Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. MAI, 1849. aîutftefrfcau ISnfooston %v lEglfogs* ROBERT HOBINSON, O GAERGRAWNT. (Parhad o Ripth Mawrth.) Gallem lenwi y Tyst am flwyddyn â phethau difyrus ac adeiladol am R. Rob- inson, oblegyd yr oedd efe y fath lefiath- an yn holl gj'lchoedd gwybodaeth. Ac er y gosodir amryw bethau yn ei erbyn gan ddynion o ysbryd offeiriadol, a chan y rhai a ymrysonant dros unoliaeth opin- iwn, ac iachusrwydd y ffydd yn ol y dar- nodion ysgolaidd, eto mae yn rhaid cyf- addef ei fod fel annghydffurfiwr rhydd- frydig a deallus, a phleidiwr gwresog i ryddid perffaith mewn gwlad a chrefydd, ac yn hawlio y lle uchaf yn y dosbarth hwnw. Yn 177S, cymerodd ran egniol yn yr ymdrech i ddileu caeth-wasanaeth, a'r ddeiseb gyntaf i Dŷ y Cyffredin ar y mater oedd o Gaergrawnt, ac wedi ei hysgrifenu gan Robinson. Yn 17S0, cy- hoeddodd lyfryn o'r enw, " Athrawiaeth Gyffredinol Goddefiad, gwedi ei chym- liwyso at achos neillduol Rhyddgymun- deb;" ac yn y flwyddyn hòno, cymerodd daith drwy Loegr a'r Alban. Gwelir yn ei lythyrau iddo fod yn Nhreffyuon, a myned adref drwy Wrecsam a Chroesos- wallt. Tua'r pryd hyn achwynwyd ar annghj'- wirdeb ei olygiadau—ei fod yn dal dìni- weidrwydd camsyniad meddyliol (the in- nocency of mentalerror), a bu A. Booth, Dr. Rippon, A. Fuller, &c. yn ymosod arno gyda mwy o chwerwder nac o ddoethineb. Hyn oedd hyd a lled ath- rawiaeth Mr. Robinson ar y pen hwn;— Nad yw y sawl a wna bob ymdrech o fewn ei gyrhaedd i gael hyd i'r gwirion- edd—a chwilia yn onest hyd eithaf ei allu, ac a gyfeiliorna yn anwirfoddol, i'w farnu gan ddynion. Dywedai Booth fod hyny yn wrthryfel yn erbyn mawrhydi y tragywyddol wirionedd. Tebygoì fod pob un o honynt yn rhedeg i eithafion, ond yr oedd mwy o gariad a chydoddef yn Robinson. Tua'r pryd hyn, nyni a'i cawn ef yn ffermwr enwog, yn llawn llafur a difyr- wch, ond yr oedd y brodyr Clerigaidd yn ei feio yn dost am anurddo y weinidog- aeth. Dechreuasai ei fywyd amaethydd- ol er y flwyddyn 1773. Ymdrechwn roi lle i un o'i lythyrau sydd yn darlunio ei waith am ddiwrnod yn y Tyst. Yn 1781, pennodwyd ef gan bwyllgor o Fedyddwyr yn Llundain, i ysgrifenu " Hanes y Bedyddwyr." Nid oedd gan- ddynt Hanes argraffedig cyn hyny, yn Saes'neg,ond yr eiddo Crosby,a hwnw yn dra diffygiol fel cyfansoddiad, am hyny troisant eu golwg atRoBiNsoN fel un cyin- hwys i wnej'd y gwaith yn anrhj'deddus. Treuliodd lawer o'i amser yn casglu defn- yddiau, chwiliodd lwythi o lyfrau, a chy- hoeddwyd dwy gyfrol pedair plyg, sef " Hanes Bedydd," ac " Ymchwiliadau Eglwysig." Ni chafodd fyw i orphen y gwaith mawr hwn. Dengys ei lythyrau fod ei ymchwiliadau bron yn ddiderfyn. Bwriadai i'r gwaith fod yn bedair cyfrol pedwar plj'g. "Hanes Bedydd" yn y gyntaf, a'r tair ereill yn cynnwys "Han- es y Bedyddwyr." Y defnyddiau a ad- awodd ar ei ol at y tair cyfrol mewn gol- wg yw jrr " Ymchwiliadau Eglwysig." Tj'bir i'w lafur caled gyda "Hanes y Bedyddwjn*" fyrhau ei ddyddiau, canys mae yn addef wrth JoshuaThomas.Llan- llieni, fod mawredd y gwaith yn ei ddi- 14