Skip to main content

Yr Althronydd Cymreig (The Welsh Philosopher). Rhif 30]. CHWEFROR, 1893. [Cyf. IV. ENWOGION ATHRONIAETH. Plato. OLVNV~DD naturio! Socrates oedd Plato ei ddisgybl rhwyaf dysgedig a galluog. Dyma yn ddiau yr Athronydd mwyaf adnabyddus o ran ei enw o'r holl Athronwyr heriajol, a hwyrach diweddar hefyd. Clywir pob hogyn os yn son am Athroniaeth yn enwi Plato. Y mae hyn yn brawf fod y dyii mavvr hwnw wedi gadael enw a dyíanwad ar ei ol sydd yn debyg o aros yn hir. A rhaid fod rhyw arbenigrwydd mewn dyn fydd wedi bod yn dysgu dros 400 o flynyddoedd cyn Crist, a'i enw mor newydd, a dylanwadol yn y byd hyd heddyw. Ni chamgymerem pe dywedwn fod Piato yn mhlith yr Athronwyr paganaidd yr hyn oedd Moses yn mhlith y proílẁydi, a hyny nid o ran ei berson a'i addysg, ond hefyd yn nodwedd yr addysg hono. Yr oedd Plato yn mhlith y paganiaid yn dysgu am y gwir Dduw, yr hyn a wnai Moses yn mhlith yr Iuddewon. Mab ydoedd Plato i un Ariston, ac yn disgyn o deulu anrhydeddus yn Attica. Ganwyd ef yn y flwyddyn 429 C.C., y flwyddyn y bu farw Pericles, ac yn ail flwyddyn rhyfel anedwydd ac aflwyddianus Peloponnesia. Troes y rhyfel hwn yn anfanteisiol i'r Atheniaid. Ganwyd ef yn nghanol mis Mai yn Athen.