Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DYNGARWR Rhif. ii. TACHWEDD, 1879. Cyf. I. Y FASNACH FEDDWOL YN EI HEFFAITH AE FASNACH GYFFBEDINOL. GAN DERWYN. Fy amcanyny sylwadau canlynol yw rhoi rhyw fras olwg ar y gwastraff ofnadwy a wneir ar gynyrch ein gwlad gan y fasnach feddwol, ao hefyd ddangos beth allesid ei wneyd tuag at lwyddiant masnach yn gyffredinol pe diddymid hi. Mae hen ddihareb yn dweyd "Maiynmhob llafur y mae elw." Llafur sydd yn cynyrchu cyfoeth pob gwlad, a swm y cyfoeth yw nerth masnachol pob gwlad ; a phe defnyddid cyfoeth pob teyrnas mewn modd priodol a chyfreithlon,Jbyddai llawer mwy o gysur, llawenydd, a llwyddiant cymdeith- asol nag y sydd yn ein byd yn bresenol. Llafur yw sylfaen pob peth o werth, ac y mae y peth hwnw ag sydd yn atal llafur yn ei ffrwythau cynyrchiol yn difetha llwyddiant, ac yn dyfod a dinystr i genedl. Felly y bu yn mhob oes o'r byd. Trwy lafur diflino y llwyddodd yr Ymherodraethau mawrion yr ydym yn darllen am danynt yn yr hen amseroedd, i gyrhaedd i'r sefyllfaoedd uchel a wnaethant, ac mor fuan ag y darfu iddynt ymwrthod â Uafurio, gan droi i ddiogi, bwyta ac yfed cynyrch eu llafur, a byw yn foethus, dechreuodd eu llwyddiant a'u nerth wywo. Felly ninau yn y wlad hon. Yr ydym wedi cyrhaedd i ben pinacl llwyddiant a chyfoeth, tu hwnt i un genedl arall ar y ddaear yn bresenol. Y mae gan deyrnasoedd ereill eu prif ddinasoedá gorwych a llawn o gyfoeth, ond yn gyffredin rhyw un lle ardderchog sydd ganddynt, a llymdra a thlodi drwy y rhan fwyaf o'u tiriogaethau. Ond am ein teyrnas ni, mae ganddi nid ei phrifddinas fawr a chyfoethog yn unig, ond hefyd ei Manchester, Liverpool, Birmingham, Grlasgow, Dublin, a llawer o ddinasoedd eraül ardderchog, gydag amryw o honynt yn fwy gorwych na'r rhan fwyaf o brif ddinaeoedd y byd. Mae lle i ni ofni, oni lwyr-ymroddwn i geisio ataly gwastraff presenol a wneir ar ein meddianau, y bydd y dinystr a ddaw ar ein gogoniant a'n Uwyddiant yn fwy cyflym, ac yn fwy amlwg nag y bu ein dyrchafiad i'r sefyllfa bresenol. Mae y difrod a wneir mewn cysylltiad â'r fasnach feddwol ar ffrwythau a chynyrchion ein gwlad bron yn anghredadwy. Ehoddodd ein Creawdwr y ddaear i'w llafurio, er mwyn cael bwyd i ddyn ac anifail; ond y mae rhan o'r tiroedd goreu yn ein gwlad yn cael eu troi a'u trin i gynyrchu defnyddiau i droi bendithion ein Tad Nefol yn felldith i'r hil ddynol. Defnyddir cynyrch 80,000 o erwau o'r tir goreu at dyfu hopys a ddefnyddir i chwerwi y diodydd meddwol yn y wlad hon yn unig; ond nid yw hyn ond ychydig mewn cyd- mariaeth i'r tir a drinir i'r dyben o dyfu haidd i'w ddiffetha yn frag i ddarllaw diodydd meddwol. Yr ydys wedi gwneyd cyfrif na byddai cynyrch holl dir pedair o siroedd Lloegr, sef, Mid(fiesex, Kent, Sussex, a Surrey, pe gwneid hwy yn un tyddyn, yn ddigon i dyfu yr haidd a ddifethir bob blwyddyn i wneyd y ddiod feddwol a ddarllawir yn ein gwlad. Cyfrifir cynyrch y tir yna yn 80,000,000 o fwsieHo haidd, yr hwn wedi ei wneydyn fara, aci bob torth fodyn bedwarpwys, a wnai 1,200,000,000 o nifer o dorthau, yr hyn a fyddai yn ddigon o nii'er i roddi ibob teulu o bump o bersonau 188 o dorthau, sef digono fara i'w cynal am bedwar mis. Pe gwneid ffordd, a'i phalmantu gyda y torthau hyn am ddeg llath 0 led cyrhaeddai ddwy fìl 0 fìlldiroedd, neu byddai yn ddigon