Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y-'TYST APOSTOLAIDD. MAI, 1850. BBDYDI) YN DDIBWYS. " A ranwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch ? neu ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd chwi ? Vr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neíi o honoch, ond Crispus a Gaius; fel na ddywedo neb fedyddio o honof fl yn fy enw fy hun. Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Stephanas: heblaw hyny nis gwn a fedytìd- iais i neb arall. Canys ni anfonodd Crist fi i fedyddio, on<i i efengyiu ; nid mewn docthineb ymadrodd, fel na wtielid croes Crist yn ofer."—1 Cor. i. 13—17. «Fan U. JJonrs. ftlanllgíni. Y mae yn aìarus meddwl fod cynifer o bregethwyr poblogaidd mor ddiofal ac anonest yn egluro gair Duw. Gelìir dy- wedyd ani lawer fel y dy wed y prophwyd, " Cyfarwyddwyr y bobí hyn sydd yn peri iddynt gyf'eiliorni." Y mae taenellwyr mabanod yn rhyw fodd neu gilydd, fel pe byddent wedi gwneuthur llw i wyrdroi a chamddeall, a chamddarlunio pob peth a ddywedir yn nghylch bedydd trwy yr holl ysgrythyrau. Byddai yn llawer mwy anrhydeddus ynddynt i adael bedydd yu hollol fel y mae y Crynwyr,na dirmygu yr ysgrythyraufel y ìnaent wrthgeisioei ddul i f'yny. Y maent nid yn unig yn cam- ddailunio y Bedyddwyr, ond heíyd yn camddarlunio, ac yn dweyd celwydd ar apostolion ysbrydoledig Mab Duw ei hun. Er#enghraifft, haerir ganddynt yn dra mynychf'od yrapostolPaul yn golygu bedydd Cristionogol yn beth hollol ddi- bwys! Y prawf sydd ganddynt yn gyff- redin o hyny, ydyw yr ymadroddion canlynol:—"A ranwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd chwi? Yr wyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb o honoch, ond Crispus a Gaius; fel na ddywedo neb fedvddio o honof fi yn fy enw fy hun," &c."(l Cor. i. 13—17.) Y mae yn eglur mai dyben yr apostol yn llefaru y geiriau hyn oedd gwrthwynebu yr ysbryd ymbleidiol oedd yn Corinth. " A ranwyd Crist?" hyny yw, A ydyw ei eglwys ef wedi ymranu i wahanol bleid- iau, o dan wahanol flaenoriaid? ílA% Paul a groeshoeliwyd drosoch," i wneuthur Iawn dros eich pechodau chwi? Y mae hyn yn brawf na buasai angeu neb yn cadw pechaduriaid ond angeu Mab Duw. "Ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd chwi" i fod yn ddysgyblion iddo ef fel nod o ẃahaniaeth? Fel pe dywedasai yr apos- tol, " gan eich bod yn cyfrif eich hunain yn ddysgyblion i'r rhai a'ch bedyddiodd, yn hytrach nac i Grist, y mae yn dda genyf na threfnodd Rhagluniaeth i mi fedyddio ond ychydig o honoch, rhag i neb dybied fod ynof awydd am fod yn flaenor plaid, neu wneuthur dysgyblion i mi fy hun." Peth cyffredin iawn yn y dyddiau hyn mewn llyfrau a phregethau ydyw clywed cyfarwyddwj'r y bobl yn defnyddio y geiriau hyn i ddyben cwbl wahanol.—"Nid ydym ni, bobl bach," meddynt, "yn caru dadleu ar fedydd; y mae dynion yn y wlad sydd yn arw am ddadleu—nid yw dynion da yn caru dadleu—dj'nion perj'glus iawn yw y dyn- iou sydd yn dadleu ar fedydd, y maent yn wahanol iawn i'r apostolion, o her- wydd yr oedd Paul yn diolch i Dduw na f'edyddiodd ef ond ychydig iawn yn ei oes," &c. Bydd yr hen "flaenoriaid " wrth glywed peth fel hyn yn gi'uddfan, ac yn tuchan o lawenydd, fel pe buasent yn gwrando y gwirionedd mwyafmelys a bendithiol a glywsant erioed. Beth bynag a geir yn ysgrifeniadau dynion enwog yn bychanu bedydd, ni cheir dim yn y Testament Newydd yn tueddu at hyny mewn un wedd. Fe ddarfu Mab Duw ei hunan gymeryd ei fedyddio mewn afon. A ddylai un dyn gywilydd- io dilyn ei ol? Yr ydym wedi clywed Uawer yn y blynyddau diweddaf am rym esiampl, y dylem wneyd hyn a'r llall er mwynesiampliereill. Onidydywynrhy- fedd na fyddai esiampl Mab Duwyn yr Iorddonen yn cael mwy o effaith ar feddyl- iaudynion,yn enwedigy rhaisyddyn dys- gwyl cael eu cadẁ am byth trwy ei waed! Darfu Mab Duw hefyd yn ei archiad di- weddaf orchymyn bedyddio pob credad- ,yn, ac y mae hanes llyfr yr Actau yn brawf eglur fod yr apostolion yn dragof- alus i wneuthur hyny. Nad oedd Paul yn wahanol i'r apostolion ereill yn hyn. sydd eglur oddiwrth amryw bethau.— 1. Fe gymerodd Paul ei fedyddio ei 14