Skip to main content

Yr Álthronydd Cymheig (The Welsli Philosopher). Rhif 36]. AWST, 1893. [Cyf. IV. ESBÜNIAD AR MAES LLAFUR WESLEYAID GOGLEDD CYMRU, 1893-94. MEWN FFORDD O ATEBION I HOLL OFYNIADAU DOSBARTH II A III. Y Cwestiynau Arweinwl. TARDDA yr enw " Exodus " trwy y Lladin o'r cvf- I . ieithiad Groeg " Exodos." Teitl Hebreig y Llyfr ydyw, " Dyma yr enwau," oddiwrth y geiriau cyntaf geir ynddo. Ystyr y gair Groeg " Exodos " wedi ei Latineiddio yn " Exodus " ydyw ymadawiad. Gwel y gair yn cael ei gyfieithu yn ilythyrenol yn Heb. xi. 22 ; Luc ix. 31 ; 2 Petr i. 15. Gelwir y llyfr weithiau, neu ranau o hono, Yr Ail Lyfr, a Lîyfr y Niweidiau, ar ol Exodus xxi, xxii. Enwid liyírau yn mhlith yr Iuddewon yn ol y geiriau cyntaf ynddynt. Rhenir Llyfr Exodus yn ddwy ran, rhan 1, penod i—xviii. yn cynwys (1) Gorthrymu Israel yn yr Aipht; hanes Moses, ei genadaeth at Pharaoh, a'r plâau yr> yr Aipht, i—xii. 36. Dyma ran y Maes Llafur. /2). Yr j'madawiad, dymchweliad yr Aiphtiaid, a dyfodiad y genedl i Sinai,, penod xii. 37—xviii. Ýr ail ran (1) Y gwersyllu gerbron Sinai, penod xix ; rhoddiady ddeddf, penod xx—xxiv. (2). Y cyfarwyddiadau o berthynas ì'r