Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Rhif. 12. RHAGFYR, 1879. Cyf. I. RHAI 0 ANHEBGORION LLWYDDIANT ACHOS SOBRWYDD. &A3î Y PARCH. JOHÎî WILLIAMS, HEBMON, BETHESDA. Y mae yn ffaith mai cynyddu yn rheolaidd a sefydlog er pob ymdrechion daionus y mae yr yfed a'r meddwi yn ein gwlad bob blwyddyn, ac y mae hyny ar unwaith yn cynwys fod anwareidd-dra, anfoesoldeb, ac annuwioldeb hefyd yn myned ar gynydd. Pell ydym, er hyny, oddiwrth ddychymygu na fuasai sefyllfa pethau lawer yn waeth oni buasai am ymdrechion difiino y dirwestwyr mewn gwahanol gyfeiriadau. Mae yr yfed mewn rhai o'i agweddau mwyaf rhyfygus a diraddiol wedi ei ddileu yn llwyr er's blynyddau lawer. Y mae dau achos amlwg na f aasai achos sobrwydd wedi gwneyd mwy o gynydd jn ein gwlad. Un o'r achosion hyn yw difrawder y Senedd, hedd- ynadon, ac eglwysi y wlad yn ngwyneb y pechod o feddwdod a'r arferion cymdeithasol a'i cynyrchant. Yr achos arall yw diffygion y dirwestwyr eu hunain yn nglyn â hyrwyddiad achos sobrwydd. Ar hyn o bryd, sylwn yn unig ar yr aii achos a nodasooi, gan geisio dangos i'n brodyr rai pethau y dylent eu hystyried a'u cefnogi yn eu hymdrech yn erbyn anghymedroldeb. 1. Dylem sefyll yn wir ffyddlawn a chedyrn ar ran achos sobrwydd. Ofn- wn nad ydy/n, fel rheol, yn ddigon difrifol gyda'r ymrwymiad dirwestol. Yr ydym wedi gweled yr ymrwymiad yn cael ei gymeryd 0 dan y ffurf Demlyddol ac o dan y ffurfiau ereill ar ddirwest gydallawer rhy fychan o ddifrifoldeb, h.y., rhy fychan o ystyriaeth o bwysigrwydd y peth. Ehaid i ni ddywedyd fod ymrwymiad y Temlwyr Da yn nghyda'r defodau cysylltiedig âg ef yn ymgais deg tuagat roddi i'r peth ei le® a'i bwysigrwydd priodol. Peth difrifol mewn gwirionedd yw cymeryd unrhyw ymrwymiad am oes. Pe b'ai dyn yn ym- rwymo, dyweder ond am ddeng mlynedd, i wneyd neu i beidio gwneyd unrhyw beth, y mae hyd yn nod yn bosibl iddo fethu ei wneyd, neu fethu peidio ei wneyd. Y mae pawb sydd wedi arfer ystyried rhyw faint yn gweled ar unwaith fod yr ymrwymiad yn rhywbeth amgen na chwareu; ond pan y mae dyn yn addaw yn ddifrifol am ei oes i beiiio yfed diferyn ac i beidio rhoddi i arall yr un diferyn o'r ddiod feddwol, ac yn ymwybodol wrth ymrwymo ei fod yn byw mewn gwlad sydd yn llifeirio o bob math o ddiodydd meddwol, a'r temtasiynau iddo yntau ymollwng gyda'r llif yn afrifed, y mae yn rhaid y cyfrifir y neb a all gymeryd y fath ymrwymiad yn ysgafn yn wallgofddyn, neu ynte yn blentyn heb ei ddeffroi erioed i gymaint ag un ystyriaeth ddifrifol. Byddwn yn methu peidio edmygu cyndynrwydd ambell un i gymeryd ym- rwymiad dirwestol, yn arbenig pan yn gwybod fod y cyndynrwydd hwnw yn codi oddiar ystyriaeta o bwysigrwydd y peth. Peth hawdd ddigon yw cael lluaws o rai na fyddant wedi arfer edrych yn ddifrifol ar ddim i gymeryd unrhyw ymrwymiad ; ond beth sydd yn fwy dirmygus nag ymrwymo heddyw, a gwneyá gwawd o'r oll yfory ? Dyleni, fel Temlwyr Da a dirwestwyr, ym- drechu cadw i fyny yn ngwyneb tueddiad yr oes i edrych yn ysgafn ar bobpeth, bwysigrwydd ac urddas ein hymrwymiad. Ar ol cymeryd yr ymrwymiad,cwestiwn difrifol wed'yn fydd ei gadw,a'i gadw yn bur a dilychwin yn mhob man. Ofnwn fod cannoedd o ddirwestwyr yn weiniaid,—yn rhy wan i ddweyd yn hyf a phenderfynol yn mhob man yn erbyn meddwdod a diotta, am nad ydynt wedi bod yn ddigon gonest a phur gyda'u