Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr fíTHRORYDD CyM-REIG (The Welsh Philosopher). Rhif 44] MAI, 1894. [Cyf. V, CYFEILIORNADAU PROFFESWR DRUMMOND 3)- Dyn yn ei gyflwr naturiol. HYDERWN eîn bod wedi dangos fod Dru'mmond yn dysgu mai'r un a'r unrhyw ydyw deddfau naturiol a'r ysbrydol, a bod ei ddamcaniaeth yn seiliedig ar y syniad o ymddadblygiad naturiol trwy'r holl greadigaeth ; arweinia hyn ni yn naturiol at ei olygiadau am ddyn yn ei gyflwr naturiol, moesol, ac ysbrydol, a'i berthynas a Duw ac a"r byd arall. Dech- reuwn gyda dyn yn ei gyflwr naturiol, neu fel y geilw Drummond ef " y dyn naturiol." Llawer ydyw y gwa- hanol syniadau sydd wedi bod erioed am y dyn cyntaf Adda, y sonia'r Beibl am dano. Ond yn ol golygiadau Drummond ni bu y fath greadur erioed yn bodoli ac Adda llyfr Genesis. Nid y dyn cyntaf Adda ydyw ein tad ni oll; ond rhyw fod sydd wedi dadblygu o'r anifail, a dyfod yn greadur hagr, hyll, yn byw a'r ysglyfaethu, ac ymladd yn erbyn pob creadur a ddigwyddai gyfarfod ag ef, gan fwyta cigfwyd wedi ei haner goginio, ac yn byw mewn hen ogofeydd Ilaith a myglyd, yn tori hen esgyrn gyda morthwylion ceryg a ddyfeisiodd, ac yua dadblygodd yn araf trwy yr oesau lawer aeth heibio i'r hyn ydyw yn bresenol, ac nid ydyw eto ond yr anifail dadblygiedig, Nid bod ydyw sydd wedi ei greu ar