Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: §$t$Svŵm §ixtotúol. Rhif. 48. RHAGFYR, 1882. Cyf. IV. PERYGLON CYMEDROLDEB. GAN Y PARCH. W. M0RRIS (rHOSINOG), TREORCI. Mae y mudiad Dirwestol yn y corph newydd diweddar yma, fel yn mhob corph ag y gwisgwyd yr un ysprydo'r blaen, yn gwisgo dwy agwedd. Ceir fod an agwedd yn perthyn iddo nad oes dadl yn ei gylch. Cyduna pawb ei fod yn dda ac yn hanfodol. Am unwaith dyma ni i gyd yn unfryd- unfarn Mae y Dirwestwr, y cymedrolwr, y tafarnwr, y darllawydd, a'r meddwyn ei han yn cydnabod fod meâdwdod yn ddrwg, ac yn ddrwg mawr. Cyduna y pleidiaa hyn mai peth da ragorol ydyw gwared y meddwyn a cheisio ei adferu i'w iawn bwyll. Unir i ddefnyddio yr iaith gryfaf wrth gondemnío meddwdod fel drwg i gorph, drwg i feddwl, drwg i enaid, drwg i gymdeithas, drwg i'r wlad, a drwg i eglwys Ddnw: a chydunir hefyd yn ein canmoliaeth gan mwyaf i'r ymdrechion i wared pawb rhag bedd y meddwyn, os gallwn roddi coel i ddadganiadau diweddaraf y masnachwyr yn y diodydd meddwol. Ond pan y mae y mudiad Dirwestol yn gadael yr agwedd hon ac yn symud yn mlaen ar hyd y llinell an- ocheladwy at yr agweddiad arall o'r pwnc, dyma ni ar unwaith yn colli llu mawr o'n cydfarnwyr a'n cydgondemnwyr. JjJ Y mae y diwygiad Dirwestol nid yn unig yn ymdrechu gwared j meddwyn, ond yn gwneyd ei oreu hefyd i atal ereill rhag myned yn feddwon ; a'r fynyd pan fyddom yn ymdrechu cadw dynion rhag y drwg, yn ogystal a'u gwared o'r drwg, dyma ni mewn gwrthdarawiad â'n cyfeillion. Ystyriwn ni y ddwy agwedd yn bwysig, ac o'r ddau y cadw rhig y drwg y w y pwysicaf. Prevention is letter than cure, meddir. Mae meddyginiaethu y clwyf yn dda, ond y mae cadw rhag yr archoll a'r graith yn well. Mae achub y meddwyn yn dda, ond y mae cadw y dyn rhag myned yn feddwyn yn rhagorach. Ond, a dy weyd y lleiaf, y mae mor ddymunol cadw rhag myned i'r pwll a gwared o'r pwll. Yn yr ochr ataliol yma yr ydym yn ymwneyd mewn dwy ffordd. Ca'iw y plant yn bur o'r groth, yn bur fel y myn natur a Duw natur iddynt fod. Ac nid ydyw natur yn bwriadu i'r plentyn gael dim ond a ddarperir yn ei darllawdaihi: bron y fam, bron y fuwch, a bron y graig. Gresyn fod neb yn gwthio ar y plentyn yr hyn sydd mor anghydweddol â'i natar a'r diodydd meddwol ; i'e, yr hyn sydd mor groes i'w natur. A'r ffordd arall sydd genym ydyw cymhell pob cymedrolwr i lwyr- ymwrthod â'r diodydd meddwol er ymgadw gyda sicrwydd rhag y drwg. Yr ydym am gael y cymedrolwyr i dir diogelach na chymedroldeb, i dir gwell a rhagorach, llwyrymwrthodiad. Yr ydym yn gwbl argyhoddedig y byddai yn well iddo ddyfod yma, mewn llawer ystyr. Ymae cymedrol- deb yn amgylchynedig â pheryglon mawrion. Mae swynion peryglus yn