Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr A.THRONYDD pYMREIG (The Welsh Philosopher). Rhif 3i]. MAWRTH, 1893. [Cyf. IV. ENWOGION ATHRONIAETH. Plato. II. HYD y gallwn weled, yr oedd Plato fel athronydd yn Ysbrydolydd, ac nid yn Faterolydd, fel mai gwir ddywed Hegel am dano ei fod yn dyrchafu ymwybyddiaeth yn arbenig i fyd yr ysbrydoedd. Rhydd le amlwg i ragoriaeth yr enaid, neu yr ysbryd, ar y byd materol. Dywed nid yn unig fod yr enaid yn rhagori ar y corff, ond ei íod yn bodoli yn flaenorol iddo, a hyny, nid fel y bodola yn Nuw, ond hefyd yn y creadur. Rhag-fodolaeth eneidiau dynion ydyw un o'i ymresym- iadau cryfaf yn y Phaedrus dros anfarwoldeb yr enaid. Rhesymau erailí a ddyg yn Tilaen drosyr un athrawiaeth ydyw, fod yr enaid yn arwain ac yn llywodraethu y corff. ac oblegid hjny yn tebygoli i'r duwiau anfarwol. Dywed fod yr enaid yn alluog i amgyftred drychfeddyliau tragwyddol ac anghyfnewidiol, sef gwirioneddau cyn- greddfol, ac am hyny yn gyfranog o'r un natur ysbrydol. Dysg yn eglur hefyd fod ymwybyddiaeth yn syml, ac yna fod yr ysbryd yn sylwedd syml ac anrhanadwy, ac nid yn gyfansoddiad, a'r canlyniad o hyny hefyd ydyw, nas gellir ei ddadgysylltu oddiwrth ei gilydd fel y gellir gyda sylwedd mynrywol neu gyfansawdd, y canlyniad o