Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Duw yn ei phalasau a aâwaenir yn amddiJSÍynfa."—Pb. xlviü, 3, Twr y glocb treiglft nchod,—ei wyt hen I wasanarth Duwdnd ; Cana ei heu dinc hyuod, Llftu, Llan, Lliin }v:'v fan i fod. Kbkn Fabiiì/. O fewn dy gaerau heddweh boed, I'th lysoedd deued ha*ddfyd: Kr mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Ve. cixii. Rhip. II. Cyf. III. GORPHENAF, 1875. Pris 2q. CYNNWYSIAD. 17 Orynodeb .................... Yr egwyddor o sefydliad Eglwys neu Grefydd Gen edlaethol yn anghetiThaid gwladol ........ Pennodiad yr Esgobion ......... JStholiad 8ir Frycheiniog a chyflawnhad celwydd Rhyddfrydigrwydd Golygydd y " Faner " ..... Y gallu i gredu yn marw heb Weinidogaeth Apostolaidd 27 l«le bynnag bydd aur yno bydd achos .........30 Anfoesoldeb Offeiriaid Eglwypig............31 Amrywion.....................32 CBYNODEB. YR ydym yn cydnabod fod y Newyddiaduron Ym- neillduol yn Nghymru, pan yn cyhoeddi hanes anfoesoldeb y Person sydd wedi achosi cymmaint o gywilydd i Eglwyswyr yn Sir Fon, wedi dangos ys- pryd rhesymmol a chymmedrol. Flynyddoedd yn ol buasai erlidwyr anwybodus yn defnyddio y digwyddiad gwaradwyddns fel offeryn i ymosod ar yr Eglwys yn gyffredinol, gan awgrymmu nad oedd pechod y Person syrthiedig ddim ond engraifft o gyflwr moesol offeir- laid yr Eglwys, ac arwain eu darllenwyr i gredu fod pob llygredigaeth yn gyfyngedig i'r Églwys a phob thinwedd a daioni yn perthyn, fel etifeddiaeth Heillduol, i'r sectau. Nid oes neb ond ychydig o'r Ymneillduwyr mwyaf anwybodus wedi ymollwng i'r fath yspryd ar yr achlysur presennol. Y mae Ym- ueillduwyr gwybodus a chariadus wedi dangos cyd- ymdeimlad â'r Eglwys yn y brofedigaeth, ac wedi cyd-ymofidio âg Eglwyswyr oherwydd y drwg a wnaed i grefydd gan anffyddlondeb gwai'thus y dyn truenus sydd wedi syrthio mor isel. Y mae Ymneillduwyr yn gwybod mai peth anhawdd ueu yn hytrach ammhossibl, ydyw cadw unrhyw gym- deithas grefyddol yn hollol lân oddiwrth lygredigaeth dynion drwg. Yr oedd gan gymdeithas y Deuddeg Apostol ei Judas. Y mae yr Eglwys ymhob oes yn dioddef oddiwrth yr olyniaeth Judasaidd. A ydyw Îr enwadau Ymneillduol yn fwy Uwyddiannus yn eu ymdrechion i gadw eu gweinidogaeth yn ddi- írycheulyd ? Yr ydym yn meddwl nad ydynt hwy ddim. Y mae ganddynt well mantais i gadw y drygau ûyu o'r golwg, ond yr ydym yn credu fod anfoesoldeb yn blino cymmaint, os nid mwy ar yr enwadau Ym" neillduol nag y mae ar yr Eglwys yn Nghymru. Yr ydym yn gwybodam Gapeli jrn y Deheudir ymha rai y mae y cynnulleidfaoedd wedi bod yn gorfod dioddef presennoldeb Pregethwyr meddwon ac anfoesol flwyddyn ar ol blwyddyn. Er fod llawer o'r bobl yn awyddus i gael ymwared oddiwrthynt, etto methu yr yroeddynt. Yr oedd y peth yn cael ei guddio o olwg a chlyw y cyhoedd, ond yr oedd y diwg yno. Y mae Pabyddion yr Iwerddon yn cuddio an- foesoldeb eu gweinidogion trwy symmud offeiriad fydd wedi syrthio, o un ardal i ardal arall. Yn Eg- lwys Loegr y mae pob peth yn dyfod i'r golwg. Y mae yn hen bryd i Lywodraethwyr yr Eglwya ddyfeisio rhyw drefn fwy effeithiol i gladdu y burgyn- ion hyn, gan fod eu drewdod gwenwynllyd yn tueddu i lygru yr awyrgylch foesol, i farweiddio bywyd Eglwysig, ac i greu gwrthwyneb yn y bobl tuag at yr Eglwys. YRydym yn llawenhau fod Eglwyswyr Lloegr hyd yn hyn wedi dangos ewyllysgarwch i roddi chwareu teg i'r Eglwys Wyddelig, ac i ymattal rhag ei chondemnio cyn yr amser. Yn ol ein barn ni cyfeiliornodd y Gynnadledd ymhell, wrth fabwysiadu y cyfnewidiadau sydd wedi eu gwneud ganddi yn y Llyfr Gweddi, yn enwedig pan y rhyfygodd ddarnio Credo Sant Athanasius, gan adael allan y dystiolaeth am yr anghenrhaid o iawn gred yn ymgnawdoliad ein Harglwydd Iesu Grist. Ond ar yr un pryd yr ydym yn barnu nad oedd y cyfeiliornad ddim yn ddigon i gyfiawnhau gwaith Archddiacon Lee, a'i gyfeillion, pan yr oeddynt yn bwriadu ffurfio Eglwys newydd ar wahan oddiwrth yr Eglwys Wyddelig. Nid ydyw y Gynnadledd Wyddelig ddim wedi gorphen ei gwaitn peryglus, ac y mae ganddi allu i alw yn ol yr holl gyf- newidiadau a gynnygiwyd. Yr ydym yn gobeithio y byddhi yn cymmeryd mantais yn y flwyddyn nesaf o'r lle i edifeirwch a adawyd iddi, ac na welir dim rhwyg yn ei chorlan. Y mae hen ddigon o ymranniadau crefyddol yn y byd. Nid oes dim achos am ychwanegu attynt. Nid ychwaneg o ymrwygiadau, ond ad- newyddiad undeb crefyddol ydyw anghen mawr y dydd. YMAE Dr. Dollinger, arweinydd dysgedig yr Hen Gatholiciaid ar y Cyfandir wedi ysgrifenu y llythyr canlynol at Broffeswyr Duwinyddol Eglwys Roeg, i'w gwahodd i'r Gynnadledd a gynnelir yn fuai yn Bonn:— " Y llynedd cynhaliwyd cyd-ymgynghoriadÄU yn