Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yf^ Athronydd Gymreig (The Welsh Philosopher). Rhif 46] GORPHENAF, 1894. [Cyf. V. CWESTIYNAU GWYDDONOL. Gan Thomas Jones, Llanrwst, G. Eglurwch ffurfiad (a) Rhew, (b) Gwlith, (c) Gwlaw. A. (a) Rhew.—Ffurfir rhew yn y ffordd a ganlyn,— trwy i ddwfr gael ei amddifadu o ran fawr o'i wres, fe'i cyfnewidir i rew, am fod y mymrynau (particles) yn dyfod yn agosach, agosach, at eu giíydd, nes o'r diwedd y maent wedi dyfod mor agos fel y maentyn galluglynu yn gadarn wrth eu giiydd. Ac yna y maent yn peidio a bod yn alluog i symud yn rhydd o gwmpas yn mhlith y naill a'r llall, ac yna daw y dwfr yn gorff caled am amser. Pan y bydd yr awyr yn llawer oerach na'r dwfr, y mae yn cymeryd ymaith ei wres, ac oherwydd hyny y mae dwfr yn myned yn sylwedd caled ; a siarad yn syml, dyna yw rhew, dwfr wedi caledu, wedi ffurfioyn sylwedd caled yn y modd a nodwyd ; a phan gynhesa yr awyr drachefn, y mae y rhew yn tynu gwres ato ei hun, yn ymdoddi, ac yn myned yn ddwfr drachefn. Y mae yn ffaith fod dwfr wrth oeri, ar ol cyraedd 4°C yn dechreu chwyddo, a dyfod yn ysgafnach na'r dwfr, nes gallu nofio ar ei wyneb. (b) Gwlith.—Ffurfir gwlith yn y modd a ganîyn,—• Esgyna tarth o'r ddaear trwy w res yr haul i'r awyrgylch, ac yna y mae yn tewychu, trwy ddyfod i gyffyrddiad ac arwynebedd oerach na'r awyr yn yr hwn y nofia. Pan yr eîo yn drymach na'r awyr, y mae yn disgyn yn ei ol