Skip to main content

5$5 Yr AlTHRONYDD CyMREIG (The Welsh Philosopher). Rhif 52] RHÄGFYR, 1894. [Cyf. V. YMDDYGIAD ANHEILWNG DYN TUAG AT FAWREDD DYODDEFGAEWCH DÜW. RHUF. ii. 4: " Neu a wyt ti yn diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddyoddefgarwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?" Desgrifiad cyffredinol ÿ Beibl o Dduw ydyw, " Da a daionus yw yr Arglwydd." Nid ydyw priodöleddau Duw ond gwahanol agweddau ar y daioni mawr hwn. " Cyf- iawnder" ydyw daioni, neu gariad yn gofalu am chwareu teg i bawb, Duw, a dynion, yn ogystal ac angelion. " Trugaredd " ydyw daioni, neu gariad tuag at y truenus a'r drwg, ac felly am yr holl briodoleddau. Fel y mae goleuni yn amrywio mewn amgylchiadau: os bydd yn myn'd trwy wydr lliwiedig bydd yn wahanol, rhagor na phan yn treiddío trwy wydr plaen; ond er hyny yr un goleu pur, gwyn, ydyw ynddo ei hun'. Nid priodol ydyw darlunio priocíoleddau megis cyfiawnder a thrugaredd fel pe byddai cyfiawnder yn erbyn trugaredd—cyfiawnder am dori i laẁr, a thrugaredd am gyfodi i fyny. Gellir goddef y fath ymadroddion mewn barddoniaeth, am y caiff beirdd hawl i ddefnyddio gormodiaeth. Ceir yn y geiriau sydd uwchben ein hysgrif olygwedd gyffredinol a neillduol ar gymeriad Duw. " Golud ei ddaioni," neu yn fwy llythyrenol, " golud ei garedigrwydd." Y mae caredigrwydd Duw fel eigion ddilàn—môr mawr ei ddaioni yn dyfod nes gorchuddio 'r holl fyd. Yna golyg- wedd mwy neillduol, sef " golud ei ddyoddefgarwch, a'i