ar gyfer y trigolion. Nid yw yr ymdrechion er eu Cristioneiddio yn cyrhaedd ond uu rhan o dair o'r boblogaeth. Ac, 0 ffaith sobr ! mae yn ein gwlad—gwlad Efengyl, ac yn fwy neillduol yn y trefydd mawrion—filoedd, ic, miliynau yn byw heb fynychu unrhyw addoliad byth. Nid rhyfedd fod deiseb a thri chwarter miliwn o enwau yn cael ei chyflwyno i'r senedd dros dderbyniad anffyddwr pro- ffesedig i blith ein deddf-wneuthurwyr. Cysurus y w darllen am y cyfajfod a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nottingham, o dan lywyddiaeth Esgob Lincoln i hyrwjddo cbwanegiad gweinidogaethau crefyddol ar gyfer y boblogaeth. " Beth yw cyflwr moesol y lle ?" gofynai ei arglwyddiaeth yn ei araith. " Du yw y cofrestr a gawn o bryd i bryd yn nhudalenau y new- yddiaduron : llofruddiaethau, tad-laddiadau, babanod laddiadau, twyll masnachol, anfoesoldeb o bob math. A fedrwn ni ddisgwyl am fendith Duw arnom os na thelir parch i'w ddydd? A gredwn y gwna yr ewyllys ddynol, y rheswm dynol, gwybodaeth dynol adgenhedlu dynoliaeth heb weddi, yn ddirgel ac yn gyhoedd, yn y tŷ ac yn yr eglwys, am ras Duw ? Yr ydym ni, yn glerigwyr ac amaethwyr, yn sir Lincoln yn dioddef caledi yr Aipht yn awr. Yr ydych chwi, trigolion y dref hon, yn mwynhau Uawnder yng ngwlad Goshen. Mae eich masnach yn llwyddo gyd