Skip to main content

Yr Athronydd Cymreig (The Welsh Philosopher). Rhif 50] HYDREF, 1894. [Cyf. V. COSB DUW AM BECHOD GWLAD.* Gan y Parch. T. Heney Jones, " Mahanoy City," Pensylyania, America. Nehemiah xiiì. 15—21. " Ha fab dyn, pan becho gwlad i'in herbyn trwy wneuthur cam- wedd, yna yr estynaf fy llaw arni, a thoraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a doraf jTmaith o honi ddyn ac anifail."— Ezeciel XIV. 13. "PacJc of lies." Dyna yr enw goreu all anffyddwyr ei gael am y Beibl, meddent hwy. Ond druain o honynt, mae y Beibl y nai 1 ddydd ar ol y lla.ll yn profi ei hunan yn too true iddynt hwy, ac i bawb o'u hamgylch ; yn arbenig felly i'r Iuddew. Dywedir am Arglwŷdd Rochester ei fod wedi byw yn hir mewn anffyddiaeth, ond ei fod o'r diwedd wedi dyfod i gredu fod gan Grist- ionogaeth un rheswm ffafriol o'i phlaid, ac nis gallai ei daflu o'r neilldu, sef " Bodolaeth ac amgylchiadau yr Iuddew ;" a'r foment y gall anfîyddwyr wneyd i ffwrdd a'r Iuddew, gallant ameu, heb ofni, ysbrydoliaeth y proffwydoliaethau, a dweyd yn ngeiriau un o honynt eu hunain, " Fod yr Anfeidrol wedi dangos diffyg chwaeth wrth ddewis y fath genedl." Na, nis gall neb ond yr hwn a'i creodd wneyd i ffordd a'r Iuddew. Mae Lloegr wedi ceisio yn llechwraidd *Mae y bregeth wedi ei chyfansoddi gan y Parch T. Henry Jones, Mahanoy City, Pa., yr hwn a gyfrifir yn bregethwr galluog a gwir gymeradwy, er nad yw ond deg-ar-hugain oed.