Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Rhif. 47- TACHWEDD, 1882. Cyf. IV. Y RHYFEL. GAN T PARCH. W. T. JONES, YNîS ENLLL Nid oes dim mor amlwg nad rhyfel sydd wedi bod, ac heíyd i barhau, yn mhob oes o'r byd, rhwng rhinwedd a bai yn mhob ffurf arnynt; oherwydd nid yw rhinwedd byth mewn rhyíel âg ef ei hun, na bai, yntau, byth mewn ymladdfa âg ef ei hunan. Rhaid wrth elfenau o natur wahanol i beri rhyfel yn y byd materol, ac elfenau 0 natur wahanol i gynyrchu rhyfel yn y byd moesol. Fel y mae dwfr a thân yn elynion anghymodlawn yn y byd materol, y mae rhinwedd a bai yn y byd moesol. A daw y naill a'r llall i'r amlwg drwy amrywiol agweddau. Rhinwedd mewn gwedd arbenig ydyw Dirwest, a bai mewn agwedd hynod hyll ydyw Meddwdod. Dyma ddwfr a thân y byd moesol, a gelyniaeth anghymodlawn rhyng- ddynt â'u gilydd. Y mae pwysigrwydd neu ofnadwyaeth unrhyw ryí'el yn cael ei fesur a'i bwyso yn ol cymeriad y pleidiau. Ni wneir fawr 0 sylw o rhyw fân ysgarmesoedd gymer le rhwng galluoedd bychain a dinod, megys yn nghonglau y greadigaeth, gan nad oes dim pwysig i'w enill na'i golli trwyddynt i'r byd yn gyffredinol. Ond pan y mae galluoedd mawr- ion a phwysig mewn rhyfel â'u gilydd y mae llygad y byd arnýnt hwy— pan y mae rhyw Germani a Ffrainc, Rwsia a Thwrci, neu Loegr a'r Aipht, 0 ! fel y gwylir eu symudiadau ! Y inae pawb a phob peth yn llawn llygaid i wylio eu tynged, gan fod llwyddiant neu aÜwyddiant masnachol a heddwch yn y dyfodol yn gorphwys ar bwy fydd y gorchfygwr. Felly y gellir dyweyd yma nad rhyw ysgarmes fechan sydd yn cymeryd lle rhwng galluoedd bychain a dinod, megys yn ngonglau y byd moesol, ond â dau allu pwysig iawn, ac y mae llwyddiant masnàchol a moesol y byd yn ymddibynu ar pa fodd y try y frwydr—pa un ai Dirwest ai Meddwdod gaiff yr oruchafiaeth ? Yn ol y newyddion geir trwy arwyddion yr am- serau y mae rhagolygon dysglaer yn aros y fyddin Ddirwestol. Dacw'r ft saith Dirwestwr " selog gychwynodd y fyddin Ddirwestol yn Preston er's dros hanner can' mlynedd yn ol wedi myned yn filoedd ar filoedd erbyn heddyw. Wele dros bedwar ugain mil ar unwaith yn y Crystal Palace, a thrwy y deyrnas a'r byd cyrhaedda y rhif uwchlaw cael eu rhifo, fel ser y nef a'r tywod sydd ar lan y môr o amldra, gan nad yw y Temlwyr Da, " Byddin y Ruban Glas," a'r " Hen Ddirwest," ond catrodau ar- dderchog yr un fyddin fawr sydd yn cario dylanwad iachusol ar y byd. Dyma fyddin " Syr Garnet." Rhaid i anghymedroldeb, fel " Arabi," gael ei ddal a gwasgaru ei fyddin, sydd yn gyfansoddedig o'r gymysgedd ryfeddaf—anwariaid, y roughians, "yr hanner genteels," hen swyddogion eglwysig a gwladol wedi gwrthgilio neu wedi eu diswyddo, crefyddwyr llac "'Ro'i mo fenw," "Cadwaf agoriad fy ngheg fy hun," "Pa ddrwg