Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Ŵthronydd Cymreig (The Welsh Philosopher). RmF 45] MEHEFIN, 1894. [Cyf. V. CYFEILIORNADAU PROFFESWR DRUMMOND. á. Y Dyn Ysprydol. WEDI gweled syniadau y Proffeswr ar y "dyn naturiol," y modd y daeth i'w sefyllfa, a'r gwa- haniaeth terfynol sydd rhyngddo a'r "Beibl, nat- uriol ydyw i ni edrych ar ei olygiadau am y dyn ysbrydol, a'r niodd y daw i wisgo 'r enw o ddyn ysbrydol. Ceir y drafodaeth hon yn y benod ar Fywydeg, neu biogenesis. Yr athrawiaeth a ddysgir wrth biogenesis ydyw y syniad sydd yn golygu cynyrchiad neu greadigaeth bywyd gan, neu oddiwrth fywyd blaenorol, neu mewn geiriau eraill, fod yn angenrheidiol cael bywyd i gynyrchu bywyd, yr hwn air sydd wrthgyferbyniol i'r gair abiogenesis, sef yr athrawiaeth sydd yn dysgu fod bywyd yn hunan-gynyrch- iol, neu hunan-genedledig, heb unrhyw fath o fywyd blaenorol. Dyfyna Huxley, i ddwyn tystiolaeth i hyn, fod y syniad o fywyd oddiwi-th fywyd yn fuddugoliaethus ar hyd yr holl linell y dyddiau presenol. A'r un modd efe ddyfyna 'r Proffeswr Tyndall i'r un pwi-pas, yr hwn sydd yn dweyd nad oes prawf o gwbl fod bywyd wedi ymddangos ar wahan i fywyd blaenorol. Ceir gan y Proffeswr Drummond sylwadau gwyddonol galluog ar y mater b.wn, a dengys yn amlwg geudeb y golygiad arall. Y mae pawb Cristionogion yn cydnabod hyn am fywyd yn mhob peth a phob man, dyn, ac anifail. Addefwn oll fod yn rhaid geni dyn drachefn oddiuchod, neu o Dduw,