Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Rhif. 9. MEDI, 1879. Cyf. I. PEETHYNAS DYN A DYN. GAN Y PARCH D. YOTJNG, ABERDAR, LLYWYDD CYMANFA DDIRWESTOL. DEHEUDIR CYMRU. Er holl fanteision gwareiddiad, addysg, a chrefydd, mae llawer o ddynion i'w eael yn barod i ofyn fel Cain, " Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fì?" Mewn oes mor oleu, yn nghanol breintiau mor werthfawr ac aml, byddai i Brydeinwr ofyn y cwestiwn am estron—ani Zulu,—yn ddigoii i awgrymu ar unwaith fod egwyddorion eang, dwfn, a goruchel Cristionogaeth heb gymeryd gafael cyflawn ar ei galon. Ond cawn ddynion ag sydd yn cymeryd sane bwytig mewn cymdeithas, dynion sydd yn hawlio eu bod yn wareiddiedig, yn addysgiedig, a chrefyddoledig, pan yr eir i son am wneyd aberth er mwyn esiampl i'w plant, i'w rhieni, i'w perthynasau, ac i'w cymydogion agosaf, yn barodiofyny cwestiwn, " Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fì?" Eto mae dyn i fod yn geidwad i hyd yn nod yr estron. Mae gwadu y rhwymedigaeth yn anmhosibl. Yn ngoleuni dyngarwch a chrefydd mae yn bod berthynas rhwng dyn a dyn, a hono yn berthynas agos a pharhaol. Ymddengys hyn yn amlwg os ystyriwn i DduY/- wneyd o un gwaed bawb a breswyliant y ddaear. Yn mha wlad bynag y ceir dynion,—yn mha hinsawdd bynag, ac yn mha amgylchiadau bynag— profant yn ddiamheuol eu perthynas agos a'u gilydd. Arddangosant eu perthynas trwy eu gallu i deimlo a mwynhau yr un pethau—yr un argraph- iadau, pleserau, siomedigaethau, &c, gan fod yn alluog i'r un da a'r un drwg. Medda dynion yr un nifer o aelodau a synwyrau i weithredu. Dibynant am gynhaliaeth yr un fath, a gorphwysa eu bvwyd ar yr un telerau. Ehaid iddynt wrth yr un ymborth, gwaith. gorphwysdra, ymarferion, cwsg, &c. Yr un y w eu clefydau, eu gofidiau, eu hangenion, &c. Gallant garu a chashau, tosturio a thramgwyddo fel eu gilydd. Yr un yw gallu a chyneddfau eu henaid i ddeall, amgyffred, ewyllysio, &c. Gallant yr un pethau yn hollol. Dyna rai profion, o fysg eraill, o berthynas dynion i'w gilydd. Cyfyd rhai wrthwynebiad yn erbyn cydberthynas dynion oherwydd gwa- haniaeth lliwiau, maintioli, &c. Addefwn hyn yn anhawsder, ond nid gorinod i'w symud. Mae yr ymchwiliadau sydd wedi eu gwneyd i'r mater hwn, yn awgrymu yn glir, ac i feddyliau diragfarnyn cyfrif y gwahaniaeth. Ceir fod dynion sydd yn byw mewn cyffelyb hinsawdd, er yn mhell oddiwrth eu gilydd, yn debyg i'w gilydd yn lliw eu croen. Dywed Esgob Heber ei fod ef yn gwybod am Bersiaid, Groegiaid, Tartariaid, Tyrciaid, y rhai, wedi ymsefydlu yn India, heb unrhyw ymuuiad gyda'r Indiaid, a aethant yn hollol yr un lliw a hwythau. Dywed Dr Buchanan ei fod wedi cyfarfod â llwyth o Iuddewon duon yn India y rhai ni allai wahaniaethu cydrhyngddynt hwy a'r Indiaid. Dengys y ffeithiau yma (a gallem nodi ychwaneg i'r un perwyl), fod mwy a wnelo hinsawdd, bwydydd, lleolaeth, ac arferion, â'r gwahaniaeth ljiwiau na dim arall, ac nas gellir codi gwrthwynebiad yn erbyn perthynas dyn a dyn ar gyfrif y íliwiau. Gyda golwg ar y gwahaniaeth yn maintioli âynion, gwelir y gwahaniaeth