Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Althronydd Cym^eìg (The Welsh Philosophei»). Rhif 49] MEDI, 1894. [Cyf. V. CWESTIYNAU GWYDDONOL. Gak Thomas Jones, Llanrwst. GOF. 5.—Ehoddwch rhai rhesymau dros y gwahan- iaeth sydd yn ardymeredd rhanau dwyreiniol a gorllewinol Prydain. A.—Gallwn nodi y pethau canlynol fel rhai o resymau dros y gwahaniaeth sydd yn ardymeredd rhanau dwyrein- iol a gorllewinol Prydain:— 1. Am fod y gwyntoedd sydd yn chwythu ar y rhanau dwyreiniol a gorllewinol yn hollol wrthgyferbyniol o ran natur, yr hyn sydd yn peri gwahaniaeth yn eu hardymer- edd. Y mae y gwyntoedd dwyreiniol yn fynych yn chwythu am gryn amser yn y gwanwyn ar y rhanau dwyreiniol, ac y maent yn oer, sych, a threiddiol. Deu- ant o Siberia a Ewsia Ogleddol, h.y., deuant o'r lle oeraf yn yr hen fyd, yn y mis oeraf, ac nid ydynt yn cynwys ond ychydig os dim lleithder, ac er eu bod yn traws- deithio yn y diwedd dros for y gogledd, y mae eu tymer- edd yn rhy isel i lyncu tarth, ac felly yn hynod o sych am oddeutu tri mis, tra y ffyna y gwyntoedd gorllewinol yn y rhanau gorllewinol, ac y maent yn llwythog gyda llawer o leithder. 2. Am fod yna fwy o wlaw yn disgyn ar y rhanau gor- llewinol rhagor ar y rhanau dwyreiniol. -Disgyna cryn lawer mwy o wlaw ar y rhanau gorllewinol rhagor ar y rhanau dwyreiniol, ac y mae y disgyniad yn fawr neillduol