Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

«Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiýy^fa,"—Ps. xlviii. 3. iMtóllp)ìtìt rçr Cglnuji îwr J gloch treigla uchod,—ei wya hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, I.lan, Llan, Llau yw'r l'an i fod. Eben Fabd». O fewn dy gaerau heddwch boed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Ps. cxiii. Rhif. III. Cyf. I. AWST, 1873. Pkis 2g. CYNNWYSIAD. Crynodeb ... ìlhyddfrydiaeth Mr. JohnOwen, gynt o'rTy'nllwyn yn awr o'r Caenewydd Çrohebiaethau Y Parliament a'r Eglwys Claddedigaethau yn Ffraingc ... Òirprwywyr yr Ysgolion Gwaddoledig (1869) yn Ehiwabon a Gelligaer Y Scriw yn gwasgu Mr. Samuel Morley ... Golygiadau lawer, ond un Gwirionedd ... Pabyddiaeth yn y "Faner" a Phrif Ysgol Aber- ystwyth ... Amrywion ... 33 84 36 37 37 38 39 40 45 CRYNODEB. CYNLLUN Addysg Genhedlaethol y " Birmingham League," a gynnwys—sefydiiad cyffredinol " School Boards," Trethi trymion diachos, Gorfodaeth ddiarbed, Ysgolion digrefydd, a gommeddiad rhyddid cydwybod i rieni tlodion. Gwrthodir y cynllun gan ÿ Llywodraeth, o herwydd mai gwrthodedig yw gan ý wlad. Er mwyn dial, y mae y "League'* yn bwr- adu rhannu y blaid Ryddfrydol. Ymhob etholiadi Üe y gommedda ymgeisydd Rhyddfrydol bleidio y Cynllun direswm uchod, cychwynir gan y " League ' ýmgeisydd eithafol ar ei draws. Ffurfir felly tair o bleidiau politicaidd, sef, y Ceidwadwyr, y Rhydd- fydwyr cymmedrol, a'r Radicaliaid " Birmingham- ^idd." Gwyddom pa mor fychan yw nerth yr olaf yn ÿ wlad. Y mae llai o nerth yn ofynol i ddinystrio bag i adeiladu. Bydd ymranniad mewnol tŷ y '' Liherals '' yn achos ei gwymp. Gwelir tri ymgeis- ydd ymhob bwrdeisdref jrn Nghymru, a chredwn mai Oeidwadwr trefn wladol a chrefyddol fydd yn uchaf. •ííid dyma y tro cyntaf i'r gwirionedd orchfygu trwy ymranniadau mewnol ei elynion. "Yr Arglwydd a Osododd gleddyf pob un yn erbyn eu gilydd, trwy'r holl wersyll." Y mae y "League " yn cydmaru eu Wnain i'r " Anti-corn Law League." Nid oes unrhyw gyfattebiaeth rhyngddynt. Diben y "League" a ddiddymmodd ddeddfau'r ŷd, oedd amlhâu bara y bywyd naturiol er lles y tlawd. Diben y " League " ^y'n ceisio dryllio yr Ysgolion gwirfoddol a chrefyddd- ^l) ydyw gwasgu'r tlawd a chreu newyn ar blant y ^ephedl: " nid newyn am fara.........ond am wrando ^eiriau'r Arglwydd." YN etholiad diweddar Caerbaddon (Bath). ymgeis- ydd dewisedig y " League," oedd Mr. J. C. Cox un o Ynadon Heddwch Sir Dwrgwent (Derby). Y mae yn deilwng o'i gyfeillion. Efe oedd cadeirydd y cyfarfod llepublicanaidd, os na chamgymmerwn, yn Derby, pan y gwnaeth Sir Charles Dilke ei ymosodiad gwaradwyddus ar y Frenhines. Efe hefyd a gyfran- odd tuag at roddi tysteb i'r drwg-weithredwr Gregory oedd wedi ei garcharu gan ei gyd-ynadon. Y mae yr ArglwyddGanghellydd wedi ceryddu Mr. Cox yn llym. Dywedodd ei fod wedi bwriadu ei gospi trwy dynnu ei enw oddi ar restr Ynadon Heddwch y sir, ond ar- bedodd ef y tro hwn, gan ei fod yn edifeiriol. Nid un o deulu heddwch ydyw Mr Cox, ond un o blant terfysg. Y mae yn flaenor cymmwj's iawn i'r "League." Diolch i drigolion Bath am wrthod ei wasanaeth. MAE Eglwys Loegr wedi penderfynu anfon Esgob i Madagascar, o herwydd ei bod yn credu nad ydyw cyfundrefn y moddion gras ddim yn gyflawn heb weinidogaeth y tair gradd osodedig gan Grist, a gwasanaeth Pen-bugeiliaid y radd gyntaf. Y mao nií'er o Offeiriaid Eglwysig wedi bod yn gweithio yn yr Ynys er's blynyddoedd, ond ni's gallant weinyddu cyflawn drefn yr Eglwys heb Esgob. Y mae y JPaner yn gwrthwynebu y symmudiad mewn iaith annghym- medrol, ar y tir fod yr Annibynwyr yn sefydledig yn Madagascar er's talm, ac wedi cael yr " anfoniad cyntaf " (original mission), ac o ganlyniad fod yr Eglwys " yn myned i faes llafur pobl eraill." Y mae clywed y ì'aner yn dadleu dros hawliau yr "anfon- iad cyntaf " yn arwain un i ddisgwyl clywed Mr. Odger yn pleidio hawliau y Frenhines, ac urddas y Pen Coronog. Yr ydym ni yn credu yn ddiysgog yn hawliau anysgarol " Eglwys yr Anfoniad Cyntaf." Ond un peth ydyw anfon i wladBaganaidd ddarn o gyf- undrefn Weinidogaethol yr Efengyl; peth arall ydyw anfon drachefn i gyflawni y diflyg trwy ei gwneyd yn gyf an. Pan oedd Philip yr Efangylwr wedi pregethu yn Samaria, " deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist," dan- fonwydy Pen-bugeiliaid Esgobol, Petr ac Ioan, o Jeru- salem i gyilawni ei waith ammherffaith. Nid ydy w yr Eglwys ond yn gwneud yn yr un modd. Bydd yn dda gan yr Efangylwyr Annibynnol, os nag ydynt yn sectarol eu hyspryd, groesawu y Weinidogaeth Apos- tolaidd pan yn dyfod i gyflawni diffygion eu gwaith, ac i gyfrannu doniau y Bën-fugeiliaeth yn Madagas- car, megis y gwnaed yn Samaria. Pe bai Ymneilldu- wyr,ynparchuhawliauyr "anfoniadcyntaf yn Nghym. ru," nis gallai un pregethwr Ymneillduol godi ei lais, mewnunrhyw ardal Gymreig,hebganiattâd yrEsgob.