Skip to main content

Yp, ẀîHRONYDD CyMHEIG The Welsh Philosopher). Rhif 41] IONAWR, 1894. [Cyf. V. HUNAN-DDIWVLLIANT. Gan Thomas Jones, Llanrwst. 6. Hnnan-ymholiad ac adelygiant.—Chw'iûo a phrofi ein hunain, ac adolygu ein gwaith, er mwyn gweled yn mha le yr ydym yn sefyll, beth yw y cynydd, a pha beth sydd yn angenrheidiol ei gyflawni yn y dyfodol. Galw ein hunain i gyfrif, ac adolygu yr hyn a wnaethom, pa fodd y treuliasom éin hamser, pa ddaioni awnaethom ; y mae hyn yn fanteisiol i hunan ddiwylliant, ac yn hollol angenrheidiol a rhesymol. Dywedodd y llafurus, Wyttenbach, fod yr arferiad o adolygu "yii gymorth anhygcel i fyned yn mlaen yn llwyddianus," ond, meddai efe eto, " rhaid iddo fod yn adolygiad gwirioneddol a thrwyadl ; hyny yw, rhaid myned trwyddo eilwaith ac eilwaith.'' Hoii ac adolygu ar ddiwedd pobdiwrnod, ac hefyd ar adegau eraill, a bod hyn yn cael ei wneyd yn gyson a rheolaidd. Yr oedd yn arferiad gan un athronydd paganaidd wasgu at feddyliau ei ysgolheigion y pwys o chwilio ac ystyried bob nos cyn y cysgent pa beth a wnaethant y diwrnod hwnw, a thrwy hyny gael allan pa weithredoedd fyddai yn deilwng i'w cyflawmi dranoeth, a pha bethau i'w hysgoi. Dylem ddal ein hunain yn ngwyneb y ft'eithiau hyn, ac os cyflawnasom rywbeth o'i le, dylem fod yn ddigon ffyddlon i gondemnio ein hunain a gwella rhagllaw. Dylai hyn gael ei wneyd gyda manyldeb a gonestrwydd ; yr ydym yn barod iawn chwilio ac adolygu eraill, ond yn hynod o hwyrfrydig i wneyd hyny gyda ni ein hunain,