Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Cglrííötaíüit girteioL Rhif. 5. MAI, 1879. Cyf. I. DEYCH I YFWYE, CYMEDROL. GAN Y PAECH G. H. EOBERTS, CAEBFYBDDlîî. " Yn caru melus-chwant yn fwy nag yn caru Duw."—Paul. Beentb fod y frawddeg uchod yn rban o'r epistol olaf a ysgrifenodd yr apostol Paul. Y mae yn ddiainheu ei fod yn teimlo o dan y rhwymau mwyaf i rybuddio Timotheus am y cymeriadau hyn; er fod ysgrifenu am danynt yn rhoi poen mawr iddo, fel y gwelir yn Philipiaid iii. 18, 19. Diau eu bod oll yn grefyddwyr proffesedig. neu nid oes f odd deall f od ganddynt '' rith duwioldeb " ("ffurf duwioldeb" yn Saesneg). Ond y mae gan hwn, yn ol geiriad y frawddeg, fwy; hyny yw, mae gan hwn fesur o'r brif elfen mewn gwir grefydd, sef cariad at Dduw; ond er hyn, y mae yma beth arall sydd mor groes i hyny, sef " yn caru melus-chwaiit yn fwy nag yn caru Duw." Pan y mae unrhyw un yn dyfod yn ymgeisydd am aelodaeth yn un 0 eglwysi Crist (gan nas gall dyn adwaen calon neb), mae yr eglwys yno ar y pryd yn rhwym, yn ol cyffes y dyn, i gredu ei fod yn caru Duw. Ond gan fod ein Hathraw wedi d weyd fod bywioldeb proffeswyr crefydd i'w adwaen fel yr ydym yn adwaen bywioldeb y pren, wrth ei ffrwythau, mae yn ein heglwysi luaws i'w cael o aelodau nas gellir daríunio eu cymeriad â geiriau mwy cymhwys na'r rhai hyn o eiddc Paul, sef eu bod " yn caru melus-chwant yn fwy nag yn caru Duw." Mae yn mywyd y dosbarth y cyfeiriwn atynt lawer iawn o bethau a ddangosant eu bod yn caru Duw. Ác yr ydym yn credu fod cymdeithas yn gyffredin yn edrych arnynt fel y cyfry w; ond pan yr edrychir arnynt yn ngoleu bywyd a dysgeidiaeth Paul, yr hyn y dywed y frawddeg uchod eu bod, ydynt. Mae yn iawn i ni ddweyd wrth gychwyn, nad ydym ni yn cyfeirio at y dosbarth hwnw o grefyddwyr ag ydynt unwaith neu ddwy yn y fìwyddyn o dan gyngor neu gerydd yr eglwysi y maent yn aelodau ynddynt oblegyd yfed i ormodedd; ond y maent yn ddynion gwastad, parod i gymeryd eu rhan mewn unrhyw un o gyfarfodydd yr eglwysi y maent yn aelodau ynddynt. A'r ffordd fwyaf rhwydd i ddeall ein meddwl ydyw i ni roddi rhyw ddwy neu dair enghraifft o honynt. Felly y mae yn iawn i ni ddweyd mai cymeriadau byw, cwbl adnabyddus i ni ydynt, ac nid ffug-gymeriadau : y mae yr enwau yn unig yn ffug, ac yn eiddom ni. Enw y cyntaf yw Morgan Llwyd. Crefftwr ydyw, yn byw mewn ardal wledig, ac y mae gyda chrefydd er's chwarter canrif. Ar yr adeg y galwyd ein sylw ni at hyn, unwaith yn y chwarter y byddid yn casglu at y weinidogaeth yn yr eglwys yr oedd M. Llwyd yn aelod, a chwe' cheiniog oedd efe yn arfer gyfranu (ac nid wyf yn gwybod ei fod yn ol i rai 0 sefyllfa gyffelyb iddo). Dywedai ein hys- bysydd, yr hwn oedd yn ddiacon yn yr un eglwys,—ac yr ydym yn beiddio dweyd fod y diacon hwn yn un o ragorolion y ddaear,—nad oedd efe yn credu fod M. Llwyd yn cyfranu at bob achosioncrefyddol eraill, fwy nag a roddai at y weinidogaeth; felly holl ffrwyth cariad M. Llwyd at achos ei Geidwad oedd pedwar swllt y flwyddyn! A chan ein bod yn hen adnabyddus o hono, ac yn gwybod ei fod wedi hen arfer â ehynifer o wydreidiau o gwrw yn y ffeiriau a'r marchnadoedd yr oedd ei alwedigaeth yn ei alw iddynt, gofynwn i'n hen gyf- ajll, " A pha faint a dybiech y mae ffair D------yn gostio iddo bob tro y bydd