Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Cglrjjpaímí §îxẅtúol Rhif. 7. GORPHENAF, 1879. ~ Cyf. I. DARBODAETH. GAN Y PAECH. D. G. EVAN8, PENEHYNDEUDBAETH. Ychydig amser yn ol, ofnasid dyweyd nac ysgrifenu ar destyn fel yr un presenol am na fuasai yn hawdd, os yn bosibl, sierhau llygad na chlust neb i sylwi neu wrandaw dini ar y fath fater. Erbyn hyn, dichon na adewir i'r penawd ddianc heb ei ganfod, a gall y teinila ambell un ddigon o duedd i ddar- llen yr ychydig sylwadau a draethir yn yr ysgrif hon. Nid ar gyfer y wasg y bwriadwyd yr ysgrif hon, ond daparwyd hi ar gyfer amgylchiad sydd bellach wedi myned heibio; cyflwynir hi fel ei darllenwyd i ddarllenwyr y Dyngarwr. Bydd hyna o sylw yn ddigon i ateb dysgwyliad y darllenydd rhag rhedeg yn rhy uchel wrth ddechreu darllen. Gwelir fod y pwnc yn un pwysig, ac y teilynga ymdriniaeth fanylach nag a ganiata medr na gofod yn bresenol. Feallai y dylid dyweyd mai yr hyn a olygwn wrth DDARBODAETH yw, iawn- drefnu yn y presenol, a rhag-drefnu ar gyfer y dyfodol. Gwir y tlywedir ** Na ofelwch dros dranoeth," ac nid ydym am awgrymu na ddylid cydymffurfio â'r hyn orchymyna y geiriau yna. Ond ni ddylai pawb gael ei ryddid i esbonio y geiriau wrth ei fympwy ei hun. Wrth esbonio yr adnod yna dylid cofìo adnod arall sydd yn dywedyd, " Tydi, ddiogyn, dos at ymorgrygun, a dysg ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth." Neu eiriau eraill sydd yn dyweyd fod yr *' hwn na ofalo am ei deulu yn waeth na'r diffydd." Dysga profiad fod yn ofynol rhagddarparu o fewn terfynau cyn y gellir gofalu am deulu yn briodol. Credwn, o ganlyniad, nad ydym yn cyfeüiorni wrth gymeryd y rhagofalu, neu y rhagddarparu, i fewn fel rhan mewn darlodaeth. ~ - Gwyddom y dywed llawer mai enillion da, a chartrefi cysurus wna ddynion yn ddedwydd yn eu hamgylchiadau. Credwn ninau fod cartrefi cysurus yn hanfodol er gwneyd amgylchiadau dedwydd, ond credwn hefyd fod cael y cyfryw gartrefi yn dybynu, nid ar faint yr enilHon yn gymaint ag ar y gallu a'r gofal i iawn-drefnu yr enillion geir. Mae enilHón uchel yn fantais fawr i'r cynil a'r gofalus, ond i'r diofal a'r gwastraffus credwn ei fod y felldith fwyaf. Tyb- iwn na raid dwyn ffeithiau i brofi hyn, mae ei grybwyll yn ddigon i arwain meddyHau i gyferbynu amgylchiadau ac enilHon rhai o fewn cylch eu hadna- byddiaeth, ac yno y cânt y prawf angenrheidiol. Mewn ystyr fanwl, dichon y geHir cyfyngu darbodaeth i olygu iawn-drefnu y presenol yn unig; ond byddai felly yn cynwys y dyfodoî, gan y byddai y gofal presenol yn sicrhau ystorfa ar gyfer amgylchiadau eill gyfodi yn y dyfodol. - Panfydd adeiladydd yn "cynyg" ar adeilad, bydd wedi gofalu cyfrify draul at wahanol ranau y gwaith. Bydd ganddo swm digonol wedi ei roddi ar gyferynwyddau anghenrheidiol, a swmdigonolargyferycyflogau, &c. Gofala hefyd fod ganddo ryw gymaint yn y symiau a'r gyfer digwyddiadau y gwaith— pethau áll godi, y rhai ydyntanweladwypanmaeef yn»gwneyd ei gj^frif i fyny. Gwna y darbodus mewn bywyd rywbeth yn debyg. Trefna ei eniHion i gyfarfod ei wahanol anghenion, ac ymdrecha gynilo rhyw gymaint ar gyfer digwyddiadatí by wyd~pethau anwèladwy yn y dyfodol pan mae ef yn gwneyd ei gyfrif on ifyny..