Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

; ' Y DYNGARWR: Rhif. 4i. MAI, 1882. Cyf. IV. Y MUDIAD DIRWESTOL EFENGYLAIDD. Diau mai dyddorol gan ein darllenwyr fyddai cael ychydig 0 hanes arweinwyr y mudiad hwn, neu fel y gelwir ef yn fwyaf cyffredin, Byddin y Ruban Glas. Un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r mudiad ydyw Mr. Francis Mürphy. Ganwyd ef yn Tagoat/swydd Wexford, Iwerddon, ar y 24ain 0 Ebrill, 1834. Pan yn un-ar-bymtheg oed ymfudodd i'r America. Y ]le cyntaf yr aeth iddo ar ol glanio yn Quebec ydoedd ty tafarn, yr oedd y gwlybyroedd meddwol yn barod wedi cael peth meistrolaeth arno, ac arosòdd yn y dafarn hon nes gwario yr oll oedd ganddo. Erbyn cyrhaedd ugain oed yr oedd wedi d'od yn ddyn sobr, y pryd hwn priudodd. Ar doriad y Rhyfel Cartrefol allan yn y flwyddyn 1860, ymûnodd â'r fyddin a bu yn gweini fel milwr cyffredin am dair blynedd. Ar ol i heddwch gael ei sefydlu, mynodd Murphy, er gwaethaf erfyniadau taeraf ei wraig, gael myned i gadw tafarn, a chymerodd y Bradley Hotel, yn Portland. Ond cyn hir aeth ei flysiau am y gwlybyroedd meddwol yn drech nag ef, aeth yn feddwyn, a rhoddwyd ef yn y carchar am feddwdod. Pan yn y carchar daeth Oadben Sturtivant yno i bregethu i'r carcharorion, i ŷmddyddan a hwy, ac i'w cynghori ! bu hyn yn foddion i'w argyhoeddi ac i'w arwain i ymorphwys ar Grist am ei fywyd. Yn fuan ar ol ei adferiad o'r carchar collodd ei wraig. Yr oedd y gofid a gawsai oherwydd ei phriod meddw yn fwy nag y gallasai ei chyfansoddiad hi ei ddal. Dywedai wrtho ychydig cyn marw, " Na ofalwch am danaf fi ; yr wyf fi yn berffaith foddlon, gan fod Duw wedi eich achub chwi." Yn fuan ar ol hjTn dechreuodd areithio ar Ddirwest. Y tro cyntaf iddo ymddangos yn Îyhoeddus oedd Ebrill 3ydd, 1870, yn Neuadd y Dref, sef Portland. )aeth ei allu fel siaradwr cyhoeddus i'r golwg yn fuan, tyrai pobl wrth y miloedd i'w wrando. Dywedir iddo fod yn foddion i enill un-ar-ddeg o filiynau 0 bobl i arwyddo yr ardystiad Dirwestol yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y bu yn Uafurio yn America, ar ol ei droedigaeth yn y flwyddyn 1870 hyd yr adeg y daeth drosodd i'r wlad hon yn Awst, 1881. Enillodd filoedd yn Lloegr i fod yn Ddirwestwyr, ac yn awr er's peth amser y mae wedi myned drosodd i'r Iwerddon, a hyderwn y bydd yn llwyddiannus yn ei wlad enedigol i enill lluoedd i goleddu egwyddorion sobrwydd. Un arall 0 arweinwyr y symudiad hwn ydyw Mr. Richardt Booth. Ganwyd ef yn agos i dref Ithaca, talaeth New York, Hydref 26ain, 1844. Yr oedd ei rieni yn Hwyrymwrthodwyr â'r gwlybyroedd meddwol ac