Y TYST APOSTOLAIDD. MAWRTH, 1849. lîtttfteìrîiÄtt lEtttooaíon fi* ISglfoíiss ROBEET ÄOBINSON, O GAËllGliAWNT. Robert Robinson, yv hwn oedd enwog a nodedîg yn mysg ymneillduwyr Lloegr vn y ganrii'ddiweddaf, a anwyd yn Swaff- ham, yn Norílblk, Ionawr 8, 1735. Ei dad, Michael Robinson, oedd gyllidydd ogymeriad anghanmoladwy; ond ei fain oedd o nodwedd wahanol, ac o deulu anrhydeddus, Derbyniodd y bachgen addysg gymedrol yn Swaffham; ac ar- f'erai ei feistr ddweyd na welodd efe bl -n- tyn erioed yn arddangos y fath alluoedd. Symudasant o Swaffham, mewn canlyn- iad i'w dad gael ei garcharu am ddyled, ac aethant i Scarning, pan, wedi i'w dad eu gadael, rhoddwyd Robert yn ysgol ramadcgol y lle, a chynnaliodd ef trwy ennill y nodwydd a cliadw llety. Menyw ragoroì oedd ei fam, a rhoddodd yn ei feddwl yn foreu gariad at wirionedd a chreíydd. Cymerodd ei fam ef o'r y^gol yn 1749, a rhwymodd ef yn egwyddor- was gyda Ioseph Anderson, Gwallt-drin- iwr (llair-dresser), yn Crutched Friars, Llundain. Yn ystod ei egwyddoriaeth yn Llundain, ei lioff bregethwyr oedd Dr. Gill, Dr. Guyse, a Mr. Romaine; ond y gweinidog yr ymlynai fwynf wrtho oedd George Ẃhiterield, yr hwn a alwai ei dad ysbrydol. Er yr ymddengys i Robinson fod yn weddol o ddiwyd gyda ei alwedigaeth, eto darfu i'w gariad at lyfrau argyhoeddi ei feistr cyn hir, nad trin gwallt, eillio, a gwnéyd perwigau oedd ei gampwaith. Wrth ddychwelyd o'i negesau byddai ei logellau yn llawnion o hen lyfrau a bryn- asai ar y gwahanol feinciau, a chodai bedwar neu bump o'r gloch y boreu bob dydd i'w darllen, yr hyn a fu yn arferiad ganddo dros ei fywyd. Yr oedd Robin- son y pryd hyn yn grefyddwr duwiol- frydig, ac yn penderfynu yn fynych gyflwyno ei fywyd dyfodol i wasanaeth Duw fel gweinidog Cristionogol. Gwedi gwasanaethu ei amser gyda y Gwalltŵr, dychweìodd i'w wlad ei hun, Norflolk, a chawn ef yn pregethu gyda y Trefnyddion Calfinaida, liyny yw, y Whitefieldiaid. Ni bu ei arosiad gyda hwy yn hir, oblegyd y mae ef a thri ar ddeg ereill yn neillduo, ac yn fFurfio eg- lwys annibynol Galfinaidd yn Norwieh, ac yntau yn weinidog arnynt. Newid- iodd ei farn drachefn yn lled fuan, a daeth yn Fedyddiwr, a pharhaodd felly hyrd ddiwedd ei oes. Yn Gorphenaf, 1759, symudodd i Gaergrawnt, a bu ar brawf ddivy flynedd, ac ordeiniwyd ef yn 1761. Yr oedd yr eglwysi y pryd hwnw yn ddoeth ac yn bwyllog yn newisiad eu gweinidogion. Bechan a thlawd oedd yr eglwys. Nid oedd ei gyflog yr haner blwyddyn cyntaf ond £3 Ŷls.òd,! Beth oedd hyny i ddyn newydd briodi? Ond cynnyddodd y bobl a'r cyílog yn fuan, ac erbyn y flwyddyn 1770, derbyniai £90 yn flynyddol. Trwy fod ei ymddygiad yn mhob peth mor ennillgar, a'i ddoniau Cregethu yn ddigyffelyb, daeth yn dder- yniol a phoblogaidd iawn gyda phob gradd o ddynion; y mawrion yn ei barchu, a'r tlodion bron a'i addoli. Pre- gethai yn Nghaergrawnt, ar y Sul, ddwy neu dair o bregethau, ac ar yr wythnos darlithiai yn y pentrefydd cylchynol. Cefnogid ei yn hyn gan yr enwog John Berridge, ofleiriad yn Eglwys Loegr, yr hwn a ddywedai "fod ei feistr IesuGrist yn ei ddefnyddio i weini mewn agos i ddeugain o siopau heblaw ei blwyf ei hun." Arferai Berridge ddweyd am am- bell i offeiriad balch ac uchel-eglwysig, "ychydig o ddaioni a wna y cyfryw, mae ganddo ormod o'r clochdy yti ei fol." Aeth yr hen dŷ cwrdd yn fuan yn rhy fach, a chodasant un newydd, hardd, a chyfleus, a gwell na hyny, talodd y gyn- nulleidfa am dauo, heb fyned i ddyled, na dibynu ar ereîll am gymhorth. Cynnyrch llenyddol cyntaf Robinson oedd "Traethawd ar Galfiniaeth Gym- edrol,"ac "Arcana; neu Egwyddorion y Deisebwyr am ryddhad oddiwrth dan- ysgrifio y Namyn un Deugain Erthygl." Dechreuodd hefyd gyfieithu Saurin o'r Ffrancaeg yn dra chynar, ac argraffodd.