Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. TACHWEDD, 1850. EGLWYS GYSGLYI». <San fŵatfjete*. Mae rhyw farweidd-dra cyffredinol yn gordoi ein heglwysi yn y dyddiau pre- senol, wedi y bywiogrwydd a addurnai ein cynnulleidfaoedd yn y misoedd a aethant heibio; oganlyniad, nid anf'udd- iol fyddai cynnyg ychydig nodiadau ar y pwnc uchod. Priodoliaethau eglwys gysglyd.— Gwnaed darlîenwyr y Tyst, a'r eglwysi i ba rai y perthynant, ddal eu hur.ain yn onest yn ngwyneb y nodweddau canlyn- ol:— Eglwyssyddyn aros yr un man yw, Nid yw yu myned rhag ei blaen mewn gwyb- odaeth, sêl, teimlad, a chasineb at bech- od; mae y maban yn cynnyddu, a'r plan- higyu yn tyfu; mae masguach, gwlad- ddysg, a chelfyddydau yn myned rhag- ddynt; ond am eglwys gysglyd, niae hi yn aros yn llonydd yn mreichiau cwsg— cysgu y mae. Un ddiofal am dani ei hun yw. Gall ysbeilwyr, llewod, &c, fod yn ymyl y cysgadur, ond y mae o mor dawel a phe byddai /í/e-^uortíWictoria yn ei amgylchu —cysgu mae. Nid yw eglwys gysglyd yn gofalu am ei chleifion, cant fod mor ddi- ymgeledd a chywion yrestrys; ychjdig o sylw a dâl i rai a ganlynant o hirbell, ac nid oes ymdrech ynddi i wella y clwyfus, ac adfer yr afradlon. Caiff'crefyddwyr ieuainc ddiota ac esgeulusoyrysgolganu, y cwrdd gweddi, a'r cyfeiílachau neill- duol. Mae diota, cybydd-dod, ac esgeu- lusdod o foddion gras yn bygwth ei lladd. Gadawa ddynion aflan esgyn ei hareith- fa, mae hi yn dawel, cy'sgu y mae. Rhanol yn mhob peth yw. Mae y llyg- aid wedi cau, mae y dwylaw yn llonydd mewn cwsg, ond mae y galon yn duo, ac mae y gwaed yn cael ei weithio yn ol a gwrthol yn y gwythienau pan mae dyn yn cysgu. Mae Hawer o aelodau y ddi- adelí gysglyd yn ddiwaith, arosant ar hyd y dydd yn segur, rhaid eu llusgo, eu cymhell, a'u ceryddu; ond mae rhai yn ddiwyd gyda yr ysgol, y côr canu, cyrdd- au gweddi,—yr un personau sydd yn gwneyd pob peth : paham na byddaì yr eglwys yn cytfymdrechu o blaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint? eysgu y mae, Mae yn yadael l/onydd i bob peth. C'ael llonydd, a gadael ereill yn Uonydd, mae y cysgwr yn garu. Caiffy gwas fod yn segur, a'r anifeiliaid ddinystrio yr egin gwenith : caifl'lladron gloddio ei dŷ trw- odd, a'r blaidd larpio ei blant, mae et'yn cysgu- Fel hyn mae hon ; caiffmeddw- dod ddamnio ei filoedd, ac anwybodaeth gadwyno ei miliynau heb iddi sylwi; caift' campau uffernol y wlad, pa rai sydd fel cwn cynddeiriog a seirfí' gwenwyn- llyd lonydd, ni rydd help llaw i'r Ar- glwydd yn erbyn cedyrn y byd moesol— cysgu y mae. Nid yw dynlon yn cysylltu pwys â'r hyn a wna. Ni sylwir ar ystumiau corphorol nac ar lais y cysgwr druan, oddieithr mewn gwawd; os gwna ryw lais, dywed- ir, O! breuddwydio y mae—dim pwys. Nid yw gweddiau a chynghorion eglwys gysglyd, ond "fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian," yn nghlustiau yr annuwiolion. Maent yn gweled fod an- nghysondeb rhwng eu gweddiau a'u hym- ddygiadau—fod mwy o arian yn cael eu haberthu ar allorau y myglys a'r cwrw nag a aberthir ar allor crefydd—fod mwy o hwyl yn y dafarn nos Sadwrn nag yn y cwrdd y Sabbath canlynol. Paham nad ystyriai y gwrandawyr? Nid ynt yu gweled yr eglwys yn effro—cysgu y mae. Un rwgnachlyd, sarug i'r rhai a géis~ iant ei dèffroi yw. Am gael llonydd mae y cysgwr, mae ei wedd a'i lais yn dangos ei aufoddlonrwydd. Weithiau inae gan- ddo ei esgusodion—rhy foreu, &c. Os gwna y canwyr ymdrechu dadebru Seion, dywedir mai actio maent—mae yr hen dônau yn fwy nefolaidd—balchder yw gwreiddyn y tônau newyddion. Os daw dirwest yn mlaen, gofynir, "Beth yw y ddysg newydd hon." Mae peint yn ei le o'r goreu. Gallaf lywyddu fy hun heb y ditotaliaeth yna," &c. Os pregeth- ir dyledswyddau, achwynir nad oes bwyd enaid i'w gael. Paham mae yn grwg- nach? cysgu y mae. Nid yw yn gyfrwng % dàeffroi ereiU. Rhaid cael un effro i ddeftroi. Mae y 32