Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr A.THRONYDD CyMR.EIG (The Welsh Philosophep). Rhif 39] TACHWEDD, 1893. [Cyf. IV. Y DOSBARTH ATHRONYDDOL. Anwyl Gyfeillion, Y nodwedd nesaf, neu y gallu perthynol i'r deall- dwriaeth a nodasom ydyw Duchymiig. Ceir gwahanol syniadau am y gallu hwn o eiddo y meddwl, Hamilton a ddywed fod y gair yn amwys, aneglur, a'i fod yn cynwys naill ai y weithred o ddych- ymygu, neu y cynyrch o ddychymygu, sef y ddelw-a ddychymygir. Tebyg iddo ydyw syniad John Stuart Mill. Dywed fod i ddychymyg ddau ystyr—golyga rhyw un cynllun, neu ygallu o'r cyfryw g-ynllun. Rhes- trir dychymyg gan Hamilton yn mhlith y galluoedd cynrychiol, ac yn allu cynrychiol (rcpresenà/ùve faculttj), yna rhaid fod ei gynyrch. neu ei ffrwyth yn gynrychiadol, yr hyn alwai rhai yn ddrychfeddyliau, ac yn ddrychfedd- yliau creadigol gan y dychymyg. Am hyny y dywed Hamilton " Dychymvg yn ei ystyr eangaf ydyw y gair cynrychiol {rtpresentatẃe) o ymddangosiadau {pheno- ?nena) bydoedd allanol a mewnoL" Gwelir fod Hamilton yn gwneyd dychymyg yn allu cyfansawdd, yn dal perth- ynas a'r allanol yn ogystal a'r mewnol. Fel hyn y desgrifia wrthddrych" dychymyg : "Y cynrychioliad a ystyrir fel gwrthddrych, sydd yn rhesymegol (logicalh/, ond nid yn wirioneddol yn wahanol i'r cynrychioliad fel gweilhred. Yma y rnae y gwrthddrych a'i weithred