Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IPÌ Y TYST APOSTOLAIDD. MAWRTH, 1850. ARIANGARWCH. «Pait JHatfjetes. Kid yw fod dyn yti arianog yn profi ei fod yn ariangar; gellir bod mor gyfoeth- og a Chossius neu Harri yr wythfed, a meddu ar yr un pryd haelioni ac hunan- ymwadiad y Cristionogion cyntefig; pa rai a werthent eu meddiannau er llesoli y frawdoliaeth efengylaidd : a gall dyn fod yn dlawd, ac eto mor ariangar a Iudas. Nid yw bod yn arianog yn cael ei goll- farnu gan reswm, na'i gondemnio gan air y gwirionedd, os bydd yr arian wedi eu hennill ar lwybr onestrwydd, yn yr ymarferiad o foddion cyfreithlon; ac nid oes achos i un dyn gywilyddio am ei fod hebddynt, os nad diogi, camdrefn, a gwas- traff, &c, sydd wedi ei resu yn rhestr y tlodion adfydus. Hen arferiad ag y mae rhai tlodion, a llawer o ddiogwyr a meddwon yn euog o honi yw, galw ariangarwyr neu gybyddion ar y rhai hyny fyddo wedi casglu ychydig arian, trwy ymdrech a gofal ar faes onest- rwydd, o dan wenau Rhagluniaeth; am nad yw y diwyd a'r darbodus yn per- thyn i'r un firm a'u harglwyddiaethau diog a gwastrafflyd;—arfera ei fawrhydi cadusaidd achwyn ar surni y grapes wedi gwneyd ymdrechion aflwyddiannus i'w cyrhaedd. Weithiau, gelwir dynion di- wyd a gofalus gyda'u galwedigaethau, yn "rhai tost am y byd," "rhai taer am y geiniog," &c, &c, er mai i'r cyfryw mae y byd yn ddyledus am ei gysur, a'r eglwys am ei llwyddiant: dyn esgeulus gyda ei orchwylion tymhorol, yw y crefyddwr mwyaf musgrell a diog yn gyffredin. Dylid gochelyd gwastrafF; mae esiampl ein Ceidwad yn gorchymyn casglu y briwfwyd, yn dysgu gofal a chynnildeb i'w ganlynwyr. Trwy fod jrn ofalus am bethau a ystyrir gan lawer yn ddibwys, mae osgoi gwg a fflengyll Rhagluniaeth, a chasglu moddion er cynnorthwyo y weddw a'r ymddifad, yn nghyda chefn- ogi y sefydliadau a olygant ddiwygiad cyffredinol a thrwyadl y greadigaeth, mewn cysylltiad a gogoniant mynegoì ei Chreawdwr. Gellid nodi yn mhellach, cyn cynnyg ychydig nodiadau manylach ar y pwnc, fod taerineb am iawnderau masnachol a gwladol yn berffaith gyd- weddol â natur Ci-istionogaeth; mae deddfau y deyrnas at wasanaeth crefydd- wyr fel dynion ereill: "Eiddo Cesar i Cesar," yw un o elfenau pwysicaf Crist- ionogaeth Fath un yw dyn aiuangar? Un na rydd ei arìan am anghenrheid- iau bywyd, ac hajifodion ywir gysur yw. Gwyddom fod l'.aweryn dyoddef newyn a noethni i raddau helaeth, yn hytrach na defnyddio eu harian er diwallu eu hanghenion: gwell gan lawer o honynt arwain bywyd crwydraidd a chardotíyd, na gwario eu harian am fara beunyddiol, a'u llafur am yr hyn sydd yn digoni; dyma ddynion yn rhoddi gwerth gor- modol ar yr aur a ryda, a'r cyfoeth a dderfydd. Ymarddelwa rhai eu bod yn sychedig am wybodaethau celfyddydol, ac yn awyddus am adnabyddiaeth o chwyldroadau pwysig yr oes; ond mae eu harian yn dduwiau mor dlws, fel na wnant aberthu cymaint a cheiniog o hon- ynt, er cael un llyfr, cyhoeddiad misol, na newyddiadur. Cywilyddus meddwí fod llawer o eglwysi, yn gyfansoddedig o lawer o gyfoethogion, nad oes cymaint a chyhoeddiad ceiniog yn cael ei ddarllen ganddynt o un flwyddyn i'r llall. Edrychwn ar lawer o amaethwyr, (a ystyriant eu hunain yn gyfrifol) yn meith- rin eu plant i fyny mewn anwybodaeth; ariangarwch y rhieni sydd yn cadw y plant yn ymddifad o fanteision addysg- iaeth; fel hyn mae llawer o blant arian- garwyr yn debycach i anwybodusion yr oesoedd tywyll, nag i resymolion diwjríl- iedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llawer o eglwysi yn cael eu llethu gan ddyledion, er fod rhai yn aelodau ya y cyfryw a allent symud y beichiau, oni bai eu bod yn gaethion o dan gadwynau o aur ac arian; ac nid yn anfynych, cyf- arfyddir â rhai o genadon y nef mewn llawer o dlodi, ar gyfrif ariangarwch y rhai abroffesant eu hunain yn ganlynwyr y Ceidwad haelionus. Mae yr oiwg ar lawer o gynnulleidfaoedd yn bj'w heb weinidogion, neu yn ymfoddloni ar waa-