Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. MEDI, 1849. 3Butfteìrìi»tt Cnbiogton &v £g(i»2#. ftOBERT ROBINSON, O GAEUGRAWNT. (Parhad o Rifyn Mai.) Gwedi sylwi o'r blaen j'n fyr ar brif gamrau Robin son drwy y byd, gwnawn nodiad neu ddau yn mhellach o berthyn- as i'wfarn ef, a hyny yn benaf, am ei f'od yn cael ei gyhuddo gan rai o ddiweddu ei oes yn Sociniad, os nad yn amheuwr, neu annghredadyn. Nidoesynom awydd i'w amddiffyn na'i gollfarnu,—dim ond gwneyd cyfiawnder a'i goífadwriaeth drwy ddyfynu rhai o'i ddywediadau yn ei flynyddoedd olaf, fel y gallo y darllen- ydd wybod ei syniadau ar y pynciau y cyhuddir ef ogyf'eiliorni ynddynt. Dym- unem hysbysu hefyd, er f'odRoBiNSON yn uchel iawn yn ein golwg fel awdwr tal- entog anarferol, ac ainddiíFyuwr gwresog i gyflawn ryddid cydwybod mewn gwlad ac eglwys, ac er nad ydym ninau, er a wyddom, yn rhagfarnllyd yn erbyn dim ond yn erbyn Rhagfarn ei hun, eto nid ydym yn gallu cydredeg âg ef yn ei oîyg- ìadau, er eu bod yn llawer gweìl nag y myn rhai iddynt fod. Diddadl ei fod yn hullol groes i gredo Athanasius am y Drindod, yn enwedig am fod hwnw yn cyfrgolli yu dragywyddol a diamheuol pwy bynag a'i gwrthodo. Eithr nid oedd achos drygliwio Robinson ain hyny mwy na Luther, yr hwn a ddywedai fod y gair Trindod yn swnio yn ddyeithr, ac mai dyfais ddynol oedd; a Chaìfin, yr hwn a'i collfarnai yn gryfach fyth, "Maey gair Trindod yn farbaraidd, lledchwith, a halogedig, dyfais ddynol, heb sail yn nhy6tiolaeth gair Duw ; y duw Pabaidd, anadnabyddus i'r prophwydi a'r apostol- ion." Gellir ychwanegu fod golygiadau yr archesgob Tillotson, esgob Burnet, a'r Drd. Watts a Doddridge, yn nghydag enwogion ereill, yn wahanol i'r syniadau cyffredin, ar y pwnc goruchel hwn. Yr unig sylw a wnawn ar hyn yw fod Rob- inson deilynged o barch a hwythau. Dyma dystiolaeth un Mr. Dunscombe mewn Uythyr at gyfaill am farn Robin- son yn niwedd ei oes ;—"Gofynasoch beth a dybiaf am syniadau Mt.Robinson tua diwedd ei oes. Atebaf, yn dra theb- ygol, fod ei olygiadau mewn rhai pethau yn neillduol iddo ef ei hun; cychwynodd gyda yr iawn-yredwyr, ond darllen ac aclfeddwl a'i hargyhoeddodd o'u diffyg- ion.—Darfu i'w ddystawrwydd a'i gym- edroldeb, a'i ddull ymadrodd Beibìaidd ar bynciau iawngred godi gwaedd yn eî erbyn, a'i ddeol bron o bwlpudau a chyf- eillach, ac hyd y nod o farn dda y rhai unwaith a'i mawrygent, ac a broffesent fod yn gyfeillion cywir iddo. Y Sociniaid a'r Undodiaid a'i, hoffent, ac ymogonedd- ent yn ei ystyried fel un o honynt; ond nid oedd efe o blaid yn y byd. Credaf ei fod yn nes at y gwirionedd fel ag y mae yn yr efengyl na dysgj'blion protfesedig unrhyw blaid Gristionogol. Treuliais ychydig ddyddiau gydag ef' yn Chester- toiìfîs cyn ei farw, galarai a'r dagiau yn ei lygaid am gyflwr yr eglwys Gristion- ogol, a'r gwahaniaethau rhwng Cristion- ogion ; pa hwyaf yr wyf yn by w, meddai, mwyaf y'm hargyhoeddir fod anhaws- derau nas gellir eu hegluro yn mhob cyfundraeth." Maedynion o feddyliaucrebachlydyn tybied nas gellir credu unrhy w bwnc heb fod yn unfarn a hwy arno, canys mae y tylwyth hyn bob amser yn anffaeledig, am hyny cyhoeddant fod pawb a wel yn wahanol iddynt hwy yn ywadu y cyfryw bynciau. Diau i ddull athrodgar erlid- wyr Robinson ei yru yn mhellach nac yr aethai pe cawsai lonydd, fel y mae y naill eithafion yn gyru i eithafion arall. Gosodwn un dyfyniad eto ger bron y darllenydd, wedi ex gymcryd o lythyr Mr. Robinson at eì gyfaill Mr. Lucas, o'r Amwythig, dyddiedig Medi 16,1789;— " Credwch fi, nid wyf na Sociniad nac Ariad. Nis gwit yn mysg pa ddosbarth o hereticîaid i ddodi fy hun; tybiaf weith- Ì26