Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

km0m ■— ' „DuA0 yn «» phalasau a adwaenẁ yn amddiýynf^f^Pa. xlviii. 3. Imìiìiiffptîìíìi fr $fllip. \t glooh treiglanehod,—ei wyi hen I wawnaetb Duwdod; C«n» ei hen dine hynod, Ll»n, Llan, Llan y w'r í'an i fod. Kbbn tfiBDD. O fown dy gaeran heddwoh boed, I'th lyeoedd deued hawddfyd : Er mwyn fy mrodyr mae'r aroh hon, A'm cymmydogion hefyd. Fi. oxxn. W IX. Ctp. III. CHWEFROR, 1876. Pbis 2a CYMDEITHAS AMDDIFFYNOL YR EGLWYS. CYFARFOD MAWR YM MACHYNLLETH. Nos Fercher, Ionawr 19eg, cynnaliwyd cyfarfod Oyhoeddus yn neuadd tref Machynlleth, pleîdiol i Undeb yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ac i atteb Wriadau pleidwyr cyflogedig Cymdeithas Dad- fcyssylltiad. Yr oedd yr ystafell yn orllawn, a'r Çwrandawiad yn hynod o astud tan y diwedd, î>ryd y daeth Mr. C. R. Jones, un o Agents y Oymdeithas, ar yr esgynlawr, i annerch y dorf. Ärbyn hyn yr oedd yn ugain munud wedi deg, ac yr oedd Mr. Jones wedi cael cyfleustra i ddy weud ŷ cynhelid cyfarfod wed'yn mewn attcbiad, a Wnai pawb mai doethach oedd i'r cyfarfod gael *i derfynu ar hynny. Dechreuwyd y cyfarfod am 7 o'r gloch, a chymmerodd Sackville Phelps, Esq., Newlands, y Çadair. Ar yr esgynlawr yr oedd y Parchn. Canon Óriffiths, J. M. Jones, D. Price, Machynlleth ; J. W. Kirkham, W. Jenlnns, Llanbrynmair; D. Morgan, Penegoes; R. Jones, Darowen ; W. Hiuhards, Cemmaes; T. Lewis, Towyn; G. Ro- berts, Llanegryn ; J. Morgan, Corris ; D. Evans, Llanwrin ; D. Pritchard, Nantwich; Mr. Jeffreys, Glandovey Castle; Mr. Gilbertson, Ceniarth ; Mr. Gillart, Llynlloedd ; Mr. Grifliths, Wount Pleasant; Mr. James Giilart, Mr. Hughes, Aber- Uefenny; tSv. D. P. Jones, Hendreddu ; Mr. Hugh Jones, Coleg Dewi Sant, Llanbedr; Mr. Morgan, Maengwyn Uchaf ; Mr. Hughes, Bank, a llawer o foneddigesau, &c, &c. Y Cadeieydd a ddywedodd (yn Saesneg)—Ym- gynnullasom yma heno o herwydd yr ail-ymosod- lad a wnaed gan Gymdeithas y Dadgyssylltiad— cymdeithas sydd a'i hamcan ar ddymchweliad ac ysbeiliad yr Eglwys. Nid yw yn ddrwg gennyf, îy hunan, ddarfod i oruchwyliwr y Gymdeithaa dalu ail-ymweliad â ni, canys yr wyf yn gwbl ar- ^yhoeddedig o hyn, po mwyaf y dealhr ac yr am- lygir dibemon y Gymdeithas hon, mwyaf yn y byd fydd gwrthwyneb pob dyn cydwybodol ac ünionfrydig iddi. (Clywch, clywch). Yn y cyf- arfod cyntaf dywedai Mr. C. R. Jones,Tgoruoh- wyliwr y Gymdeithas, mai ei dibenion oeddynt, diddymu pob deddf sydd yn creu anghydraddoldeb ar dir Eglwysig—dibarhau pob taliadau a cham- dreth, ac ar ol rhoddi iawn am hawliau personol, defnyddio gwaddoliadau yr Eglwys i ddibenion bydol. Gofynais pa ormes-drethoedd a gyíbdid, ac nid attebodd Mr. Jones, am y rheswm, yn ddi- ammeu, nad oedd ganddo yr un atteb i'w roddi. Cywirodd fi yn hyn—nad diben y Gymdeithas f-doedd cymmeryd meddiant o holl eiddo'r Eg- wys. Ÿmddengys nad oes arnynt eisiau ond y degwm ac ardi'ethoedd y llandir, &c, yr hyn, meddent, a roddwyd gan y Wladwriaeth i'r Ég- lwys, ac felly yn eiddo pawb. Nid ydynt yn meddwl cymmeryd y gwaddoliadau a roddwyd o adnoddau personol cyfranwyr yr oesau diweddar- af. Er gofyn iddo, ni fynegodd Mr. Jones beth oedd y dibenion bydol y neilltuid y gwaddoliadau yma iddynt, ac oddiwrth hyn gallai un feddwl y rhennid hwynt ìhwng Mr Chamberlain a'r Un- dodwyr, JKlr Bright a'r Crynwyr, y Pabyddion, a'r amrywiol sectau anghydffurfiol. Ond, dywedai Mr Jones,—dim o'r fath beth : rhoddir hwynt i ddibenion bydol. Boneddwr arall a anerchodd y cyfarfod ydoedd Mr John Jones, Felinfoel, a thrinwyd liawl yr Eglwys i'r eiddo yma yn f wy nianwl ganddo. Yr wyf yn meddwl y dylasem retainio Mr Jones, (clywch, clywch), canys pan ddarllenais ei araeth, cofiais Balaam a Balac— cyrchwyd y boneddwr i regu y bobl hyn, ond gan fendithio efe a'u bendithiodd. Cymmerodd boen Adiddiwedd i brofi pa mor gyssegredig ac henafol ydyw hawl yr Eglwys i'w meddiannau. Bhodd- wyd peth o hono tua 1000 o flynyddoedd yn ol a llawer o hono cyn amser Ethelred. Ychwanegai y Brenhin ei hun, dywedodd wrthym, pan yn annog y rhai nad oedd wedi rhoddi y ddegfed o'u tir i'r Eglwys i wneud hynny gan ddweud yn ddifrifol, " Ac na fydded i neb ddwyn oddi ar Dduw yr hyn a roddwyd i Dduw, ac a gyssegrodd ein hynafiaid iddo." Ac yna nid yw Mr Jones ond yn gofyn am ein " gweithredoedd.'' Ffurfiwn ein bàrn am ddynion wrth ycwmpeini ymaentyn gadw, a chymdeithas wrth ei chefnogwyr. Un o'r rhai mwyaf gweithgar yn eu plith yw Maer Undodaidd Birmingham, yr hwn sydd yn pleidio alltudio'r Bibl o Ysgolion y Byiddau, a tbrwy bynny sydd yn amddifadu îlawer plentyn yn y dref fawr honno o'i unig siawns i glywed dim am Dduw a'r ystad ddyfodol. Ni chaniateir ganddo