Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIBD. MEHEFIN, 1850. GWELEDIGAETH_Y LLENLLIAN. (ffian ffytn ìsditan. "A thranoeth. fel yr oeddynt hwy yn yrndeithio, ac yn neshau at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar-y-tŷ l weddio, yn nghylch y chweched awr. Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gaël bwyd. Ac H hwynt yn parotoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg: ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yju disgyn arno, fel líenllían fawr, wedi rliwymo ei phedair congl, a'i gollwng i waered hyd y ddaear: yn yt hon yr oedd pob rhyw bedwar-carnolion y ddaear, a gwjiltfilod. ac ymlusgiaid, ac ehediaid ynef. Adaeth llef ato. Cyfod, Ped'r, lladd, a bwyta. A Phedr a ddywëdodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffrcdin neu aflan. A'r llef drachefn a ddyu-edodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw. na alw di vn gyffredin. A hyn a wnaed dair gwaith : a'r llestr a dderbyniwyd drachefu i fyny i'r nef."—Act. x 9—ltì. xi. 5—10. Doeth a da y\v ein Duw ni yn mhob peth; pan fwnadodd neillduo cenedl i fbd yn freniniaeth bennodol iddo ei hun, galwodd Abraham o Ur y Caldeaid i fod yn dad i'r genedl hòno. Mewn trefn i helaethu gwybodaeth iechawdwriaeth yn mhlith y Cenedloedd, gwnaeth ddef- nydd o Cornelius, Canwriad yn y fyddin Italaidd, fel offeryn i'r pwrpas hyny; ac o'r apostol Pedr, fel cenadwr i ddwyn y newydd da i'w plith. I gael pethau i gydweithredu yn hyfryd â'u gilydd yn yr achos tra phwysig hyn, arweiniodd y Canwriad trwy ryw foddion ifeddu cym- aint gwybodaeth am Dduw, ac a'i dygodd i'w barchu a'i addoli, a gwneyd elusenau i'r bobl, er mwyn ei ogoneddu. Trwy yr amgylchiad hwn,gwnaed meddwl y gwr da yn agored i dderbyn addysg ychwan- egol pan gynnygid hi iddo. Gan nad oédd moddion cyffredin wrth law, nac ychwaith yn debyg o fod mor effeithiol, trefnodd yr Arglwydd fesurau anghyff- redin i Cornelius gael llawn sicrwydd am y pethau a berthynent i'w heddwch. Anfonodd ei angel ato liw dydd, ar yr amser yr ydoedd yn gweddio yn ei dŷ; yn gyntaf, i'w galonogi gyda golwg ar ei arferion crefyddol, ac yn ail, i'w annog i anfon gwŷr i Iopa i gyrchu Simon Pedr yno i'w hyfforddi am y pethau anghen- rheidiol iddo i'w gwneuthur. Y pwnc nesaf ydoedd, pa fodd i gael meddwl ap- ostol, yr hwn ydoedd Iudde*v caeth, yn gymmodlon â'r drefn. Annebygol yw, y buasai un pgrson dynol, pe buasai i'w gael yn Uwydáll; ond y üuw hwnw sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewylly8 ei hun, a ddygodd hyn oddiam- gylch gyda yr haẁsdra mwyaf. Sylwn ar dd^|UbineD y dwyfol Fôd yn gweithio ya j^ÉEbos hynodawl hwu. sv Yn mlaenaf, tueddwyd yr apostol yn ol ei arfer ar yr awr hono o'r dydd i ym- neillduo i nen y tŷ i weddio, yn y cyf- amser profodd newyn mawr, yn ei newyn syrthiodd mewn llewyg, (yr oll yn or- uwch-naturiol), yn ei lewyg gwelodd weledigaeth ryfeddol y Uenllian, yr hon ydoedd gydweddol â'i chwenychiad am yirborth. Tra yr oedd yn adfyfyrio, wedi deffroi, ar yr hyn a welodd, dywedodd yr Ysbryd wrtho, fod tri wỳr, y rhai oedd- ynt o ddwyfol anfoniad, wrth y drws yn ei geisio. Am hyny, ebe efe, cyfod, dis- gyn, a dos gyda hwynt, heb ameu dim. Trwy y pethau hyn yn nghyd, y gwnaed meddwl yr apostol yr un mor ewyllysgar i fyned i Cesirea i bregethu yr efengyl i'r Cenedloedd, ag y gwnaed Cornelius i ddanfon am dano. Wrth adolygu y weledigaeth hon yn ei gwahanol ranau a'i chysylltiadau, y mae yn ymddangos i mi ei bod yn ddar- luniad ffuguraidd o'r cyfammod newydd, neu y sefydliad efengylaidd. Sylwn yn fyr ar y pethau canlynol:— Yii gyntaf, Dirfawr ardderchawgrwydd y sefydliad hwn. Gwelodd yr apostol y nef yn agored, a rhyw lestr megys llen- llian fawr, brydferthol, a gorlawn, yn disgyn oddiuchod wedi rhwymo ei phed- air congl, a'i gollwng i waered hyd y ddaear. Bod yr hen gyfammod o ddwy- fol osodiad nid oes le i ameu, ond y mae yr un mor eglur, er hyny, nad oedd ond sefydliad gwladwriaethol: ei gyfryngwr, sef Moses, oedd yn llefaru ar y ddaear^ (Heb. xii. 25.) ei ddefodau oeddynt gnawdol, (ix. 10.) ei gysegr yn fydol, (1.) ei ddeiliaidyn genedlaethol, (Ecsod.xix. 5, 6.) ei addewidion a'i fendithion yn dymhorol, a'i etifeddiaeth yn ddaearol. Ond y mae y Befydliad efengyiaidd ya 17