Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. RHAGFYR, 1849. COFIANT Mes. ELISABETH GRIFFITHS, LLANGOLLEN. Merch ydoedd i Edward a Mary Rob- erts, o'r Cilnant, yn nyffryn prydferth Glynceiriog. Ganwyd hi tua diwedd y flwyddyn 1774. Ei phrif ddifyrwch yn ei hieuengtyd oedd chwareu cardiau a daumsio; yr oedd y pleserau hydoliaeth- us hjrn wedi dwyn ei meddwl i'r fath raddau, fel y tybiai nad oedd pleserau mwy dymunol yn gyrhaeddadwy i'r nat- ur ddynol ar y ddaear. Yr oeddynt i'w meddwl bywiog yn felusach na'r mel, a dymunolach na llawenydd amser cyn- heuaf. Pan oedd tua phedair ar b}un- theg oed, attaliwyd hi gan drugaredd yn ei gyrfa i uffern, ar hyd Uwybrau Uawen- ydd cnawdol. Dywedwyd yn effeithiol yn ei phrofìad, hyd yma yr ai, ac nid yn mhellach. Dechreuodd ystyried ei ffordd —pa fudd fyddai iddi o'i chardiau a'i dawns pan chwiliai Duw hi; deuai geir- iau y gwr doeth i'w meddwl mewn nerth, " Gwna yn Uawen, ẁr ieuanc, yn dy ieu- engtyd, a Ilawenyched dy galon yn nydd- iau dy ieuengtyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid; ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll. Am hyny bwrw ddig oddiwrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddiwrth dy gnawd; canys gwagedd yw mebyd ac ieuengtyd." (Preg. xi. 9, 10.) Yr oedd adfywiad hyfryd ar grefydd yn yr ardal y pryd hyn, a'r Glyn, mewn ystyr foesol, Sn blodeuo fel rhosyn. Dygwyd Betsan -oberts, y Cilnant, i gyrhaedd tyniadau y groes, i olwg rhyfeddodau Calfaria, ac i brofì melusder cariad Crist. Gorchfyg- wyd hi gan ras y dwyfol òri.. Nid ym- gynghorodd â chig a gwaed; eithr rhodd- odd ei hunan gorph ac enaid, ei thalentau a"î dylanwad i'r Arglwydd, ac i'w bobl ef yn ol ewyllys Duw. Bedyddiwyd hi, ei mham, a naw ereill yr un dydd, gan y gweinidog gwrol hwnw John K. Jones, o Ramoth. Adroddai wrth yr ysgrifenydd amrywiol o amgylchiadau y bedydd, ond y peth oedd wedi aros berffeithiaf ar ei meddwl, oedd yr emyn a adroddai J. R. Jones.— " Pa fater yw i rhai'n i gyd, Gael eu dìrmygu gan y bydî Mae'u henw da, eu parch a'u bri, Yn nghadw yn y nefoedd fry." Yr oedd y gwirioneddau a adroddid, grymusder anarferol adroddiad yr emyn, gwrolder y Bedyddiwr, a phrofiad o gar- iad Crist, yn ymlid ei holl elynion a'i hofnau, yn gwasgaru y tywyllweh, ac yn cadarnhau ei chalon, fel yr aethai drwy ddwfr a thân ar ol Tywysog iechawdwr- iaeth. Yr oedd erbyn hyn wedi ei dwyn drwy gyfnewidiadau mor fawr, a phe buasai wedi ei dwyn o'r hen fyd i nefoedd a daear newydd. Yr oedd rhyfeddodau trefn Duw i gadw pechaduriaid colledig, trwy ddyoddefaint a marwolaeth un mor oruchel a Thywysog y bywyd, yn llenwi ei henaid â rhyfeddodau annhraethadwy. Yr oedd drwg pechod a welai yn uolur- iau, chwys gwaedlyd, dagrau gwylofus, a marwoìaeth boenusfawr Mab Duw, yn syn'u ei meddwl, ei bod erioed wedi gallu gwasanaethn pechod gyda chymaint o fwynhad; ac yn ei dwyn i benderfyniad diysgog i farw i bechod, a byw i'r hwn a fuasai farw drosti. Ac yr oedd y llaw- enydd a brofai yn symudiad y ddamned- igaeth,—yn y profiad o faddeuant,—yn yr ystyriaeth o'i phertbynas newydd â Duw,—dyfod yn ferch i'r Arglwydd Holl- alluog, yn annhraethadwy ogoneddus, fel y canai â thelyn hwylus,— " Ffarwel i chwihen bleserau, Dwyllodd f' ysbryd fll o weithiau; Cefais bleser can' mil purach, Na ddaw o'i ganlyn ofld mwyach." Prif nodweddau cymeriad crefyddol y chwaer hon oedd y rhai canlynol:— 1. Awydd ac ymdrech am wybodaeth. Gwybodaeth ydyw ymborth y meddwl, a phurdeb calon yw y gallu, fel peir- ianaeth llysiau, i gjmnyrchu blodeuyu haẃddgar a ffrwyth dymunol, a thrwy y moddion hyn yr ydym yn cynnyddu ar gynnydd Duw. Meddiannai E. Grif- fiths gorph cadarn aiach; cynheddfau meddwl cryfion, bywiog, a llafurus. Ar- weiniodd Rhagluniaeth ddoeth a da hi, yn ei hieuengtyd, i le manteisiol er cyr- haedd gwybodaeth. Cyflogodd i edrych ar ol tý Mr. Edward Morris, o Rysgog, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny yn y Fronheulog, ar ochr ogleddol dyffryn 35