Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Rhif. 46. HYDREF, 1882. Cyf. IV. CYSONDEB YR EGWYDDOR DDIRWESTOL A CHREFYDD. GAÎí Y PARCH. D. JONES, BLAENATJ ITESTINIOG. TJn peth sydd yn taro y Dirwestwr ystyriol ydyw cysondeb yr egwyddor Ddirwestol âg egwyddorion gwir grefydd. Os cydnabyddir nad oes deddf bendant yn erbyn yfed y diodydd meddwol yn gymedrol, er fod hyay yn beth i'w brofi, y mae yn amlwg fod cyffredinolrwydd yr ymyfed, a'r trueni sydd yn dilyn hyay, yn galw arnom i roddi heibio hyd yn nod yr hyn a dybir sydd yn gyfreithlon er mwyn bod yn esiampl i'r rhai sydd yn cael eu llusgo gan y cefnlJif i ochel yn ddigon pell. Dyma egwyddor gryfaf Dirwest; a dyma un o egwyddorion cyntaf crefydd, sef gadael heibio bob peth sydd yn peryglu lles tymhorol ac ysbrydol ein cyd-ddyn. Yn wir, y mae crefydd yn gofyn mwy na hynyna—y mao yn gofyn mwy nag ymwadu â phethau neu amgylchiadau sydd y tualìan i'r dyn, y mae hi yn gofyn ac yn cael gan y cywir ymwadiad o'i ewyllys, neu fel y dywed yr Arglwydd Iesu ei hun, " golli yr eiuioes" er cael bywyd tragwyddol. Wrth golli ei afael o bob peth ag y mae yn dybied sydd ganddo hawl ynddynt, y mae credadyn yn dyfod i feddiant â bywyd tragywyddol, ec yn hyny yn dyfod i feddiant o bob peth, "Pob peth sydd eiddoch chwi." Y mae y gwir gredadyn wedi rhoddi yr orsedd i fyny—wedi rhoddibren- iniaeth fawr ei galon i un arall, yr un arall hwnw a bi'au nid yn unig yr hyn sydd eiddo y dyn, ond y dyn ei hunan. Rboddodd y cwbl i fyny er cael Crist. Felly, os yw Crist yn gofyn iddo roddi i fyny, dyweder yr arferiad o yfed, nid yw yn gofyn ond am feddiant llwyr o'r hjn sydd eis- oes yn eiddo iddo, fel y mae yr egwyddor fawr Ddirwestol yn tarddu o'r egwyddor gyntef mewn crefydd, sef hunan-ymwadiad. Hefyd, gwir grefydd, yn y dadguddiad ohoni, o bob cyfundrefn syd 1 yn edrych ar ddyn uchaf. Hi sydd yn ei wneyd yn werthfawr iawn. Y mae yn fawr yn ei greadigaeth a'i gwymp ; y mae yn fwy yn ei ail-onedig- aeth a'i gadwedigaeth trwy ras ; y mae angeu y Groes wedi ei ddyrcnafu yn uwch ei bris, gwrthddrych cariad Duw ydyw—gwerth gwaed y Mab ydyw. Y dyn meddw a welaist, ddarllenydd, ar yr heol, nid amlygw'yd eto beth a fydd. Ond y mae darpariaetû fawr ar ei gyfer—costau an- feidrol eu maint wedi eu dwyn erddo. Tuagat i hwnyna gael profiad o faddeuant pechodau a glanhad, ar gyfer hwnyna a'i fath, y maeynefoedd wedi ei pharutoi, ac nid oes genyt ti, na neb arall, hawl i edrych arno yn yr un goleu llai na'r llewyrch y mae gras yr Efengyl yn ei belydiu arno,—" Dros yr hwn y bu Crist farw." Os felly, y mae yr hunan-ym. wadiad gyda yr ymyfed yn myned yn Jlai o lawer pan gofiom beth jdyw y cymhellion ardderchog a rydd yr Efengyl dros hunan-ymwadu. Y mae