Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iiìẃiffpîjìiìi ijr Cnliiis Duw yn ei pliàlasau a adwaenir yn amddiŷynfa.—Ps. xlviii. 3. Cyf. II. Rhif. 2. CHWEFROR, 1882. r CYFRE3 Lnewydd D.J Pris 2g. &SÜ (&x\müÌ!tb. CYMDEITHÂS EHYDDHAD AC ESGOB LEHPWL. MDDANGOSODD llythyr yu y Liver- pool Mercury oddiwrth y Parch. J. Guiness Rogers, B.A., gweinidog Ym- neillduol, ac un o oraclau y LiberatìoTi Society, yn gystal ag erthygl arweiniol yn ûaunod i'r Esgob Ryle ei an^hyssondeb mewn perthynas i Ddad- sefydliad. C\ f jirient yn ddiammeu at ei draethodau ar Ddiwygiad Eglwysig, yn y rhai y rhoddai bryd hynny beth cymmeradwyaeth i'.r egwyddor o Ddad- sefydliad. Y gwir yw. nad yr un peth a bleidir yn awr gau Gymdeithas Rhyddhad o dan yr enw Dad- gyssylltiad ag a wneid rai blynyddoedd yn ol. Newidia ei chyfeillion eu tir yn barhaus. Gallasem ddifynu o'i chyhoeddiadau awdurdodedig gynt broffes ddiam- mwys na feddylient lawer am ddadwaddoli neu gym- meryd ymaith eiddo yr Eglwys; ond erbyn heddyw dadwaddoliad yw y prif bwngc, ac nid yw yn amlwg iawn fod dadgyssylltiad perffaith yn beth possibl i unrhyw enwad. Deallwyd bron gyd âg arswyd y gwirionedd arwynebol fod yn rhaid i bob eiddo a phob cyttundeb crefyddol, gwladol, masnachol, ym- ddibynu ar y gyfraith. Nis gellir gorfodi neb i dalu am sêt yn y capel ond trwy gyfraith. Nis gellir gorfodi neb o'r aelodau gadw draw o'r seiat ond trwy gyfraith. Nis gellir troi y gweinidog ymaith am bregethu heresi, os bydd yn ddyn cyndyn, ond trwy appelio at lys Victoria. Ei llys hi sydd yn torri un- rhyw ddadl a gyfyd yng nghylch yr athrawiaeth, ac yn barnu a phenderfynu pa un a^ydyw yn heresi gapelaidd ai peidio yn ol daliadau yr enwad neu y capel. Ei llys hi benderfynodd fod yn rhaid i'r Parch. John Turner Stannard, gweinidog Capel An- nibynol Heol Ramsden, Huddersfield, roi ei le i fynu oherwydd ei fod yn pregethu Arminiaeth, ac yn groes i gredo gweithred y capel, neu, fel y dywedwn mewn iaith Eglwysig, yn groes i'r Erthyglau. Byddai yn attebiad digonol dros unrhyw gyfnewidiad born a all fod wedi cycjmeryd lle ym meddwl yr Esgob Ryle ar y pwngc o Ddadgyssylltiad, i ddweyd nad yr un peth y w Dadgyssylltiad heddy w a Dadgyssylltiad pan yr oedd efe yn ysgrifenu ei draethodau. Pan ddan- nodwyd i'r diweddar Arglwydd Beaconsfield ei fod wedi cyfnewid ei farn, ei atteb ffraeth oedd fod llawer o bethau wodi cymmeryd lle er hynny. Mae llawer o bethau wedi cymmeryd lle hefyd er pan ddechreuwyd advertisio Dadgyssylltiad fel meddj'giniaeth anffael- edig i bob clwy' mewn gwlad ac Eglwys. Rheswm arall a roddir dros wrthwynebiad presen- nol y Gwir Barchedig Brelad i Ddadgyssylltiad yw y chwanegiad o fywyd corpholedig a welir yn yr Eg- lwys. Ychydig fìynyddoedd yn ol ni chlywid llais y lleygwyr mewn unrhyw symmudiad, ac nis gellid dy- wedjTd fod <public opinion yn bodoli yn yr Eglwys. Mae cyfnewidiad mawr wedi cymmeryd lle yn awr, ac yn dyfod yn f wy amlwg bob dydd. Mao tiefniad- aeth mewnol a chyflwr cyffredinol yr Eglwys yn gwellhau yn gyflym. Canfyddir bywyd adnewyddol trwy bob rhau o'r peiriant, ac nid y lleiaf o'r peryglon a amgjdchynant yr adfywiad yw y perygl rhag i rai o'r diwygwyr mwyaf gweithgar fod 3rn fyr o amyn- edd digonol, ac aughofio mai araf y dechreu melin fawr weithio. Gellir troi rhod fechan yn fuan, ac âg ychydig ddwfr, ond gofyn rhod fawr bwyll a Uawer o ddwfr cyn troi. Pan symmudir holl beiriant mawr yr Eglwys, a'i holl olwynion lleol a chyffredinol trwy Brydain a'i thiriogaethau, i ymaflyd yn ei gwaith dros ei Phrynwr, ac i weithio megis âg un ewyllys, bydd yn symmudiad gwerth aros llawer i ddisgwyl am dano, ac yn wahanol iawn yn ei effaith ar y byd i symmudiadau rhannol a bychaiu. Nid oes neb mor ddall nad yw yn gweled fod rhyw arwyddion rhy- feddol o fywÿd yn cymmeryd lle yma a thraw: fod lleygwyr yn cymmeryd dyddordeb yng ngwaith yr Eglwys ac yn aeddfedu mewn gwybodaeth yng nghylch natur ei hathrawiaethau a'i threfniadau; fod undebau a chymdeithasau newyddion yn cael eu ffurfio at wahanol amcanion; fod cymmanfaoedd a chynnadleddau yn cynnyddu; ac nas gall yr amser fod }rn hir cyn y bydd cynnrychiolaeth effeithiol o'r meddwl lleygol a chlerigol yn bodoli er llefaru, dis-