Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. IídI b TACHWEDD, 1849. 2îtoî!f2Îiì>íactft. GOFAL AM_YR IEUANC. " O na byddai Ismael fyw ger dy fron." Mawr yw y gofal ac sydd yn cael ei deimlo dros lesiant ein gwŷr ieuainc. Y mae llawer, iaith calon pa rai mewn per- thynas iddynt j'w, a ydynt ynddiogel? ac o na byddent felly. Gan bwy y mae y gofal bwn yn cael ei deimlo ? I. Y mae yn cael ei deimlo gan bawb da ar y ddaear. Nid oes yr un galon wir dduwiol nad yw yn ei deimlo. Dyna y rhai hyny ac sydd yn rhoddi eu hunain yn gyfangwbl i'r gwaith o wneyd yn liysbys i ddynion eu perygl, ac am y noddfa y mae Duw wedi ddarparu ar eu cyfer. Mwy llawenydd nis gallantgael nae i wybod am eich diogelwch. Bydd- aut hwy fyw os sefwch chwi yn ddiysgog yn yr Arglwydd. Hyn yw amcan mawr y weinidogaeth Gristionogol, y gwrth-■ ddrych ar ba un y mae pob gwir wein- idog wedi gosod ei galon, ac i ha un y mae wedi cysegru ei holl alluoedd. Y mae Duw wedi rhoddi i ni weinidogaeth y cymod. Yn awr, gan hyny, yr ỳdym ni yn genadau dros Grist, megys pe bai Duw yn deisyf arnoch trwom ni, yr yd- ym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi a Duw. Nis gall gweinidogion ffyddlon gael eu boddloni gyda dim Hai na hyn. Y mae ganddynt, yn wir, sicrwydd, fel os byddant wedi llafurio yn ffyddlawn, er hcb fawr o Iwyddiaht,—os byddant wedi cyhoeddi eu cenadwri yn eglur, yn gar- edigjac yn ddifrifol, er bod llawer o'u gwrandawyf heb gredu i'w hymadrodd, ac wedi gwrthod cymeryd rhybudd,—y maent hwy wedi gwaredu eu heneidiau eu hunain. "Er y bydd Israel heb eu casglu, hwy hefyd, yn eu trefn ddaros- tyngol a gant fod yn ogoneddus." Eto, nid heb eíìd y maent yn aml yn ymofyn, " Pwy a gredodd i'n hymadrodd, ac i bwy y"dadguddiwyd braich yr Arglwydd!" Nid heb ddwfn dristwch y byddant weith- iau yn dweyd, pan yn syllu ar yr aned- ifeiriol, "Os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddied- ig." Os ydynt yn gwylio dros eneidiau, fel rhai ac y bydd raid iddynt roddi cyf- rif am danynt eu hunain, ac o'u gwein- idogaeth; os ydynt yn llafurio yn ddyfal ac yn ddeisyfiadol i gymhwyso eu gwein- idogaeth at gyflyrau ac anghenion ev, gwrandawyr; os ydjmt yn myfyrio pa fodd i gyflwyno y gwirionedd dwyfol yn y dull mwyaf cymhwys i ddal yr ystyr- iaeth, i gynhyrfu y meddwl, i ddeffroi ỳ gydwybod, ac i argraffu y galon; hwj' a allant orfoleddu eubod hwy yn berarogl i Dduw yn y rhai a gredasant, ac hefyd yn y rhai colledig. Ond nid ydynt hwy yn ewyllysio bod neb o honynt yn golledig. Oddiyma, gan.fod ganddynt gyfleusdra, y maent yn rhybuddio pob dyn, ac yn addj'sgu pob dj-n jrn mhob doethineb, fel ac y gallant hwy gj'flwjmo pob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu. Dymuniad eu calon a'u gwcddi ar Dduw tros bawb o'u gwrandawyr yw, ar iddynt fod yn gadwedig. O fy nghj'faill ieuanc hoff, gyda pha fath galon brydems y mae dy fugail yn aml wedi meddwl am danat, a chyda'r fath daerineb y mae wedi gweddio fel ac y byddit fyw ger bron Duw. Nid yw y gofal serchog hyn yn cael ei gyfyngu i weinidogion yr efengyl, y mae pob calon dduwiol jrn ei deimlo; nid oes yr un gwir Gristion ar y ddaear nad yw yn chwenych yn ddiffuant dda- ioni pob dyn. • Ni ellwch ddweyd yr arnl galonau yn mha rai y mae dymuniadau 32