Skip to main content

Yr AlTHRONYDD CyMHEIG (The Welsh Philosophep). Rhif 35]. GORPHENAF, 1893. [CYF- IV. H UN AN - D D I W Y L L I A N T. Gan T. JONES, Llanrwst. I P E N N O D . *sM^ GOFÿNIAD naturiol a gyfyd i ddechreu ynglyn a'r «j£» penawd hwn, yw; beth sydd yn gynwysedig mewn hunan-ddiwylliant ? I'r hyn yr atebaf,—cynwyaa fod natur dyn yn yr hyn oll ag yw yn cael ei dadblygu a'i dysgyblu i'r fath raddau fel ag i'w dwyn at ei wasanaeth, ac o dan ei awdurdod a'i lywodraeth. Ceir fod hunan ddiwylliant yn yr ystyr lawn ac uchel yna, yn gyfryw sydd yn cyraddasu dyn i ateb holl ddybenion ei fodolaeth am amser a thragwyddol- deb. Gan ei fod yn cynwys perffeithiad ei natur, y mae yn ei gymhwyso i gyflawni yn deilwog ac yn briodol holl ddy- ledswyddau a gwaith bywyd yn y byd hwn; ac yn y diwedd i ddal tragwyddol bwys gogoniant yn ngwlad y perffeith- rwydd diddiwedd. Y mae eisieu tynu allan y galluoedd cynhenid sydd ynom. a hyny trwy gyd-ymffurfiad â deddf llafur, a dyna yw diwylliad. Nid pentyru trysorau ar drys- orau o wybodaeth ar eu gilydŵyn y meddwl sydd yn cyfan- soddi diwylliad; eithr yn hytrach, fod y galluoedd sydd ynom yn cael eu dadblygu a'u dysgyblu fel y bydd y wybodaeth o dan ein llywodraeth yn hollol. Pan y sonir am ddiwylliad cymdeithasol, meddyliol, a moesol.; yn syml nid yw ddim amgen na bod dyn yn gallu llywodraethu ei hun yn y gwa- hanol gysylltiadau y bydd efe yn sefyll ynddynt.