Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: fcjpraŵm JirtatffL Rhif. io. HYDREF, 1879. " Cyf. I. SHARESPEARE A DIRWEST. GAN HUGH PRITCHABD, LLANEHCHYMEDD. Shaeespeare a Idrwest yn wir! Pa gysylltiad a all fod rhwng y ddau enw hyn ? Cawn weled yn awr, ddarllenydd. Y mae yn hysbys mai Shakespeare yw tywysog y beirdd, ac yn arbenig efe yw eu tywysog mewn gallu i olrhain a desgrifio holl nwydau, gwendidau, a rhinweddau y galon ddynol; y mae, gan hyny, yn naturiol i ni ddisgwyl ddarfod i sylwedydd mor graffus ag ef dd'od ar draws y gwendid—y pechod parod i amgylchu ein cyd-ddeiliaid yn mhob oes— meddwdod. Y mae yn ei weithiau lluosog lawer iawn o gyfeiriadau at y ddiod feddwal a'i heffeithiau drygionus, ond cyfyngwn ein sylw y tro hwn i un drama, sef Othello. Anfonasid Othello o Venice, yn rhaglaw ar ynys Gyprus. Gydag ef yr oedd Cassio yn brif-swyddog, ac Iago (yr ymgorphoriad hwnw o gnafeidd- dra, ystryw, a dyhirwch) yn weinyddwr. Gosodir y ddau yn nghyd ar y wyliadwriaeth nosawl, a pherswadia y diafl gan Iago y llall i yfed ; ond meddai Cassio, " Nid heno, Iago bach, ymenydd gwan ac anhapus atyfed sydà genyf; dymunwn o'm calon i foesgarwch ddewis rhyw arferiad arall i groesawu." Amen, meddwn inau, dyna yr hen fardd wedi taro ar unwaith ar y llithrigfa sydd wedi tywys miloedd i ddinystr,—croesaw cymdeithasol dan y ffurf o ddiod feddwol. Ónd ysywaeth, ildio a wna'eth Cassio druan. Wedi canu hen gân ofer, dywedai Iago mai yn Lloegr y dysgasai hi, a chanmolai yn fawr alluoedd yfawl y Saeson uwchlaw cenedloedd gwlypaf y Cyfandir. " Nid ydynt ddim i'r Saeson," meddai, agresyn meddwl fod yr hyn oedd yn wir 300 mlynedd yn ol yn parhau felly eto : yr ydym 0 hyd yn cadw y fiaenoriaeth ddirmygus hon 0 fod y wlad feddwaf yn Ewrop. Yn fuan y mae " ymenydd gwan" Cassio yn dechreu troi, ond fel llawer meddwyn ar ei ol, ni fyn gydnabod ei fod yn feddw, a hawyr! wele y prawf— " Peidiwch a meddwl, foneddigion, fy mod yn feddw, dyma fy ngweinyddwr, hon yw fy llaw ddeheu, a dyma fy llaw aswy—nid wyf yn feddw yn awr, gallaf sefyll yn eithaf da, a siarad yn burion." Ond er gwaethaf y prawfìon hyn, dangosodd Cassio yn fuan fod yr alcohol yn ymgynhyrfu, trwy guro yn ddi- drugaredd un o'i brif gyfeülion. Tn nghanol yr ymrafael, daeth Othello ei feistr i'r golwg, ac yn ddiseremoni trodd ef o'i le fel ei brif-swyddog. Dêl Iago yn mlaen drachefn mor ddiniwed ag angel goleuni i gydymdeimlo âg ef, a pherswadia ef i erfyn maddeuant ei feistr a gofyn am ei le yn ol. " Na," medd Cassio, " byddai yn well genyf erfyn am gael fy nirmygu, na thwylle Üywydd mordda. ------ - - - .. ~> ddiddan gadawer i ni dy alw yn _ yn siarad yn gyffelyb dranoeth yr ymyfed, ac eto yn syrthio i'r un pwll. Yn mhellach yn mlaen cydnebydd yn onest nas gwyddai am ddim achos i'r cweryl —" Yr wyf yn cofio pentwr o bethau, ond dim yn eglur—cweryl, ond dim o'r paham. Och ! fod dynion yn dodi gelyn yn eu geneuau i ddwyn ymaith eu hymenyddiau ! Ein bod gyda Uawenydd, gloddest, pleser, a chanmoüaeth, yn trawsffurfio ein hunain i f wystfilod." Nid ydym yn meddu y wybodaeth brof- iadol, pa un a ydyw yr uchod yn ddarluniad cywir o brofiad dyn meddw am y