Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYST APOSTOLAIDD, RHAGFYR, 1848. 3ítttfie&&au lEttfoogton %v ÎSalfogg* JOHN GALE, D.D. Ystyrid y Dr. John Gale, fel un o'r gweinidogion galluocaf yn ei ddydd gyda y Bedyddwyr Cyffredinol. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1679. Mab ydoedd i ddinesydd cyfrifol yn Llundain, yr hwn, wrth ganfod ynddo dalentau rhagorfawr, a benderfynodd roddi iddo addysg dda, a'i gyflwyno i waith y weinidogaeth Gristionogol. I'r dyben hyny anfonwyd Gale ieuanc i Brif Ysgol Leyden, lle yr arosodd ddwy flynedd; a thrwy ei gyn- nydd mawr, fel effaith llafur diorphwys, ennillodd barch yr athrawon, ac anrhyd- eddwyd ef â'r graddebau o Athraw y Celfyddydau a Doctor Philosophi, cyn bod yn bedair ar bymtheg oed. Aeth ar ol hyny i Amsterdam, a threuliodd rai blynyddau gyda y Gwrthdystwyr, dan hyfforddiant Limborch a Le Clere. Ar ei ddychweliad i Loegr, ditynodd ei fyf- yrdodau gydag awch dau ddyblyg, a thrysorodd yn ei feddwl lawer o wybod- aeth fuddiol. Ni ddechreuodd y Dr. Gale bregethu yn sefydlog nes oedd efe yn bymtheg ar ugain oed. Dywedir fod ei gynnulleidfa yn lluosog ac anrhydeddus, ei lais yn glir a soniarus, ei ddulliaith yn rhwydd a nerthol, ei drefniad yn gywir, ei ym- resymiad yn argyhoeddiadol, a'i agwedd yn yr areithfa yn arddangos difrifoldeb a dwysder gweddus i bwysigrwydd y gwaith oedd ganddo mewn llaw. Gwrth- ddrych ei ofal mwyaf oedd argraffu yn ddwfn yn eu meddyliau hwy a'r eiddo ei hun hefyd yr egwyddor o gywirdeb, ar yr hon y tybiai fod ein dedwyddwch neu ein trueni dyfodol yn dibynu; yn ei bryd efnid oedd unrhyw gyrhaeddiadau i'w cydmaru â hon. Derbyniwyd ef i gyfeillgarwch amryw- iol o ddynion enwog yn yr eglwys a'r wladwriaeth, ac yr oedd efe yn aelod enwog o'r gymdeithas a ymgyfarfyddai yn mhrif Lyfr-gellfa Whiston, i chwilio athrawiaethau ac arferion yr eglwys Gristionogol yn y tri neu bedwar canrif- oedd cyntaf, a'u profi wrth yr ysgryth- yrau santaidd. Cymerodd ran fywiog yn nadl Salters Hall; ac mewn llyfryu amddiffynodd ymddygiad y gwrth-dan- ysgrifwyr. Pa glod bynag sydd ddyledus i'r gwŷr oedd o'i blaid ef am eu haelfryd- edd, y rhai a gredent athrawiaeth y Drin- dod, nid oes dim yn ddyledus iddo ef a rhai ereill, ond cydnabyddiaeth o'u gon- estrwydd, yn gwrthod tanysgrifio i'r hyn nad oeddynt yn ei gredu; tra yn nghanol siamplau o ddynion offeiriadol yn gosod eu henwau wrth gredòau croes i'w barn- au, gellir tybied fod gonestrwydd yn deilwng o radd nid anenwog o glod. Y cyhoeddiad a roddodd fwyaf o enwog- rwydd i'w enw oedd ei "Gymhwyllion ar Hanes BedyddMabanod gan Dr.Wall" ( Rcflectìons on Dr. WalVs History of In- fant Bapiism); yn yr hwn y cydnabyddir yn gyff'redinol iddo arddangos llawer o allu, a'r hyn nad yw yn beth cyftredin yn y ddadl hono—ysbryd addfwyn. Cyn- lluniodd amryw orchwylion pwysig, ond attaliwyd ef i'w cyflawni gan dwymyn, yr hon a derfynodd ei oes yn Rhagfyr, 1721, yn 42 mlwydd ocd. Byr barhad oedd ei gystudd olaf, yr hwn a oddefodd gyda y tawelwch a'r amynedd hwnw sydd yn gweddu i feddwl yn cael ei fedd- ianu gan ffydd ddiysgog yn ngoruwch- reolaeth Duw doeth a da, i ragluniaeth yr hwn y cyflwynai ei hun a'i orchwyl- ion bob amser. Gwedi ei farwolaeth cyhoeddwyd pedair cyfrol o'i bregethau 2i