Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST AÎOSTOLAIDD. GORPHENAF, 1850. SWYDDOGION EGLWYSIG. Cîîatt S. î£ei>erte, tymttŵurfr Sylwyd yn tìaenoroì mai ÿh raddol y dechreuodd dirywiad yn y pwnc dan sylw gymeryd lle yn jrr eglwys, er fod"dirgel- wch yr anwiredd yn gweithiö eisioes." Ymddengys mai y tro cyntaf y dangos- odd ei huuan oedd yn yr ymdrech a wnawd i wahaniaethu rhwng henüriaid (preshuteroi) ac esgobion ( eptscopoi), ac i wneuthur dau ddosbarth o swyddogioh o honynt; 3rr hyn a gymerodd le mae yn debyg tua diwedd yr aii ganrif. Yn flaenorol i hyn, hyny yw, drwy y ganrif gyntaf, a rhan fwyaf o'r ail, ystyrid y geiriau yn gyfystyr. Er nad oes ond ychydig o hanes y tymhor hwn ar gael, eto ceir digon o brawfiadau mai fel y dywedwyd yr oedd. Dygwn yn mlaen ychydig o dystion o hyn. Y tyst cyntaf a ŵysir yw Clement o Rufain. Barna rhai mai ato ef y cyfeiria yr apostol yn Phil. iv. 2. Gwedir hyn gan ereill ; ond cyduna pawb i'w osod mor bell yn ol ag y goddefa y ffaith ei fod yn hanesydd Cristionogol, a bernir iddo orphen ei yrfa ddaearol o gylch, os nad o flaen y flwyddyn oed Crist 100. Yn mhlith ysgrifau ereill mae liythyr neu epistol ar gael o'i waith at Eglwys Corintn, yr hwn a ddechreua fel y can- lyn :—" Èglwys Dduw, yr hon sydd yn ymdaith ( paroilcousia ) yn Rhufain, ot Eglwys Dduw yr hon a ymdaith yn Cor- inth." Nid oes yma ddim a'n harweinia i dybied am fynyd fod un gwahaniaeth rhwng eglwys Rliufain ac eglwys Cor- inth, ond y naill yn gydwastad â'r llall; ac nid oes dim yn yr holl lythyr i beri i ni feddwl fod esgob Rhufain yn fwy na rhyw esgob arall, dim araf grybwylliad o uwchafiaeth. Yn y llythyr dan sylw cyfarfyddir â'r ymadroddion a ganíyn, pa rai sydd yn dwyn perthynas union- gyrchol â'r pwnc dan sylw.—" Daeth yr apostolion a'r efengjd i ni wedi ei derbjro- gan Iesu Grist, a Iesu Grist gan Dduw. Anfonwyd,Cristganhyny,oddiwrthDduw a'r apostolion gan Grist; gwnaethpwyd hyn yn gymhwys yn unol âg ewyllys Duw. O berwydd hyny, wedi iddynt dderbyn y gorchymynion, a'u cyflawn gádarhhaU drwy adgyfodiad ein Hai" glwydd lesu Grist, a derbyn ffydd drwy aär Duw, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, aetbai.t allan gan gyhoeddi fod teyrnas Duw gerllaw. Gan hyny, pan oeddynt yn pregethu drwy y gwledydd a'r dinas- oedd, gosodasant flaenffrwyth eu llafui-j wedi iddynt eu profi drwy yr ysbryd, i fod yn esgobion a diaconiaid y rhai a gredent. Ac nid oedd hyn yn newydd- beth, oblegyd felly yr ysgrifenwyd am- ser maith yn ol o barthed esgobion a diaconiaid. Oblegyd dywed yr ysgryth- yr fel byn yn rhyw fan, ' Myfi a sefydlaf eu hesgobion mewn cyfiawnder, a'u di- aconiaid mewn ffydd.' " Yn y dyfyniad hwn gwelir y crybwyllir am ddau ddos- bartb yn yr eglwys, sef esgobior. a diac- oniaid ; ond dim cyfeiriad at un dosbartb arall. (îwelir hefyd oddiwrth y dyfyn- iad a ganlyn y defnyddid y geiriau esgob a benuriaid yu gyfystyr gan yr awdwr dan sylw. " Nid pechod bychan gyda ni yw bwrw allan o'r swydd esgobawl y rhai a ddefnyddiasant eu doniau yn ddi- fai a santaidd Gwyn fyd yr henuriaid hyny, y rhai wedi gorphen eu gyrfa a fwynhant ollyngdod fi'rwythlawn a pher- ffaith; oblegyd nid oes arnynt yn y niesur Ueiaf arswyd y bydd i neb eu bwrw o'r sefyllfa y gosodwyd hwy yiìdá\."( Vide Fletcher, Hist. Ind. vi. p'. 121—135.; Y tyst nesaf a ŵysir gerbron y darllen- ydd yw Polycaip, esgob ar egl^ys Smyr- na, yr hwn a ferthyrwyd oddeutu y flwyddyn 167, pan oedd Marcus Auton- ius yn teyrnasu. Dywed Ireneus i Poly- carp ysgrifenu amryw epistolau yn ystod ei weinidogaeth at bersonau unigol ac at eglwysi, ond nid oes un o'r rhai hyn ar gael yn awr ond ei epistol at y Philip- iaid. Yn nechreu y llythyr bwn dywed fel y canlyn:—"Polycarp a'i gyd'henur^- iaid, (neu y rhai gydag ef sydd henuriaid —kai oi syn auto presbuteroì), at eglwys Dduw a ymdaith yn Philipi; trugaredd i chwi, a heddwch oddiwrth Dduw Holl- aìluog, a'r Arglwydd Iesu Grist ein lach- awdwr, a amlhaer." Arnlwg yw oddî» ŵrth y geiriau hyn, nad oedd rolycarp 20