Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dwo yn ei phalasau a aâAoaenir yn amäMSynfa»~-Pb. xlviü. 8. lifrlipp nr Cglip. Twr t Rlooh treigla uchod,—ei wy» ben I waaanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, Llan, Llan, Llan /ẁ'r fan i fod. Ebbit Fabdd. Rhif. XI. Ctf. II. CYNNWYSIAD. Orynodeb ............... Dysgawdwr Trigolion Bethesda...... " Sustentation Fnnd" y Methodistiaid... Pregethuyr Efengyl i'r Oyfoethogion ... Seot Newydd yr Ymysgydwyr (8hnkers) O fewn dy gaeran heddwch boed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r aroh hon, A'm oymmydogion hefyd. Fs. ciiii. EBRILL, 1875. Pbis 2g 161 163 166 168 169 Y " Faner " ar Lwyddiant Pabyddiaeth yn Nghymru 171 Y " Pall Mall Gaaette " ar iaith y Dadgyssylltwyr ... 172 Mêl Gwaharddedig yn yr Offrwm Tanllyd ...... 174 Amrywion..........,.......... 176 GBYNODEB. YMAE Ue i ofni y bydd dyrnod y Mesur newydd i drefnu addoliad cyhoeddus yr Eglwys, yr hwn a fabwysiadwyd y llynedd gan y Senedd ar gais Archesgob Caergaint, ac a ddaw i weithrediad ar y dydd cyntaf yn mis Gorphenaf, yn disgyn yn drwm ar rai o'r offeiriaid hynny ag sydd yn dwyn mawr sêl dros ad- newyddiad allanolion y Gwasanaeth cyhoeddus yn ol eu golygiadau hynafiaetbol eu hunain. Wrth edrych ymlaen at hyn, y mae yr Esgobion dippyn yn bryd- erus. Y maent wedi ysgrifenu cylch-lytnyr bugeiliol at Offeiriaid a Lleygwyr yr Eglwys. Ynddo y maent yn cwyno fod rhai o'r Offehiaid yn euog o ddangos yspryd afreolaidd gan ommedd ufuddhau i awdurdod gyfreithlon eu Penbugeiliaid ; ac ar yr ochr arall fod rhai o'r Lleygwyr yn rhy dueddol i ddrwgdybio diben yr ymdrechion clodwiw a wneir gan lawer Offeiriad i harddu a bywhau y Gwasanaeth Dwyfol yn y"r Eglwys. Y mae yr Esgobion yn annog yr Offeiriaid a'r Lleyg- wyr fel eu gilydd i fod ar eu gwyliadwriaeth rbag ymollwng i gael eu gorchfygu gan yspryd ymryson- gar, ac yn erfyn arnynt am feithrin teimladau o gariad ac undeb brawdol. Y maent yn gofyn sylw Cristion- ogion at y peryglon dirfawr sydd yn amgylchynu crefydd. Anffyddiaeth ac annuwioldeb a fygythiant yr Eglwys ar bob ochr, ac y mae ei gelynion politic- aidd yn dyheu am ei dymchwelyd o i sefyîlfa ac ÿspeilio ei meddiannau. Yngwyneb y fath ymosod- ladau, mae yr Esgobion yn annog Eglwyswyr o bob dosparth i ddyfod yn agosach at eu gilydd er mwyn cydweithredu yn erbyn y llu sydd yn ymgaBglu o lawer cyfeiriad i wneud ymosodiad ar deyrnas y Gwaredwr. Yr ydym yn gobeithio y caiff cynghorion doeth yr Esgobion dderbyniad llawen ac ufudd-dod calon Eglwyswyr drwy y wlad. Llawnodwyd y cylch-lytnyr gan yr holl Esgobion heblaw dau, sef Esgob Sahsbury ac Esgob Durham. NID oes dim diwedd ar feiddgarwch athrawiaethol a gwleidyddol yr hen wr sydd yn awr yn Ben- naeth ar gyfundrefn yr Eglwyá Babyddol. Y mae wedi ysgrifenu un o'i gylch-lythyrau awdurdodol at Esgobion Pabyddol Germany, er mwyn eu hannoçr i beidio cydnabod awdurdod y deddfau gwladol a fab- wysiadwyd y llynedd i ddiogelu y genhedl yn erbyn cynllwynion y Jesuitiaid. Y mae y Pab yn hawlio awdurdod i ymyrryd â threfniadau gwladol pob teyrnas, ac i benderfynu pa un ai ydyw cyfraith yn deilwng o ufudd-dod y deiliaid Pabyddol, ai nad yw. Y mae yn amlwg fod y fath honiadau yn dinystrio annibyniaeth pob Uywodraeth, ac yn darostwng awdurdodau goruchel pob gwlad i fod yn ddim gwelí nag is-swyddogion lleol i weithredu yn ol hyfforddiad Llywodraethwr yr holl ddaear, sef y Pab Rhufeinig. Y mae yr ymresymiadau ar ba rai y sylfaenir yr hon- iadau hyn yn hynod o syml. Nid oes gan yr un Llywodraeth hawl i dreisio y gydwybod ddynol, mewn matterion crefyddol, canys dywedodd yr Apostolion, " líhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Y mae yn ammhossibl i Gristion wadu y gosodiad yna. Ar yr un pryd y mae ei egwyddor yn hofíol gysson âg ymddarostyngiad i awdurdod Llywodraeth wladol, canys yr oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hunan, a'r Apostolion yn ymddarostwng i drefn dymhorol hyd yn oed Llywodraeth Baganaidd yr Ymherawdwyr Rhuf einig. Pa le y mae yr anhawsdra presennol P Y mae y Pabyddion trwy athrawiaeth yr Anffaeledig- rwydd, wedi penderfynu fod cydwybod y Pab yn gyfesur â chydwybod y ddynoliaeth Gristionogol. 0 ganlyniad, yn ol eu golygiadau hwynt, llais y Pab ydyw llais Duw, ac y maent wedi newid dywediad yr Apostolion i fod yn " Ehaid yw uf'uddhau i'r Pab yn fwy nag i ddynion." Yn nghyfundrefn y Bab- yddiaeth newydd y mae yn ymddangos i ni fod y Pab yn trawsfeddiannu lle y Gydwybod ddynol, ac hyd yn oed orsedd Duw ei hunan. Y mae Llywodr- raeth Germany wedi cynnyg deddfau newydd i'r diben o orfodi pob Offeinad Pabyddol i hyspysu yn amlwg pa un a i ydyw ef yn bwriadu ymddwyn îel caethwas anwladgar a gwrthryfelgar, ar orchymyn y Pab, neu fel deiliad gonest a chydwybodol ir awdurdodau gwladol mewn matterion tymhorol.