Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD; IONAWR, 1849. îîttrficfcfcau Stitoogt'ott %v îEgitoì)0 ABRAHAM BOOTH. Abraham Booth, hybarch o herwydd eì oed, ei dduvvioldeb, a'i dalentau, a anwyd yu Blaclcwell, yn Swydd Derby, yn Mai, 1734. Efe oedd yr hynaf o deulu mawr; a chan mai ffarmwr oedd ei dad, dygodd y bachgen i fyny yn yr alwedig- aeth hono, a chynnorthwyodd ei dad nes cyrhaedd lfi mlwydd oed. Ei addysg for- cuol gan hyny a esgeuluswyd i raddau pelliawn; ni bu efe erioed hyd y nod mewn ysgol ddyddiol gyffredin; a'r unig addysg a gafodd oedd gwybodaeth o'r egwyddor Saes'neg, yr hyn a ddysgodd eì dad iddo ar ol lludded a llafur y dydd. Sylwyd yn gywir lawer gwaith fod llawer o'r rhai a dderbyniasant leiaf o addysg yn gwneyd y cynnydd cyflymaf mewn dysg a duwioldeb, yn ystod tym- hor byr, ac yn dyfod yn gysur i'w cyf- eillion, ac yn addurn i gymdeithas; tra mae ereill yn gwarthruddo eu hunain a'u hathrawon, ac yn gadael o'u hol yn unig enwau dirmygus ac annheilwng. Gyda y rhai blaenaf, gellir rhestru Abraham Booth. Ei feddwl oedd yn wastad yn fywiog a grymus, o'r diwedd a ddeffrôdd i weithgarwch, a phenderfynodd ddi- wyllio ei hun. Ni adawodd y pender- fyniadefbyth ar ol unwaith ei fabwys- iadu ; ac mewn amser byr, perffcitliiodd ei hun mewn rhifo ac jrsgrifenu; a thra byddai creill o'r teulu yn mwynhau eu gorphwysfanosawl, byddai efe yn myfyr- io ac yn ymbarotoi at ei ddefnyddioldeb dyfodol, yn yr hyn y bu efe ar ol hyny mor nodedig. Gan nad oedd ei iechyd yn ateb i galedwaith y tyddyn, dysgodd wau hosanau, eithr nid oedd hyn yn gyf- addas iddo chwaith. Yr oedd gwaith uwch a phwysicach yn ei aros. Aelodau yn Eglwys Loegr oeddeirieni; acaenti'r eglwys blwyfol yn gyson nes i bregeth- au rhy w weinidogion selog a berthynai i'r BedyddwyrCyffiedinoldynueusylw. Eff- eithiodd eu rhesymau yn ddwys ar fedd- wl Abraham ieuanc, ac ar ol ystyriaeth bwyllog cydsyniodd i gymeryd ei fedydd- io, yn Barton, gan Mr. Francis Smith. Dangosodd Mr. Booth arwyddion bor- euol o dduwioldeb; a phan dybiai ei rieni ei fod yn treulio ei amser mewn di- fyrwch, clywid ef yn gweddio. Gwedi deall fod ganddo dalentau i fod yn ddefn- yddiol yn eglwys Dduw, hysbysodd ei gyfeillion iddo fyned i'r weinidogaeth; ac ar ol gweddio llawer, a dwys ystyried y gwaith mawr oedd o'i flaen, daeth yn bregethwr gyda y Bedyddwyr Cytíred- inol. Yr oedd efe yn weinidog efengyl gweithgar; yn pregethu yn Melbourne, Barton, Loughborough, Diseworth, a llawer ofanau cylchynol ereill, lle y llaf- uriodd gyda llwyddiant mawr. Yn 1758 priododd â Miss Elisabeth Bowman, merch ieuanc hawddgar a deallus, o'r hon y cafodd deulu lliosog. Y gofynion cynnyddol hyn ar ei gyflog a'i tueddodd i agor athrofa yn Sutton Ashfield, i fon- eddigion ieuainc, yn yr hyn yr unodd ei gydmares hynaws i gymeryd nifer gyfar- tal o íbneddigesau. Yn 1760, ffurfiwyd eglwysi gwahan- iaethol mewn canlyniad i achos y Bed- yddwyr lwyddo; ac yn ganlynol neilldu- wyd Mr. Booth ar y gynnulleidfa yn Kirby woodhouse, lle y llafuriodd am rai blynyddau, nes i dro ddygwydd, yr hwn a'i gwnaeth yn ddyledswydd arno ym- adaeì â phobl a garai mor fawr, a chyda pa rai y llafuriasai cyhyd. Aeth ei olyg- iadau athrawiaethol dan gyfnewidiadau