Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD. EBRILL, 1849. STLWADAU AR SALM CX. Dywedir fud yr "holl ysgrythyr wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw," ac mai dynion santaidd Duw a'i hysgrifen- odd, fel y cyf'arwyddwyd hwynt gan yr Ysbryd Glàn. Gan fod yr o//o'rysgryth- yrau wedi eu rhoddi dan gyfarwyddyd Ysbryd Duw, a chan fod cyfran lielaeth o'r Beibl wedi ei ysgrifenu gan Dafydd, awdwr y Sahn hon, rhaid gan hyny fod Dafydd yn ysgrifenu dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glân. Nis gellir amheu y gwiriouedd hwn gydag un cysondeb a rheswm, oblegyd mae Crist yn y Testa- ment Newydd yn dweyd yn benderfynol í'od Dafydd yn llefaru trwy yr Ysbryd Glân, ac yn cyfarwyddo ato ef yn neill- duol yn y Salm dan sylw. "Canys Daf- ydd ei hun a ddywedodd trwy yr Ysbryd Glân, yr Arglwydd a ddywedodd wrth í'yArglwydd, eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed." (Marc xii. 36.) lesu Grist, gan hyny, yw y person urddasol y llef- arir am dano gan Dafydd yn y gyfran hon o'i Salmau; ac edrycha arno yn benaf fel Brenin galluog, yn myned all- an gyda ei fyddinoedd lliosog yn erbyn ei elynion Uidiog. Hysbysa yr Ysbryd Glân Dafydd fod Iehofa wedi dweyd wrth Grist yr Arglwydd am eistedd ar ei dde- heulaw ef hyd oni osodai ef ei holl elyrn- ion dan ei draed. Cynnwysa hyn íbd brwydr fawr i gael ei hymladd, ac fod Iesu a'i luoedd i dd'od o honi yn fuddyg- oliaethus; gan hyny rhagfynega Daf- ydd trwy yr Ysbryd Glân yr hyn a gym- era le mewn cysylltiad a'r frwydr ryfedd hon. Gan fod Iehofa, yr Hollalluog, o blaid Iesu, Brenin Seion, mae yn sicr o fyned yn mlaen. Gan fod Iesu drach- efn fel Brenin yn amddifiyn ei bobl, ac yn eiriol drostynt fel ArchoíFeiriad mawr, maent oll yn ddyogel; a chan fod ei fil- wyr yn lliosog a fFyddlon, mae yn sicr o ennill y dydd, er gorfoledd i'w bobl byth, ac er galar i'w elynion yn oes oesoedd. Oddiwrth hyn, ni a welwn fod yr Holl- alluog o blaid Iesu, a Iesu o blaid ei bobl; hwy mewn undeb â Iesu, yntau yn y Tad,—oll wedi eu cydgylymu. Sicryw, gan hyny, yr ennill Iesu y dydd, er fod pyrth uflern yn ei erbyn. Wedi gwneyd y blaen-nodion hyn, awn yn mlaen i sylwi ar y Brenin, y frwydr, yn nghyda'r fuddygoliaeth lwyr y sonia Dafydd am dani yn y Salm dan sylw. Dechreua Dafydd y Salm hon drwy son am y Brenin Iesu, Crist yr Arglwydd. "Dywedodd Iehofa wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw." Ni welwn yn amlwg fod mawredd ac urddasolrwydd yn perthyn i'í- Brenin Iesu. Ni fu un er- ioed debyg fddo. Mae yn uwch na Daf- ydd, er mor uchel oedd ef. Geilw Dafydd ef yn Arglwydd, er dangos ei fod ef yn mhell islaw iddo. Er fod üafydd yn frenin ar Israel, eto yr oedd yn ei ystyr- ied yn anrhydedd i gael bod yn was i'r Arglwydd hwn. A pha ryfedd? yr oedd Iesu yn annhraethol uwch nag ef, yn uwch na yr uchaf o'r angylion, ac yn ddigon urddasol i gael eistedd ar dde- heuíaw y lehofa. Dyma jr man uchaf. Pe syllid byth i fyny, a phe chwilid yn oes oesoedd, ni weiid ac ni cheid yr un lle uwch. Mae yn anmhosibl myned yn mhellach; ac mae gorseddau yr uchaf o'r llu angylaidd yu mhell pell islaw eisteddle lesu. Nid oes neb yn deilwng^ i gael eistedd yma ond efe, ac ni chaiff neb yr anrhydedd hon byth: " Ond wrth ba un o'r angyliou y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed?" (Heb. i. 13.) Yma yr eistedda Iesu hyd nes yr ennill y dydd. Nis medr neb ei dynu oddiar ei orsedd, na dwyn ei deyrnwialen ymaith: "Dyor- seddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oes- oedd; teyrnwialen uniondeb, yw teyrn- wialen dy deyrnas di." (Heb.i.8.) Mae fod Crist yn eistedd ar ddeheulaw Iehofa, nid yn unig yn dangos anrhyd- edd, ond hefyd awdurdod a llywodraeth. Mae ei deyrnwialcn, neu ei lywodraeth, yn un nerthol. "Denfyn lehofa dy deyrnwialen nerthol allan o Seion." Mae pob awdurdod y» y nefoedd a'r 11