Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dttto yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa."—Ps. xlviii. 3. Twr y glooh treigla nchod,—ei wyi hen I wasanaeth Dawdod; Cana ei hen dino hynod, LUn, Llan, Llan y w' ' fan i fod.' Ebbn Fabdd. O fewn dy gaerau heddwoh boed, I'lb lyaoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymniydogiou hefyd. Ps. oxxxx. Rhif. II. Ctf. II. GORPHENAF, 1874. Pris 2a. CYNNWYSIAD. Crynodeb .......................... 17 TJwohafiaetli y Frenhinsa............. 19 î'regethwyr Hen a Newydd ............... 20 Bugoiliad yr Ienengctid............. 21 fchyfel i Ddial ........................ 22 Crefydd y Capel yn Grefydd Sefydledig gan y Wladwriaeth ..................... 23 Breintlen y Brenhin £thelvrolff a Phen Brenhin Siarla.............., ........ 24 Capeli yn chwarendai a'r "Fiddle" yn y Pnlpnd 26 Hcn Bresbyteriaeth a Sosiniaeth Ne^ydd •■• . 27 Y Drath Eglwys ao adeiladan yr Eglwys ..... 30 Cwacyddiaeth y ffng Eabbiniaid yng Nghymrn ... 31 Amrywion .......................... 32 CBTNODEB. YMAE yn ddyledswydd arnom gofnodi marwolaeth ddisymmwth y Barwnig hawddgar Syr Stephen Glynne. Pan ar ei ffordd ì ymweled â'i nith yn Wellington College, cafodd ei darawo gan ddynrod angau ar un o heolydd Llundain. Clefyd y galon oedd achos ei farwolaeth, ac ychydig iawn o funudau y bu ef yn fyw ar ol ei darawiad. Cafodd ei gludo i " Surgery " meddyg oedd yn byw yn ymyl, ac yno heb heb o'i berthynasau yn agos y bu farw yn 67 mlwydd oed. Yr oedd Syr Stephen yn Arglwydd Raglaw Sir Fflint, yn berchennog tiriogaethau eang Castell Pen- arlag (Hawarden), ac yn sefyll jn uchel iawn ymhlith Péndefigion Cymru. Yr oedd ef yn enwog iawn fel hynafiaethydd, ac yn feirniad rhagorol ar adeiladaeth (Ä.rchitecture) Eglwysig. Dywedir ei fod yn treulio llawer iawn o'i amser yn y gwaith o ymweled â hen Eglwysi Plwyfol ymhob rhan o'r wlad. Yr oedd ne- wydd fod yn Essex i weled nifer o hen Eglwysi y Sir lionno yn ardal Ipswich, ac oddiyno yr oedd yn dych- welyd ar ei daitb, pan y goddiweddodd angau ef. Yr Oedd y Barwnig yn ysgolhaig dysgedig ac yn hynod tim gryfder ei gof. Y mae ei ddau frawd-yn-nghyf- raith Arglwydd Lyttelton a Mr. Gladstone yn ddau o'r dynion mwyaf galluog yn y deyrnas, ond y mae 6u cyfeillion yn dj-wedyd fod Syr Stephen yngryfach ^i gof nag un o'r ddau, ac mai efe, pan gyfodai dadl ynghylch cywirdeb adroddiad geiriau rhyw awdwr, fhwng y tri yn eu cydymddiddanion, oedd bron bob ftmser jrn agosaf i'w le. Yr oedd Syr Stephen yn Eglwyswr trwyadl a ffydd- W, ac yn aelod o'r Pwyllgorau mwyaf pwysig yn yr Eglwys yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn un o Lywodraethwyr Coleg B yfforddiadol Gogledd Cymru yn Ngbaernarfon ; ac yn esgobaeth Llanelwy nid oedd ymhlith y Pendefigion, Eglwyswr mwy fíyddlon a gweithgar. Yr oedd Uwyddiant yr Eglwys yn Nghymru yn agos iawn at ei galon, ac y mae ei far- wolaetb yn golled f awr i'w hachos. Gobeithiwn y bydd ei olynydd yn yr etifeddiaeth, sef, Mr. W. H. Gladstone, M.P., mor wasanaethgar i'r Eglwys ag oedd ei ewythr. YNy flwyddyn 1843 ymrannodd lliaws mawr o weinidogion ac aelodau lleygol oddiwrth yr Eg- lwys Bresbyteraidd, sefydledig yn Yscotland, oher- wydd nad oedd y gyfraith wladol ar y pryd ddim yn caniattau hawl i'r Plwyfolion gael llais yn newisiad y gweinidog Plwyfol. Sefydlwyd Eglwys Eydd (Free Kirk) mewn canlyniad. Nid oes dim gwahaniaeth athrawiaethol na seremoniol rhwng yr Eglwys Sefyd- ledig a'r Eglwys Rydd. Y drefn o bennodi gweinid- ogion oedd unig achos yr anghydfod a'r ymranniad. Yn y flwyddyn bresennol y mae y Duc Bichmond wedi dwyn i mewn i Dŷ yr Arglwyddi Fesur i ddi- ddymmu yr hen drefn o nawddogaetb Eglwysig (Church Patronage) ac i roddi hawl l'r Cymmunwyr ddewis gweinidog ymhob plwyf. Gallésid nicddwl y buasai aelodau yr Eglwys ríydd yn barod i §roesawu y fath gyfnewidiad â gwresogrwydd diolchgar. Ond sut y maent yn ymddwyn ? Y maentyn gwrthwynebu y cynnygiad â'u h»ll ddylanwad yn y dull mwyaf eg- niol. Paham ? Y maent yn ofni y bydd y mesur yn tueddu i wneud yr Eglwys Sefydledig yn fwy poblog- aidd, ac i leihau y cymhelliadau sydd wedi bod yn arwain llawer i ymneilldno oddi wrthi, Y mae gweinidogion yr Eglwys Bydd ymneillduol yn ofni gwywhâd eu dylanwad eu hunain, a gwaghâd eu try- sorfa. Dan efíaith y cymhelliadau annheilwng yna y maent yn ceisio bytholi sefyllfa anfanteisiol yr Eg- lwys Sefydledig, a rhwymo ei chadwynau yn dyn am dani. Hynny yw, mewn geiriau eglur y mae Ym- neillduwyr Eglwys Rydd Ysgotlandyn gwrthwynebu eu hegwyddorion eu hunain am ryddid, er mwyn niweidio eu brodyr. Y mae y sefyllfa Ymneillduol ymhob gwlad yn tueddu i wneud y meddwl yn gul, çenfigenllyd, a chrebachllyd. Y mae surdoes sectydd- laeth wedi gwenwyno yspryd y " Free Kirk ••' nes y 5jiae ei haelodau yn fwy awyddus i gadw yr Eglwys «efydledig yn wan nag i dderchafu a nertbu crefydd yn eu gwlad.