Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: ®|lẂ0*8&ro §ìxtotntol. Rhif. 39. MAWRTH, 1882. Cyf. IV. EFFEITHIAU ANGHYMEDROLDEB. GAN HUGH PRITCHARD, MAÎÍCHESTER. Wrth edrych yn ol i dudalenau hanesyddiaeth yr ydym yn canfod fod y meddwyn, yn mhob oes, yn wrthddrych llawn o dosturi a chydymdeimlad. Mae trwy anghymedroldeb yn gwastraffu ei amser a'i feddiannau, yn dinystrio ei amgylchiadau a'i gymeriad, ac yn lladd ei ddefnyddioldeb, trwy anaddasu ei hun i gyflawni ei ddyledswyddau naturiol a moesol. Seria ei gydwybod, fel y mae yn anallnog i dderbyn budd oddiwrth gynghorion na cheryddon ei gyfeillion. Gwanha y diodydd meddwol ei iechyd, byrhant ei einioes, a dinystriant ei enaid. Pe na byddai yr anghy- medrolwr yn colledu neb ond ei hunan, ni byddai cyn-ddrwg ; ond, ysyw- aeth, i'r gwrthwyneb y mae. Oblegid y mae jn uniongyrchol yn arwain i dlodi a dioystr cysuron y teulu, a llygru yr ardal y mae yn preswylio ynddi; gan ddenu yr anwadal a'r dibrofiad i'r un sefyllfa. Ac os ydyw effeithiau unrhyw bechod yn galw am ddesgrifiad, diamheu fod hwn felíy. Nid ydyw y meddwyn wedi myned i'r ystâd hon o angenrheidrwydd na gorfodaeth, ond yn hytrach o'i fodd ac o'i ewyllys ei hun; felly gellir edrych ar ei sefyíífa yn un wirfoddol. Teimla ei hún mor ddedwydd dan lywodraeth ei chwant fel y mae yn llafurio yn galed er cael y moddion angenrheidíol i'w chyrhaeddyd. Er ei fod yn greadur rhesymol darostynga ei hun islaw i'r anifail direswm, mathra ddeddfau anghyfnewidiol ei natur ergweithio allan ei dueddiadau llygredig. Er ei fod yn perchen rheswm, cyflawna yr hyn y mae creadur direswm yn ymgadw rhagddo. Er fod bywyd yr anghymedrolwr wedi cael ei amgylchynu gan flinder ac an- dedwyddwch, er hyny dywedir nad ydyw ef yn ei theimlo felly, ond gwna i ereill wneyd. Mae y cariad a roddwyd iddo gan ei Greawdwr wedi ei alltudio megys gan ei grynhoi yn nghyd a'i sefydlu ar wrthddrych na fwriadodd I)uw iddo wneyd hyny. Ac felly nid rhyfedd fod yr oerfel- garwch a'r difaterwch a ddangosa ato ei hun mor fawr: ac nad yw rhybuddion ei gyfeillion yn cael yr un argraph arno. Ystyria efe ei hun yn ddyn rhydd, ond ni fu erioed syniad mwy cyfeilornus—0 bob caethiwed, dyma y cadarnaf; mae wedi ymwerthu megys i'w wangc reibus am y blysiau, mae yn gweithio iddo ei hun gadwynau, gan eu cydio yn ddolen ûaewn dolen fel yn y pen draw bydd yn rhaid wrth allu goruwch-naturiol cyn byth y gellir eu datod. Y mae dyfnder ei drueni yn fawr! a chymaint yw ei awydd am y gwirod fel ag y rhodda ei holl olud, pe bai aQgen, er cael gafsel arno; dyma y peth mwyaf dymunol ganddo ef o ûoll ddarpariadau Duw mewn natur. Er fod dedwyddwch gwirioneddol yn estyn ei llaw ymgeleddus tuagato, eto gwell ganddo ef fod yn adyn ûiewn rhwymau, a chael mwynhau hyfrydwch y gwpan, mae ei serch wedi