Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dww yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa-" .—Ps. xlviii. 3. amìŴifiM# ijr W *wr 7 Rloeh treigla uchod,—ei wys hen I wasanaeth Dawdod; Ca«u ei hen dinc hynod, J,.1sd, Han, I.lim yw' ' fan i fod.] Ebm Fabdd O fewn dy gaerau heddwch boed, I'th lysoedd deued hawddfyd i Br mwyn fy mrodyr mae'r aroh bon, A'm cymmydoíîion hefyd. Pí. OITII. ÎIhif. V. Ctf. II. HYDRBF, 1874. Pris 2g. CTNNWYSIAD. Crynodeb .................... Oddiwrtb ein Gohebydd Tramor ... )'.., Pattíinio ar ol dnwian dieitbr......... Llwngc y Ddaear a diddymmiad Bedydd Rsgob Wordsworth a'r Wealeyaid...... Amrywion................... 65 6G 72 75 77 80 CEYNODEB. YCHYDIG amser yn ol bu offeiriad Pabyddol o'r enw Foy, ag sydd yn gweinyddu i gynnulleidfa o Wyddelod, yn St. Leonard's, yn ymweled ag Eglwys Gadeiriol Caergaint, gan arwain gyd ag ef rai ugein- iau o ddefaid ei braidd. Pan oeddynt yn myned drwy yr Eglwys, dan arweiniad y Swyddog, gwelsant yn dda i ymddwyn yn y modd mwyaf anweddus, gan wawdio a difrio Eglwys Loegr, a chwertbin am ben y swyddog. Ÿ"r oeddynt yn codi cynhwrf mor warad- wyddtis yn yr Eglwys, nes y gorfu ar y diwedd i'r Swyddog fyned i ofyn i'r Deon ddyfod i mewn i roddi cerydd awdurdodol iddynt. Ond ychydig iawn well oedd y driniaeth gâdd y gwr Tra Pharchedig gan y penboethiaid Gwyddelig a'u bngail culfarn, difoes, anwybodus. \? N nghyfarfod mawr blynyddol y Gymdeithas X Brydeinig Er Cynnydd Gwyddoniaeth yn Belfast traddododd y Llywydd Dr. Tyndall araith hynod. Hyspysodd fod ei yrachwiliadau i elfenau cjfansodd- iadol y byd allanol, wedi ei arwain i'r casgliad fod Sylwedd y Bydysawd yn dragywyddol ac yn hunan- greedig. Yn ol ei athrawiaeth ef, yn y dechreuad yr oedd gronynau mymrynaidd, yn ddarostyngedig i ddeddfau anianol yn eu cyd-drefnu ac yn dwyn allan o honynt bob math o fywyd Uysieuol, anifeilaidd a dynol. Y mae y Proffeswr enwog wedi derchafu y Öronyn Mymrynaidd (Atom), i fod yn Dduw iddo. V mae yn cydnabod y bodolaeth o ddeddfau dirgeledig 0 fewn y gronynau, ond y mae yn gwrthod gyda dir- ^yg y grediniaeth nad oes dim modd i ddeddf fodoli "eb ddeddf-roddwr, i'w hordeinio ac i'w chadw mewn Rrym. Y mae yr athrawiaeth atheistaidd hon yn !••. Gosodwyd hi ger bron y byd ar gân yn agos^ i ^dwy fil o flynyddoedd yn ol gan y Bardd Lladin í<ucretius. Y mae yr athrawiaeth yma, pan yn gwadu bodol- aeth Duw Personol yn ewyllysio ac yn teyrnasu, yn arwain eu disgyblion yn uniongyrchol i wadu hanfod- ion bywyd personol Dyn, sef rhyddid yr ewyllys, cyfrifoldeb y gydwybod, ac anfarwoldeb yr enaid. Yn ol barn Dr. Tyndall, nid oedd ef ei hunan, pan yn areithio yn Belfast, ddim ond casgliad damweiniol o ronynan mymrynaidd wedi cyd-redeg a chyd-gyfarfod dan ddylanwad deddf farw anweledig, ac nid oedd ei araith a'i ymresymmiadau ddim ond effaith cyd-dar- awiad y gronynau yna. Pan ddattodir y gyfundrefn honno o ronynau a elwir yn awr wrth yr enw Dr. Tyndall, bydd diwedd am dano, ac ni bydd ond megie rhibyn anweledig yu lliwio glas gof y pethau a íu. Yn ol y gwr yma, nid oes Yspryd yn trefnu. yn llywodraethu, ac yn cynnal y Bydysawd trwy air ei nerth. Nid oes Creawdwr. Yn unol â'i olygiadau am y Bydysawd, y mae ei farn am ddyn. Megis nad oes gan y Bydysawd Dduw o'i fewn, felly nid oes gan Ddyn enaid anfarwol. Matterol a dim ond matterol ydyw y Bydysawd. Corphorol a dim ond corphorol ydyw Dyn. Peiriant diyspryd yn cael ei reoli gan alluoedd o'r tu allan iddo ydyw, heb ryddid ewyllys na gallu i ddewis ei lwybr. Da gennym weled fod y Proffeswr Challis, o Caer- grawnt, un o'r Meintonyddion a'r Astronymyddion mwyaf enwog yn ein hoes wedi ysgrifenu i wrth-dys- tio yn erbyn daliadau rhyfygus Tyndall, ac wedi dau- gos yn eglur er fod y Proffeswr atheistaidd yn alluog mewn un cylch o wyrddoniaeth brofiadol ei fod ef wedi myned ymhell tuhwnt i'w gylch, pan yn traddodi ei annerohiad di-Dduw yn Belfast. Y mae Mr. Challis yn dywedyd fod Dr. Tyndall yn amddifad o'r gallu Meintonyddol, ag sydd yn anghenrheidiol i drin y pyngciau uchel dan sylw, a bod ei ymresymmiad wedi dangos yr amddif adrwydd hynny yn eglur. Nid oes dim yn newydd mewn atheistiaeth. Y mae y Sadduceaid yn lefeinio cymdeithas ymhob oes. Nid oes arnom ofn iddynt ddiffoddi goleuni yr efengyl. Y mae llais y Gwirionedd o fewn dyn yn gwrthryfela yn erbyn yr athrawiaeth mai casgliad o ronynau matterol wedi cydgyfarfod trwy attyniad hunan-lywodraethol, heb drefniad ewyllys greadigol, ydyw ei fywyd dynol. " Oui chlyw'r Hwn a blannodd y glust P oni wêl yr Hwn a luniodd y llygad P" Ar yr un pryd y mae dylanwad areithiau Sadduce- aidd yn farwol i foesoldeb dynol. Pe bai dynion yn cael eu harwain i gredu nad oes eneidiau ganddynt, na rhyddid ewyllys, ac o ganlyniad nad ydynt yn gyfrifol, ac ya ddarostyngedig ì gerydd, ac na bydd