Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jb- Y DYNGARWR: .:. ^ltfrfiraŵro §ivbmtola Rhif. 72. RHAGFYR, 1884. Cyf. VI. DIRWEST YN EI BERTHYtfAS A LLWYDDIANT CREFYDDOL. GAN Y PAROH J. WILLIAMS, ABBRTBIFI. (Dyfynedig a bapyr a ddarttenwyd gan Mr William* yn. nghyfarfod Undeb Bedyddwyr Cymru, yr hon a gyrihàliwyd yn Nghaergybi, 1884. Mae Dirwest yn symud y rhwystr i lwyddiant crefydd, trwy ein cynys- gaeddu â gallu uwch, yn nghyd a dylanwad rhagorach i effeithio ar eraill. 1. Diogela wasanaeth eiddo i'r amcanion uchaf. Yr ydym yn broffes- edig—ac yn cael edrych arnom yn genedl grefyddol; ond y fath ddirmyg, a'r fath ragrith yw ein proffes, pan yr ystyriwn y gwerir cymaint mewn tri diwrnod i wneyd paganiaid gartref, ac a werir mewn blwyddyn gyfan i ddychwelyd paganiaid y gwledydd tramor ; 800,000p yn unig a gyfrenir gan bob cangen o'r eglwys Gristionogol tuag at y cenadaethau tramor, tra y gwastreffir yn flynyddol dros gan' miliwn ar hunan-ddarfoethiant. Dy~ wedir fod pob teulu yn y Deyrnas Gyfunol yn gwario un ran o bedair o'u cyllid ar wlybyroedd. Paham y rhyfeddwn fod y dosbarth gweithiol yn methu dyrchafu uwchlaw tlodi. Oni chyfrifir yn foddhaol am hyn gan eu gwastraff yn flynyddol ar y diodydd meddwol. Dirwest yn unig a rydd derfyn llwyr ar y gwastraff hwn, ac a alluoga yr eglwys i droi cyfeiriad ffrydlif cyfoeth a golud y byd i'r pwynt priodol. Pe rhoddid terfyn ar y fasnach feddwol, nid 800,000p a welid yn cael eu neillduo at wasanaeth crefydd ; oni byddai yr "aur a'r arian " yn fwy gwirioneddol nag erioed yn eiddo yr Arglwydd. 2. Cynydda yn ddirfawr ddylanwad crefyddwyr i effeithio yn ddaionus ac achubol ar ereill. Y mae yna rhyw elfed 0 wendid yn yr eglwys tra y par- hao i yfed. Tra bydd dynion yn ymwneyd i'r graddau lleiaf ag unrhyw beth eu hunain, ni allent gymhell ereill gydag unrhyw frwdfrydedd ac yni i ymatal yn holíol rhag y peth hwnw. Gwyr yr ysgrifenydd rywbeth am hyn trwy brofiad. (a) Y mae bod yn llwyr-ymwrthodwyr yn rhoddi hawl iddynt siarad yn erbyn y prif bechod ag sydd yn anrheithio eglwys a gwlad. Cydnab- yddir hyn yn nhrefniadau yr Arglwydd. Ehoddodd orchymyn i Aaron na chyffyrddai a gwin a diod gadarn. Dyma'r gorchymyn dwyfol, "Gwin a diod gadarn nac yf di, na'th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyf- arfod, fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn ; a hyny er gwahanu rhwng cyssegredig a digyssegredig, a rhwng ^.flan a glân ; ac ì ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses." Dywed rhai nad oes gair 0 ddechreu