Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYNGARWR: Cglrj^räŴm ÌÌŴÍSÍ0L Rhif. i. IONAWR, 1879. Cyf. I. JOHN BAETHOLOMEW GOUGH. GAN Y GOLYGYDD. Yn mhentref Sandgate, Kent, Lloegr, ar yr 22ain o Awst, 1817, y ganwyd Mr. John Bartholomew Gough, yr areithydd dirwestol enwog: felly, Prydeiniwr yw o ran genedigaeth. Nid oedd ei rieni ond tlodion. Gwraig ragorol a duwiol oedd ei anwyl fam, a'i dad yn wr bucheddol, ond yn "yfwr cymedrol." Cafodd ysgol nes bod tuag 11 mlwydd oed. Anfonodd ei rieni ef gyda chyfeillion i America, a glan- iodd yno yn Awst 1830. Dechreuodd ei yrfa yno fel gwas bach ar dyddyn, ond tueddai at lyfrau, a gwynebodd New York, lle y cafodd ei hun yn ddigyfaill, ac heb yn ei logell ond un haner dolar. Cafodd waith fel llyfr-rwymydd: daeth yn mlaen, a mynodd ei rieni ato 0 Loegr. Yn fuan bu farw ei fam, a chladdwyd hi yn medd y üawd. Aeth yntau i ddilyn cyfeillion cellweirus, a dechreuodd yfed. Wrth ei fod y» gerddor, yn ddynwaredwr, ac yn draddodwr rhagorol, denid ef i esgynlawr y chwareudy, a llwyddwyd; ond, o herwydd meddwdod, colíai ei lc dr&chefn a thra-